Croeswch y nant yn yr awyr
Mae UNESCO wedi disgrifio’r safle treftadaeth y byd hwn fel ‘campwaith o athrylith greadigol’. Mae 11 milltir gyntaf Camlas Llangollen yn ddarn arbennig o dreftadaeth ddiwydiannol a pheirianyddol sy’n cynnwys argloddiau, twnelau, dyfrbontydd a thraphontydd dŵr, yn cynnwys Dyfrbont Ddŵr Pontcysyllte ei hun, a 31 strwythur rhestredig arall.
Mae holl hyd y safle wedi’i ddynodi’n Heneb Gofrestredig o Bwysigrwydd Cenedlaethol, ac yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.


Syniadau i ddechrau
Darganfyddwch rai o’r atyniadau, lleoedd cysegredig, safleoedd treftadaeth a mannau harddwch ar hyd 11 milltir o Safle Treftadaeth y Byd.

Rhagor o wybodaeth

Statws Treftadaeth y Byd
Beth mae’n ei gymryd i gael eich enwi fel un o safleoedd mwyaf rhagorol o werth cyffredinol eithriadol yn y byd? Bydd ein canllaw i Statws Treftadaeth y Byd yn rhoi’r holl wybodaeth sydd ei angen arnoch i fwynha’r ardal yn hon yn llawn.

Hanes
Darllenwch hanesion y bobl sydd wedi byw a gweithio yn, yn ogystal ag ymweld â’r 11 milltir o Dyfrbont Ddŵr Pontcysyllte a Safle Treftadaeth y Byd Camlas Trefor.

Sut i Gyrraedd
Ymweld am drip undydd neu’n aros am rhai dyddiau, mae’n rhwydd gyda char, trên a bws. Rydym wedi’n lleoli yng Ngogledd Ddwyrain Cymru ac fel canllaw cyffredinol, gallwch ddod yma ar hyd yr M53 neu’r M56 o’r Gogledd Orllewin, a’r M54 o Ganolbarth Lloegr.
Mae tri maes parcio wedi eu arwyddo oddi ar y A539. Cynghorir gyrwyr i beidio â pharcio ym Masn Froncysyllte oddi ar yr A5.
Ein newyddion
diweddaraf
Cael y newyddion diweddaraf, cymerwch ran a mwynhewch!
