Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn chwilio am Geidwaid Gwirfoddol a fyddai’n hoffi helpu i ofalu am yr ardal ac ysbrydoli eraill o ran y tir.
Drwy ymgymryd â rôl gwirfoddolwr fe allwch ddod yn llysgennad dros yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, rhannu eich hoffter a’ch gwybodaeth yn ymwneud â’r ardal, ysbrydoli pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd a helpu i ofalu am y lle arbennig hwn.
Fe fydd y Ceidwaid Gwirfoddol yn gwisgo gwisg swyddogol ac fe allant ddisgwyl cychwyn ar y gwaith drwy gael eu lleoli yn ardaloedd prysurach yr AHNE fel Parciau Gwledig Loggerheads a Moel Famau.
Fe fyddant yn cyfarfod ac yn ymgysylltu gydag aelodau o’r cyhoedd gan rannu gwybodaeth ac ateb cwestiynau a byddant yn cerdded ar hyd llwybrau poblogaidd sy’n cael eu defnyddio’n helaeth gan ymwelwyr.
Gan fod hwn yn rhaglen newydd, fe fydd disgwyl i wirfoddolwyr ymrwymo o leiaf ychydig o ddyddiau y mis, un ai ar benwythnosau neu yn ystod yr wythnos.
Os ydych chi’n 18 oed neu’n hŷn, yn gallu teithio ac â diddordeb mewn ymuno â ni cysylltwch â Ceri Lloyd drwy e-bost ceri.lloyd@denbighshire.gov.uk neu ffoniwch 01824 712757