Dyddiadau cau Dyfrbont Pontcysyllte a’r llwybr tynnu

Closure dates 2025

Gwisgwch eich esgidiau cerdded, dewch â’r teulu ynghyd ac ewch am dro dros Ddyfrbont Pontcysyllte dros gyfnod y Nadolig, cyn iddi gau dros dro yn y flwyddyn newydd.

O 8am ddydd Llun 6 Ionawr 2025, bydd y ddyfrbont ar gau i gychod a bydd y llwybr tynnu hefyd ar gau i gerddwyr. Bydd y Ddyfrbont a’r llwybr tynnu yn ailagor ddydd Gwener 14 Mawrth 2025 am 4pm. Mae hyn yn sgil y gwaith dilynol sydd ei angen ar ôl gwagio’r gamlas a gwaith archwilio yn gynharach eleni.  Wrth gwrs, bydd digon o’r llwybr hardd 11 milltir o hyd i’w archwilio yn y Waun, Llangollen a Rhaeadr y Bedol. Tarwch olwg ar y wefan i weld pa rannau eraill o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO y gallwch chi eu mwynhau!