Er bod Traphont Ddŵr Pontcysyllte ar gau ar gyfer gwaith chynnal a chadw tan 14 Mawrth, mae digon o bethau eraill i’ch cadw’n brysur ar hyd y llwybr 11 milltir pan fyddwch chi’n ymweld:
- Rhowch un droed yng Nghymru ac un droed yn Lloegr wrth i chi groesi’r ffin, gan fwynhau’r golygfeydd o Draphont Ddŵr y Waun, sy’n rhedeg ochr yn ochr â chi. Mae’r golygfeydd o dan y bwâu tuag at Ddyffryn Ceiriog yn syfrdanol!
- Ymwelwch â Chastell y Waun, caer ysblennydd y Mers sydd bellach yn nwylo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Yn ogystal ag ymweld â’r castell, mae’r gerddi a’r tiroedd yn wych i fynd am dro.
- Mae gan y Waun ei hun stryd fawr hyfryd o siopau a bwytai, yn ogystal ag eglwys hardd y Santes Fair.
- Mae 2 dwnnel ar hyd y rhan yma o gamlas Llangollen, rhwng y Waun a Froncysyllte. Cyneuwch dortsh a dechrau’r daith!
- Mae Tŷ Mawr yn barc gwledig hyfryd gyda llwybr cylchol ar hyd afon, anifeiliaid, parc ac ysgubor goffi. Yn ogystal mae’n cynnig golygfeydd hyfryd ar draws Dyffryn Dyfrdwy, gyda Thraphont Cefn yn rhedeg gerllaw.
- Cerddwch i Langollen o Fasn Trefor, darn hardd o’r gamlas. Os cerddwch chi cyn belled â Glanfa Llangollen, gallwch chi fwynhau te hufen neu hufen iâ haeddiannol iawn!
- Mae Glanfa Llangollen yn cynnig teithiau cwch wedi’u tynnu gan geffyl ar ddiwrnodau penodol y tu allan i’r tymor prysur, a bob dydd wrth i’r tymor fynd yn ei flaen. Am ffordd hyfryd o fwynhau’r ardal.
- Cerddwch at Raeadr y Bedol i ryfeddu at gampwaith peirianyddol arall! Fe welwch hefyd y Bont Gadwyn hanesyddol ar y pen hwn o’r llwybr 11 milltir.
- Ewch i Langollen i fynd am dro ar hyd glan yr afon a mwynhau bwyd a diod blasus yn y dref wirioneddol brydferth hon. Mae cymaint o siopau a bwytai annibynnol i’w mwynhau hefyd.
- Yn olaf, ewch ar daith ar Reilffordd Llangollen, Rheilffordd Dreftadaeth sy’n dilyn Afon Dyfrdwy am 10 milltir i fyny’r dyffryn i Gorwen. Gyda gorsafoedd godidog a theithiau cerdded i’w mwynhau ar hyd y ffordd, dyma’r profiad unigryw perffaith.