Dyfnder
- Mae camlesi yn aml yn fas, ond nid yw hynny’n amlwg wrth edrych arnynt. Os neidiwch i mewn, rydych yn debygol o’ch anafu’ch hun, yn ddifrifol efallai.
- Fodd bynnag, peidiwch â meddwl bod pob camlas yn fas. Os nad yw’ch traed yn cyrraedd y gwaelod, bydd yn anos o lawer ichi ddod allan. Mae afonydd, cronfeydd dŵr a dociau fel arfer yn llawer dyfnach ac oerach.
Peryglon cudd
- Mae camlesi’n gartref i lawer o fywyd gwyllt, ac mae cynnal a chadw cynefinoedd dŵr yn rhan fawr o’n gwaith. Os ydych yn y dŵr, gall cyrs a phlanhigion eraill glymu o gwmpas eich breichiau a’ch coesau, eich dal yn y dŵr, a’i gwneud yn anodd iawn ichi ddringo allan.
- Yn anffodus, gall sbwriel fel trolïau siopa fod yn llercian dan wyneb camlesi ac afonydd. Os ydych yn y dŵr, gallech eich anafu’ch hun wrth eich torri’ch hun ar hen feic rhydlyd, gwydr wedi torri, neu gallech gael eich dal gan ddarn mwy o sbwriel, fel troli, neu hyd yn oed feic modur.
Tymheredd
- Hyd yn oed ar ddiwrnod poeth, bydd y dŵr yn oerach nag a feddyliwch chi. Yn enwedig yn y gaeaf, gall tymheredd y dŵr fod yn rhewllyd, ac os neidiwch chi’n ddirybudd i ddŵr oer, gall y tymheredd isel achosi i’ch aelodau a’ch cyhyrau flino’n sydyn iawn — gall hyn arwain at foddi.
Nofio
- Yn ogystal â’r posibilrwydd fod gwrthrychau cuddiedig yn y dŵr, y tymheredd oer, a’r ffaith na wyddoch beth yw dyfnder y dŵr, efallai na allai cychod eich gweld yn y dŵr, ac ni fyddent yn gwybod y dylent stopio.
- Os gwelwch chi rywun mewn trafferth yn y dŵr, peidiwch â mynd i mewn i’r dŵr eich hun. Yn hytrach: galwch y gwasanaethau brys ar 999, daliwch i siarad â’r unigolyn, ac os yw hynny’n bosibl, cynigiwch gangen neu linyn hir iddynt er mwyn eu helpu i ddod allan o’r dŵr.
Cŵn
- Cadwch eich ci ar dennyn ar hyd y llwybrau halio rhag iddo neidio i mewn i’r dŵr.
- Os aiff eich ci i mewn i’r dŵr, peidiwch â neidio i mewn ar ei ôl: Galwch arno a chodwch ef allan yn ddiogel, neu defnyddiwch gangen hir i’w dywys atoch chi.
Afiechydon
Er eu bod yn hynod brin, dylid cadw mewn cof fod afiechydon a gludir gan ddŵr yn bodoli, a dylid bod yn rhagofalus.
- Gorchuddiwch friwiau a sgriffiadau
- Os disgynnwch i mewn, ewch am gawod, a thriniwch friwiau â diheintydd
- Golchwch eich dillad cyn eu gwisgo eto
- Os cewch symptomau tebyg i rai’r ffliw, ewch i weld meddyg, a dywedwch eich bod wedi disgyn i’r dŵr
Cerdded ger y dŵr
- Cynlluniwch eich llwybr a sicrhewch fod gennych ddigon o olau dydd i’w gwblhau
- Mae’n fwy diogel cerdded gyda phobl eraill
- Cadwch draw o ymyl y dŵr. Gall tywydd gwlyb neu rew wneud yr arwynebau wrth y gamlas yn llithrig, gan gynyddu’r perygl o ddisgyn i mewn, yn enwedig yn y gaeaf
- Gwiriwch y tywydd cyn ichi adael
- Gwisgwch y dillad cywir, ac efallai y dylech fynd â dillad cynnes sbâr hefyd, rhag ofn y bydd argyfwng
- Ewch â’ch ffôn, neu chwiban, er mwyn tynnu sylw eraill os bydd argyfwng
Rhwyfo’n Safle Treftadaeth y Byd
Rhwyfo’n gywir ar hyd 11 milltir o dreftadaeth odidog. Mae camlas Llangollen yn lle gwych i ddechreuwyr, grwpiau a theuluoedd neu unrhyw un sy’n chwilio am fynediad hawdd a hwylus, amodau dibynadwy a llond gwlad o bethau i’w gweld.