Gorweddai Parc Gwledig Tŷ Mawr ar lannau afon Dyfrdwy, ac mae hefyd yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
O dan draphont ddramatig Cefn Mawr mae Tŷ Mawr yn darparu’r golygfeydd gorau yn y fro.
Mae’r parc gwledig yn lle perffaith i fwynhau harddwch yr ardal, gyda theithiau sy’n addas i bob gallu. Ewch am dro hamddenol i lawr at yr afon neu ar hyd Dyfrbont Ddŵr Pontcysyllte; eisteddwch ac ymlaciwch, a gweld a welwch chi eog yn neidio!
Yn ogystal â pharc gwledig mae Tŷ Mawr hefyd yn barc fferm gyda dolydd blodau gwyllt organig ac anifeiliaid bach del. Mae’r rhain yn cynnwys cwningod, moch cwta, ieir, defaid, geifr, moch a hyd yn oed lama neu ddau os ydych chi’n lwcus! Mae yma hefyd le chwarae i’r plant a pheth wmbredd o awyr iach, dyma’r man perffaith i gael picnic yn ystod eich ymweliad â’r ardal.
Lleoliad
Maes parcio agosaf a chod post: Parc Gwledig Tŷ Mawr, LL14 3PE
Gorsaf reilffordd agosaf: Y Waun neu Riwabon
Tref agosaf: Cefn Mawr
Yr amser yr awgrymwyd
2-3 awr
Lleoliad
Parc Gwledig Tŷ Mawr, Cefn Mawr, LL14 3PE
Prif faes parcio
Talu ac arddangos