Straeon Gwrthrychau
Darganfyddwch fwy am Ddyfrbont a Chamlas Pontcysyllte drwy wrthrychau – y deunyddiau a ddefnyddiwyd i’w hadeiladu a’r nwyddau sy’n cael eu cludo ar ei hyd. Mae’r gwrthrychau yn amrywio o’r calchfeini enfawr yn Froncysyllte i’r bolltau bach sy’n dal Dyfrbont Pontcysyllte gyda’i gilydd, o baentiadau mewn Orielau i gelf ochr y Gamlas. Dewch i gwrdd â rhai o’r cymeriadau y tu ôl i’r gwrthrychau, y bobl a’u gwnaeth neu eu defnyddio a chael mewnwelediad i fywyd ar y gamlas ac o’i chwmpas.
Defnyddiodd Telford haearn bwrw a wnaed ger y gamlas ar gyfer y dyfrbontydd yn y Waun a Phontcysyllte, mewn pontydd dros y gamlas, fel pont Rhos-y-Coed yn Nhrefor, ac mewn strwythurau ledled Prydain.
Un o oddeutu 500 o nytiau a bolltau haearn gyr a ddisodlwyd wrth adnewyddu’r ddyfrbont yn 2003-4. Roedd y rhai newydd wedi’u gwneud o haearn wedi’i ailgylchu.
Templedi hanesyddol i cadw’r gamlas yn gweithio. Mae’r patrwm hwn yn adrodd hanes coll y gamlas. Dyma’r unig dystiolaeth sydd ar ôl am graen oedd yn gweithio ar gangen Plas Kynaston o’r gamlas. Roedd y Gwaith Olew yn rhan o waith cemegol Graesser ond ym 1896 roedd y craen yn eiddo i Gwmni’r Shropshire Union Canal ac yn cael ei gynnal ganddyn nhw.
Yr allwedd i fywyd syml ar y gamlas. Mae’r agoriad yn offeryn hanfodol i ddefnyddwyr cychod a staff cynnal a chadw’r gamlas. Mae’n far metel siâp L gyda soced ar un pen. Mae’r rhoden o biniwn y llifddor yn ffitio yn y soced. Mae’r agoriad wedyn yn cael ei weindio i agor a chau’r llifddor.
Mae’r gamlas yn cyflenwi blociau adeiladu Prydain Fictoraidd. Enw’r clai sy’n cael ei ganfod yn ardal Rhiwabon, i’r gogledd a’r dwyrain o’r Gamlas yn Nhrefor, yw Etruria Marl. Fel mwyn haearn a thywodfaen yn yr ardal, mae cynnwys haearn uchel ynddo. Pan gaiff ei danio, mae’n troi yn liw coch cryf, yn debyg i nifer o’r adeiladau yn y pentrefi ger y gamlas.
Dal harddwch y gamlas ar gynfas. Mae’r paentiad olew hwn o 1826 gan George Arnald yn dangos Dyfrbont Pontcysyllte fel y caiff ei ddarlunio amlaf. Mae’n edrych tua’r dwyrain, dros yr hen bont, Pont Cysylltau, dros Afon Dyfrdwy. Mae’r dirwedd y tu hwnt i’r ddyfrbont yn fwy aneglur, i bwysleisio’r adeiledd, sydd wedi ei oleuo gan yr haul sy’n isel fin nos.
Darnau celf i’w gweld ar hyd y gamlas. Gellir gweld llaw fawr ar ben llwybr tynnu’r ddyfrbont, sy’n ddau fetr o uchder. Mae wedi ei cherfio o galchfaen gan Anthony Lysycia. Mae’r llaw’n cynrychioli’r gweithwyr niferus a fu’n gweithio i adeiladu’r ddyfrbont, a gweddill y gamlas, heb beiriannau modern i’w helpu.
Carreg leol yn cynnal y nant yn yr awyr. Mae’r pileri tywodfaen talaf sy’n cynnal cafn haearn Dyfrbont Pontcysyllte dros yr afon Dyfrdwy yn mesur dros 38 metr (126 troedfedd).
Cynnal llif y traffig ar y gamlas a throsti. Mae’r pontydd ar draws Camlas Llangollen wedi’u rhifo mewn dau gyfeiriad, gan ddechrau o Gyffordd Frankton yn Swydd Amwythig. Mae’r rhifau sy’n dechrau ag ‘E’ yn mynd tua’r dwyrain a’r rhifau sy’n dechrau ag ‘W’ yn mynd tua’r gorllewin. Pont Cledrid yw man cychwyn y Safle Treftadaeth y Byd a’i rhif yw 19W. Y man terfyn yw Traphont Pont y Brenin yn Llantysilio sydd â’r rhif 49WA.