Former chapel near Trevor basin

Gwaith brics

Mae’r gamlas yn cyflenwi blociau adeiladu Prydain Fictoraidd. Enw’r clai sy’n cael ei ganfod yn ardal Rhiwabon, i'r gogledd a'r dwyrain o'r Gamlas yn Nhrefor, yw Etruria Marl. Fel mwyn haearn a thywodfaen yn yr ardal, mae cynnwys haearn uchel ynddo. Pan gaiff ei danio, mae’n troi yn liw coch cryf, yn debyg i nifer o’r adeiladau yn y pentrefi ger y gamlas.

Disgrifiad

Yn y trefi a’r pentrefi ar hyd y gamlas ac ar draws gogledd ddwyrain Cymru, mae’r adeiladau brics coch yn nodedig am eu bod mor gyffredin. Maent yn ein hatgoffa bod gwaith brics yn gyffredin yn yr ardal ar un adeg, gan ddefnyddio’r clai o ansawdd uchel oedd i’w gael yma.

Mae pridd clai yn anodd ac yn anghynhyrchiol ar gyfer amaethyddiaeth ond yn berffaith ar gyfer ardaloedd diwydiannol. Oherwydd bod clai yn digwydd ger yr arwyneb gellir ei dyllu mewn pyllau agored. Gyda glo fel tanwydd hawdd ei gael ar gyfer yr odynau, roedd y rhanbarth o gwmpas y gamlas yn berffaith ar gyfer creu brics.

Gan fod y diwydiannau ar gyfer gwaith haearn a mwyngloddio wedi tyfu’n gyflym, roedd galw mawr am dai rhad ac adeiladau diwydiannol y gellir eu hadeiladu’n gyflym. Roedd brics yn berffaith. Ar ôl cyflwyno mecanwaith i wneud brics, roedd brics yn rhatach fyth i’w defnyddio, ac yn cael eu cludo i’r dinasoedd oedd yn tyfu fel Lerpwl, Birmingham a Llundain. Maent yn gwisgo’n dda, yn amlbwrpas ac mae’n hawdd eu gwneud yn siapiau diddorol ac amrywiol.

Mae pentrefi ym mhlwyf Rhiwabon yn adnabyddus iawn am eu terracotta coch. Roedd sawl gwaith brics a chrochenwaith bychan a daeth rhai ohonynt yn gwmnïau mawr, yn enwedig J.C Edwards a Dennis. Roedd gwaith brics yn aml yn stampio eu henwau ar eu cynnyrch ac mae modd canfod eu brics ac enw Rhiwabon ar adeiladau ledled Prydain.

Roedd gan Fwcle yn Sir y Fflint, ychydig filltiroedd i’r gogledd o Rhiwabon, ddiwydiannau tebyg ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Mae’r adluniad hwn yn dangos y rhyngberthynas rhwng y gwaith brics, y pwll glo, crochendai a’r dref. Roedd pob un yn darparu cyflogaeth, llafur a nwyddau i’r llall, ynghyd â chludo cynnyrch i ardaloedd eraill.

Brics gwneud â llaw

Mae’r ffilm hon o’r 1930au yn dangos sut yr oedd brics yn cael eu gwneud â llaw mewn gweithfeydd bach, a gyda pheiriant gan gwmnïau mwy. Goroesodd gwneud brics â llaw ym Mhrydain tan 1970au. Nawr dim ond llond llaw o ffatrïoedd mawr sy’n cynhyrchu’r miliynau o frics sy’n cael eu defnyddio bob blwyddyn. Cliciwch yma i weld y fideo.

Mwy O Wybodaeth Am Gwaith brics

Ar ôl ei dyllu o’r tir, mae clai yn cael ei gymysgu’n drylwyr mewn melin gleio. Mae hyn yn sicrhau cydbwysedd o fwynau a dŵr ac yn tynnu’r aer. Mae’r clai yn cael ei fowldio mewn ‘ffurfiau’, sy’n rhoi maint rheolaidd i bob bricsen. Mae’r brics yn cael eu tanio mewn odyn, gan newid y clai yn deracota.

Brick makers / Gwneuthurwyr brics
Gwneuthurwyr brics ©The Brickworks of Wales

Gellir cynhyrchu brics o liwiau gwahanol drwy ychwanegu ychydig bach o fwynau wrth gymysgu’r clai yn y felin gleio. Roedd brics melyn a du yn cael eu cynhyrchu mewn niferoedd bychan o gwmpas Rhiwabon, ynghyd â gwahanol fathau o goch. Yn aml roeddent yn cael eu defnyddio i wneud patrymau addurniadol mewn gwaith brics.

Acrefair houses in red and black brick / Tai Acrefair mewn brics coch a du
Tai Acrefair mewn brics coch a du ©Andrew Deathe

Efallai y byddech yn disgwyl gweld llyffant yn y gamlas, ond gellir eu canfod mewn brics hefyd. Y ‘llyffant’ yw’r bwlch ar ben y fricsen, yn aml lle y rhoddir enw’r gwneuthurwr. Mewn wal, mae’r llyffant yn cael ei lenwi gyda morter, gan wneud uniad cryfach gyda’r fricsen sydd uwch ei phen.

J C Edwards brick showing frog / Bricsen JCEdwards yn dangos llyffant
Bricsen JCEdwards yn dangos llyffant ©Andrew Deathe

Gydag ystod enfawr o ddyluniadau a meintiau yn cael eu cynhyrchu yn y gwaith brics, cynhyrchwyd catalogau i alluogi prynwyr i ddewis y cynnyrch yr oedd ei angen arnynt. Roedd nifer o’r brics a’r teils wedi’u marcio gyda meintiau a rhifau dylunio, mewn llefydd lle na ellir eu gweld ar ôl eu gosod ar adeilad.

Wall cap tile at Tref-y-Nant / Teilsen cap wal yn Nhref-y-Nant
Teilsen cap wal yn Nhref-y-Nant ©Andrew Deathe

Roedd dros 120 o weithfeydd brics yn gweithredu yn Sir Ddinbych a Sir y Fflint yn ystod y bedwaredd ganrif a’r bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif. Roedd llawer yn fusnesau bach, yn cyflenwi’r ardal leol yn unig ond roedd cwmni J.C. Edwards yn cyflogi dros 1000 o bobl, gwelir rhai ohonynt yma. Oherwydd bod ardal Rhiwabon yn adnabyddus yn genedlaethol oherwydd y diwydiannau clai yn yr ardal, rhoddwyd yr enw ‘Terracottapolis’ arno.

Tref-y-Nant workers Gweithwir Tref-y-Nant
Gweithwir Tref-y-Nant ©Amgueddfa Llangollen

Roedd brics yn rhatach ac yn haws i’w defnyddio wrth adeiladu na cherrig. Roedd cynnydd y diwydiannau yn golygu bod galw am dai ac mae adeiladau brics i’w gweld yn amlwg yn y pentrefi heddiw. Mewn rhannau gellir gweld ble mae hen adeiladau cerrig wedi’u hehangu gydag estyniadau brics, fel tŷ’r rheolwr ym masn y gamlas yn Nhrefor.

Trevor basin managers house Tŷ rheolwr basn Trefor
Tŷ rheolwr basn Trefor ©Andrew Deathe

Ynghyd â gwneud brics, defnyddir clai i leinio camlas a dal y dŵr i mewn. Mae’r clai yn cael ei gymysgu gyda dŵr a’i wasgu, neu ei ‘bwdlo’ fel bod yr aer yn cael ei wasgu allan ohono. Roedd adeiladwyr camlesi yn gwthio’r clai i lawr gyda stampar pren, blociau trwm ar byst.

19th century workers puddling clay Clai pwdlo gweithwyr y 19eg ganrif
Clai pwdlo gweithwyr y 19eg ganrif: Cyflenwyd gan Canal & River Trust, National Waterways Archive, image 1080

Mae twneli’r Waun a Whitehouses ar y gamlas wedi’u leinio â degau o filoedd o frics a wnaed yn lleol. Yn lle tyllu’r twneli drwy’r bryniau, tyllodd gweithlu Telford ffos ac yna adeiladu’r twnnel brics drosti. Gallent sicrhau strwythur perffaith, cadarn ac a oedd yn dal dŵr.

Chirk Tunnel Twnnel y Waun
Twnnel y Waun ©Hawlfraint y Goron: CBHC

Roedd y crochendai a’r gwaith brics o amgylch Trefor, Cefn Mawr a Chefnbychan wedi’u cysylltu â’r pyllau clai, y brif reilffordd a’r gamlas gyda rhwydwaith o dramffyrdd. Roedd cei Pen-y-Bont, ar y gamlas ger Pentre, hanner milltir o’r gwaith brics ond roedd tramffordd yn dilyn y ffordd i’w cysylltu.

Pen-y-Bont Wharf Cei Pen-y-Bont
Cei Pen-y-Bont ©Hawlfraint y Goron: CBHC

Pen-y-Bont, dros yr afon o Chefnbychan, oedd y canolbwynt ar gyfer cynhyrchiad terracotta coch enwog J.C. Edwards. Caeodd y gweithle ym 1961 a daeth y pwll clai enfawr yn safle tirlenwi. Mae rhai o fythynnod y gweithwyr ac adeilad swyddfa yn dal i sefyll, fe’u dyluniwyd i ddangos beth y gellir ei gyflawni gyda chynnyrch y cwmni.

Pen-y-Bont office and house  Swyddfa a thŷ Pen-y-Bont
Swyddfa a thŷ Pen-y-Bont cc-by-sa/2.0 – ©Ron Thomson – geograph.org.uk/p/768572

Dechreuodd James Coster Edwards (1828-1896) fel labrwr pan yn fachgen ond erbyn 1870 roedd wedi sefydlu ei gwmni ei hun. Yn y diwedd roedd tri lleoliad gwaith brics J. C. Edwards, yn Nhref-y-Nant, Pen-y-Bont a Rhosllannerchrugog, yn ffurfio’r cwmni terracotta mwyaf ym Mhrydain. Daeth Edwards yn Uchel Siryf Sir Ddinbych ym 1892 ac adeiladodd Bryn Howel ger y gamlas ar gyfer ei deulu.

Bryn Howel
Bryn Howel ©Amgueddfa Llangollen

Roedd Tref-y-Nant yn waith brics a theils enfawr ar gyfer J.C.Edwards yn Acrefair. Heddiw, dim ond pâr o byst giât swyddfa sydd ar y safle. Mae pâr arall wedi’u hailadeiladu y tu allan i amgueddfa Cefn Mawr. Roedd tramffyrdd yn dod â chlai o’r pyllau ar y bryn ac yn mynd â’r nwyddau terfynol i gamlas Plas Kynaston.

Tref-y-nant office gate at Cefn Museum Giat swyddfa Tref-y-Nant yn Amgueddfa Cefn
Gât swyddfa Tref-y-Nant yn Amgueddfa Cefn ©Andrew Deathe

Roedd gwneuthurwyr brics a theils yn adeiladu swyddfeydd, adeilad gwaith a thai ar gyfer y gweithwyr gyda’u cynnyrch eu hunain. Roedd J. C. Edwards yn gweld hyn fel cyfle i ddangos yr ystod o gynnyrch ac mae nifer o’r adeiladau hardd yn dal i sefyll heddiw. Dyma hen dŷ’r rheolwr, ar draws y ffordd o waith brics Tref-y-Nant.

Former brickworks house, Acrefair Hen dŷ gwaith brics, Acrefair
Hen dŷ gwaith brics, Acrefair ©Hawlfraint y Goron: CBHC

Defnyddiwyd brics J. C. Edwards ledled Prydain ac roedd eu lliw coch cryf yn boblogaidd ar gyfer adeiladau Fictoraidd ac Edwardaidd. Roedd y clai mân yn golygu y gellir creu addurniadau cerfluniol cymhleth. Adeiladwyd Adeilad eiconig y Pierhead ym Mhorthladd Bute yng Nghaerdydd ym 1896, o gynnyrch J.C. Edwards a wnaed yng ngwaith brics Pen-y-Bont.

Pierhead, Cardiff Pierhead, Caerdydd
Pierhead, Caerdydd ©Eiona Roberts

Roedd cynnyrch J. C. Edwards yn teithio’n bell. Roeddent yn cyflenwi teils llawr ar gyfer y ceginau ar y Titanic a suddodd ym 1912. Ym 1903, roedd terracotta addurniadol J.C. Edwards i’w weld y tu allan i orsafoedd Trenau Tanddaearol Llundain ar y lein Ganolog, fel Oxford Circus. Roedd y cwmni hefyd wedi creu teils gwyn ar gyfer y platfform.

Oxford Circus
Oxford Circus: cc-by-sa/2.0 – ©N Chadwick – geograph.org.uk/p/5967522

Gwaith Dennis yn Hafod oedd y gwaith brics a theils olaf yng Ngogledd Cymru. Fe gaewyd y gwaith ym mis Ionawr 2008, ac roedd yn edrych fel pe bai canrifoedd o waith brics yn yr ardal yn dod i ben. Lluniwyd cwmni newydd ar y safle, ac mae enw Rhiwabon i’w weld ar y teils sy’n cael eu creu yma o hyd.

Dennis works, Johnstown
Gwaith Dennis, Johnstown cc-by-sa/2.0 – ©Stuart Logan – geograph.org.uk/p/3716441