Gelwir y llwybr sy’n mynd ar hyd ymyl camlas yn llwybr halio. Heddiw defnyddir y llwybrau hyn yn bennaf gan gerddwyr a beicwyr, ond am y rhan helaeth o oes y gamlas fe’u troediwyd gan garnau ceffylau, pwerdai’r system camlesi, yn tynnu cychod.
Gallai ceffyl pwn ar y ffordd gario oddeutu wythfed o dunnell. Gallai ceffyl dynnu wagen wyth tunnell ar hyd cledrau gwastad. Ar y gamlas, fodd bynnag, gallai un ceffyl symud cwch 30 tunnell yn ddidrafferth. Cyn dyfodiad trenau stêm dyma oedd y ffordd orau o lawer i symud sypiau mawr o ddefnyddiau trwm dros bellter.
Bu ceffylau’n tynnu cychod ar gamlesi hyd yn oed ar ôl i gychod modur ddod yn gyffredin tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gallai ceffylau fynd yr un mor chwim â pheiriannau stêm neu foduron diesel ar deithiau byr, ond gallai cychod modur weithio ddydd a nos dros bellteroedd hwy.
Daeth y defnydd masnachol o gychod yn fwy prin gyda thwf twristiaeth ar ôl y 1940au ond nid oedd ceffylau’n addas ar gyfer cychod hamdden oherwydd y gwaith cadw a’r cyfrifoldeb yn eu cylch. Diflannodd cychod halio bron yn llwyr cyn i nifer fechan o bobl fynd i chwilio am y cychwyr olaf a fu’n gweithio gyda cheffylau er mwyn dysgu’r sgiliau angenrheidiol i gadw’r traddodiad yn fyw.
Dyma’r unig ‘Shropshire Fly Boat’ sydd ar ôl, ‘Saturn’, yn cael ei dynnu gan geffyl. Yn y ffilm hon mae’r cwch yn dechrau’r daith o Gaer i Ellesmere Port ar gyfer Rali Cychod Hanesyddol 2009. Cychod cyflym oedd y ‘fly boats’ a oedd yn gweithio’n ddi-baid ddydd a nos, gan ffeirio ceffylau wrth fynd, er mwyn cynnig gwasanaeth dibynadwy i ddanfon nwyddau rhwng trefi ar adegau penodol.
Camlas Trefaldwyn yn y Trallwng
Dyma David Johns yn mynd am dro ar hyd Camlas Trefaldwyn yn y Trallwng. Cracker yw’r ceffyl sy’n tynnu’r cwch bach, Countess. Mae’n un o blith llond dyrnaid o gychod hamdden wedi’u tynnu gan geffylau sy’n gweithio ar gamlesi Prydain heddiw.
Sue Day o’r Gymdeithas Cychod Ceffyl yn sôn am ddefnyddio ceffylau ar Gamlas Leeds a Lerpwl. Mae hi’n siarad am hyfforddi ceffylau a chadw’r hen sgiliau a ddefnyddiwyd i’w helpu i wneud eu ffordd ar hyd y gamlas.
Mwy O Wybodaeth Am Ceffylau
Nid oedd ceffylau camlas yn perthyn i unrhyw frîd penodol. Detholwyd yr anifeiliaid ar sail eu nerth a’u stamina. Ni allai ceffyl fod yn rhy dal fel na fedrai fynd o dan y pontydd isel. Byddai cychwyr fel arfer yn gweithio â’r un ceffyl bob dydd ac yn eu gweld fel aelodau gwerthfawr o’r criw, neu hyd yn oed fel rhan o’r teulu.
Mae coler yn ffitio o amgylch gwddf y ceffyl ac yn gorwedd ar ei ysgwyddau. Gwneir y coleri o ledr ac maent wedi’u stwffio â gwellt i greu clustog meddal i’r ceffyl wthio yn ei erbyn. Mae’r goler yn gwahanu yn y pen uchaf i’w gwneud yn hawdd ei thynnu os yw’r ceffyl yn mynd yn y dŵr.
Mae’r harnais sy’n mynd dros gorff y ceffyl wedi’i gwneud o strapiau lledr. Ar yr ochrau mae’r tresi, sef rhaffau sy’n cysylltu’r goler i’r cwch. Rhoddir bobinau pren ar y rhaffau i’w hatal rhag crafu ystlysau’r ceffyl. Paentiwyd y bobinau hyn yn lliwgar yn aml iawn.
Y tu ôl i’r ceffyl mae’r tresi’n cysylltu â pholyn llorweddol o’r enw cambren, a elwid weithiau’n dinbren. Mae hwn yn cadw’r tresi ar wahân fel nad ydynt yn gwasgu ystlysau’r ceffyl a’r coesau ôl. Clymir y rhaff i’r cwch yn y man ble mae’r tresi’n dod ynghyd, neu defnyddir bachyn ar y cambren.
Byddai ceffylau camlas weithiau’n gwisgo ffrwynau tywyll dros eu llygaid. Roedd hynny’n dal eu sylw’n syth o’u blaenau ac yn golygu nad oedd dim byd yn eu dychryn. Ar rai rhannau o’r system gamlesi roeddent hefyd yn gwisgo capiau gwlân i gadw pryfed oddi ar eu clustiau. Cychwyr benywaidd oedd yn gwneud y rhain.
Defnyddiwyd rhaff cotwm i dynnu’r cwch ar y gamlas. Fe’i cysylltwyd i hwylbren cwta ar ben y cwch, ychydig y tu ôl i’r pen blaen. Pe cysylltid y rhaff yn is i lawr, yn syth i’r pen blaen, câi’r cwch ei dynnu i’r dorlan drwy’r amser.
Wrth i’r rhaffau wlychu a baeddu gyda graean o’r llwybr halio maent yn mynd yn arw iawn. Ar lawer o’r hen bontydd dros y gamlas fe welwch chi rychau ar gonglfeini’r bwâu a grëwyd gan raffau’n rhwbio yn eu herbyn am flynyddoedd lawer.
Diben y rheiliau wrth y llwybr halio yn nhwnelau’r Waun a Whitehouses yw atal y ceffylau rhag syrthio i’r gamlas liw nos. Yn neupen y twnelau mae’r rheiliau’n mynd ar oleddf i fyny o’r ddaear, fel bod y rhaffau’n llithro i fyny heb ddal ar yr ymylon.
Roedd y twnelau yn y Waun a Whitehouses ymhlith rhai o’r cyntaf ym Mhrydain i fod â llwybr halio’n mynd drwyddynt. Yr hyn a wneid gyda thwnelau hŷn oedd mynd â’r ceffylau uwch eu pennau a cherdded y cychod drwodd. Gwnaed hynny gan ddau ddyn yn gorwedd ar eu cefnau, yn gwthio’u traed yn erbyn waliau’r twnel.
Roedd ceffylau’n werthfawr i’r teuluoedd a chwmnïau camlas oedd yn berchen arnynt, ac fe’u triniwyd yn dda ar y cyfan. Byddent yn gorffwys dros nos mewn stablau ar lannau’r gamlas i’w cadw’n gynnes. Roeddent yn cael bwyd maethlon dros ben a oedd yn aml yn dod mewn tuniau wedi’u gosod yn sownd i’w ffrwynau, fel y gallant ddal i fwyta wrth weithio.
Cyflogwyd llawer o bobl ar hyd y gamlas i ofalu am y ceffylau. Roedd yno ostleriaid yn rhedeg stablau, storfeydd yn gwerthu bwyd a byddai cwmnïau’r gamlas yn cyflogi arolygwyr i sicrhau y gofalid am yr anifeiliaid. Roedd yno ddigon o waith i ofaint hefyd gan nad oedd pedolau ond yn para rhwng pedair a chwe wythnos.
Byddai ceffylau cychod fel arfer yn dechrau gweithio pan oeddent yn bedair oed, ac yn dal ati am oddeutu 20-25 o flynyddoedd. Y ceffyl hynaf erioed oedd Old Billy, ceffyl a fu’n tynnu cychod ar Ddyfrffordd Mersi ac Irwell. Bu’n fyw tan oedd yn 62, dwywaith yr oed arferol i geffyl. Roedd Old Billy mor enwog fel bod llawer o bortreadau ohono wedi’u paentio.
Defnyddiwyd asynnod hefyd i dynnu cychod camlas, yn enwedig tan ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. A hwythau’n llai na cheffylau ac yn llai nerthol, byddent yn aml yn gweithio fesul dau. Roeddent yn greaduriaid cedyrn, serch hynny, ac yn rhatach eu cadw gan nad oedd arnynt angen pedolau na bwyd mor raenus.
Mae mul yn groesfrid rhwng ceffyl ac asyn. Defnyddiwyd mulod weithiau i dynnu cychod ar gamlesi, ond roedd hynny’n beth mwy cyffredin yn America nac ym Mhrydain. Yn ôl cychwyr America roedd mulod yn llai tebygol na cheffylau o neidio i’r dŵr os oeddent yn sychedig neu’n boeth.
Cynhaliwyd arbrawf anarferol tua diwedd y 1880au i weld a fyddai injan stêm yn mynd ar gledrau ar hyd y llwybr halio yn tynnu cwch yn fwy effeithlon na cheffyl. Nid oedd yr arbrawf yn llwyddiant. Daliodd ceffylau ati i dynnu cychod ar y camlesi, ond byddai cychod stêm yn dod i’w herio cyn hir.
Anaml iawn y gwelwch chi geffyl yn tynnu cwch ar gamlas ym Mhrydain heddiw. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn gychod hamdden sy’n rhoi teithiau byr i dwristiaid. Mae’r Gymdeithas Cychod Ceffyl yn cynnal y dulliau traddodiadol o reoli ceffylau ar y gamlas. Maent yn arddangos y sgiliau angenrheidiol mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau.