Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont Pontcysyllte a’r Gamlas
Haearn
Defnyddiodd Telford haearn bwrw a wnaed ger y gamlas ar gyfer y dyfrbontydd yn y Waun a Phontcysyllte, mewn pontydd dros y gamlas, fel pont Rhos-y-Coed yn Nhrefor, ac mewn strwythurau ledled Prydain.
Os mai glo wnaeth bweru’r Chwyldro Diwydiannol, yna haearn adeiladodd y Chwyldro. Gyda glo, mwyn haearn a chalchfaen o amgylch Trefor, Cefn Mawr, Acrefair a’r ardal ehangach, nid gwasanaethu’r diwydiannau newydd yn unig oedd y gamlas ond fe’i hadeiladwyd ganddynt hefyd.
Yn Ironbridge yn Swydd Amwythig, datblygodd y diwydianwyr ffwrnesi chwyth oedd yn gallu toddi haearn y gellir ei fwrw mewn rhannau ar gyfer adeiladau newydd. Roedd Thomas Telford yn Syrfëwr Sirol ar gyfer Swydd Amwythig ac wedi dysgu o waith y ‘meistri haearn’ hyn pan y dyluniodd ef a William Jessop Ddyfrbontydd y Waun a Phontcysyllte.
Roedd gwaith haearn yn waith peryglus. Roedd rhai yn llwyddo i ennill cyfoeth mawr ac eraill yn colli eu holl arian. Roedd yn cyflogi miloedd o bobl yng ngogledd ddwyrain Cymru ac yn Swydd Amwythig, ond fe anafodd a chreithiodd nifer ohonynt. Roedd yn gymorth i lunio’r pentrefi yng nghanol Safle Treftadaeth y Byd, a thrwy’r gamlas, fe gludodd enw Rhiwabon ledled Prydain.
Mae’r adluniad o’r gwaith yn Ynysfach yn dangos haearn bwrw yn cael ei gynhyrchu ar gyfer y gwaith yng Nghyfarthfa, Merthyr Tudful. Roedd Ynysfach yn llawer mwy na Phlas Kynaston ond roedd y prosesau a ddefnyddiwyd yno yr un fath â’r rhai a ddefnyddiwyd i gynhyrchu’r haearn ar gyfer Dyfrbont Pontcysyllte. Cliciwch yma i weld y fideo.
Tref Fictoraidd Blist’s Hill
Fideo o weithwyr haearn yn defnyddio peiriannau a dulliau Fictoraidd i wneud haearn bwrw, yn Nhref Fictoraidd Blist’s Hill, ger Ironbridge, Swydd Amwythig. Er nad yw’r un fath â’r broses a ddefnyddir ym Mhlas Kynaston, mae’n dangos y gwres a’r amodau yr oedd yn rhaid i’r gweithwyr haearn eu dioddef.
Mwy O Wybodaeth Am Haearn
Mae mwyn haearn yn graig gyffredin ar draws meysydd glo Gogledd Cymru. Mae haearn yn cael ei echdynnu drwy ei losgi ar dymereddau uchel. Mae’r garreg lwyd yn newid lliw i goch rhydlyd pan gaiff ei hamlygu i’r aer. Gellir gweld hyn mewn sawl adeilad lleol, fel y wal o amgylch basn y gamlas yn Nhrefor.
Mae mwyn haearn yn cael ei gynhesu i dymheredd uchel iawn gyda thanwydd, golosg fel arfer. Ychwanegir calchfaen fel ‘toddydd’. Mae hyn yn rhwymo’r amhureddau yn y mwyn haearn i ffurfio ‘sorod’ y gellir ei dynnu. Mae’r haearn poeth yn cael ei dywallt i fowldiau wedi’u llunio â thywod, gan greu barau o’r enw ‘haearn hwch’. Mae’r enghreifftiau hyn o ffowndrïau eraill yng Nghymru.
Yn wreiddiol defnyddiwyd siarcol a wnaed o goed ar gyfer mwyndoddi haearn ond roedd yn anodd ei gynhyrchu mewn symiau mawr. Defnyddiwyd glo am y tro cyntaf i fwyndoddi yng Ngogledd Cymru ym Mhont y Blew, ger y Waun, ym 1710. Roedd y bont sydd wedi goroesi yn cysylltu’r ffwrnais gyda gefail a bwerwyd gan ddŵr ar lannau’r Afon Ceiriog.
Golosg yw glo sydd wedi’i goginio neu ei ‘losgi’ mewn popty, gan ei wresogi i dynnu’r amhureddau fel sylffwr. Mae’n llosgi’n well na glo i greu’r gwres sydd ei angen i doddi haearn o fwyn haearn mewn ffwrneisi chwyth. Mae cyfres o boptai llosgi o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg i’w gweld ger y gamlas yn Acrefair.
Roedd haearn yn cael ei gynhyrchu neu ei ‘fwyndoddi’ mewn ffwrneisi chwyth. Roedd golosg, mwyn haearn a chalchfaen yn rhan uchaf y ffwrnais. Roedd meginau wedi’u pweru â stêm yn chwythu aer i’r tân i’w wneud yn boethach. Roedd haearn tawdd yn cael ei dywallt neu ei ‘dapio’ yn y gwaelod. Roedd y gwres yn anhygoel ac roedd y tanau’n goleuo’r awyr yn y nos.
Roedd gallu bwrw haearn mewn symiau mawr yn galluogi datblygu technolegau newydd. Agorwyd y bont haearn fawr gyntaf ym 1781, yn y dref a elwir yn Ironbridge yn Lloegr yn awr. Roedd Telford yn edmygu’r bont ond yn teimlo y gellir ei dylunio’n well. Agorwyd y cyntaf o nifer o’i bontydd haearn yn Buildwas ym 1797.
Roedd yr ardal o gwmpas Coalbrookdale, Swydd Amwythig, yn ganolbwynt mawr ar gyfer datblygu’r diwydiannau haearn. Roedd Telford yn Syrfëwr Sirol o 1787 ac roedd wedi dysgu llawer gan y meistri haearn yno. Aeth ymlaen i ffurfio cyfeillgarwch oes a phartneriaethau busnes gyda nifer ohonynt. Fe ddefnyddiodd eu haearn mewn prosiectau ledled Prydain ac Iwerddon.
Roedd William Hazledine (1763-1840) yn feistr haearn yn Swydd Amwythig. Roedd mor awyddus i gael y contract ar gyfer Dyfrbont Pontcysyllte fel yr adeiladodd waith Plas Kynaston ger Cefn Mawr ym 1800, er mwyn bod mor agos â phosibl i’r safle. O 1802 cynhyrchodd ei waith haearn yr holl haearn ar gyfer y ddyfrbont.
Defnyddiwyd haearn Plas Kynaston ar gyfer nifer o brosiectau diweddarach Telford. Gellir ei ganfod ym Mhont Waterloo ym Metws y Coed, Cymru, Pont Eaton Hall yn Swydd Gaer, Lloegr a Phont Craigellachie ym Moray, yr Alban. Cludwyd castin Pont Craigellachie ar y gamlas i Gaer ac yna ar y môr.
Mae llythrennau haearn bwrw ar fwa Pont Waterloo ym Metws y Coed, Cymru yn dweud ‘This arch was constructed in the same year the Battle of Waterloo was fought’. Mewn gwirionedd, crëwyd y strwythur ym 1815 ym Mhlas Kynaston ond ni chodwyd y bont ym Metws y Coed tan y flwyddyn ganlynol.
Nid oedd gwaith haearn Plas Kynaston yn fawr iawn o gymharu â rhai o’r gweithfeydd haearn yn yr ardal yn ddiweddarach. Nid oes delweddau cyfoes ohono, ond byddai’n debyg i Waith Calcutts William Hazledine yn Jackfield, Swydd Amwythig. Roedd mwyn haearn, glo a chalchfaen yn cael eu cludo yma, ac yna cludwyd yr haearn oddi yno, ar yr afon Hafren.
O 1829, roedd cangen o’r gamlas yn cysylltu Gwaith Haearn Plas Kynaston gyda basn y brif gamlas yn Nhrefor. Roedd y gangen yn parhau heibio i waith brics a phwll glo. Nid oes fawr ddim o’r gamlas yn weddill erbyn heddiw. Mae’r pen sy’n weddill i’r gogledd o fasn Trefor, gyda rhywfaint ohono wedi’i gladdu o dan dir diffaith ger maes parcio’r ymwelwyr.
I’r gogledd o Waith Haearn Plas Kynaston roedd Gwaith Haearn Acrefair yn ddiweddarach. Wedi’i greu ym 1817, daeth yn rhan o Gwmni Haearn Newydd Prydain a chyflogi hyd at 1500 o bobl tan 1887. Dim ond y wal amgylchynol a chyfres o boptai llosgi sydd wedi goroesi ond safodd y ffwrnais chwyth olaf tan 1963.
Roedd Exuperius Pickering yn berchennog gwaith haearn bychan yng Nghefnbychan. Fe wnaeth y cadwyni ar gyfer ei Bont Gadwyn, ger y gamlas ym Merwyn. Adeiladodd ei fab, Exuperius Junior, waith haearn yn ddiweddarach yn Nhrefor. Yn y coed ger y gamlas gellir gweld darnau mawr o ‘glincer’ – gwastraff o fwyndoddi haearn – a allai fod wedi dod o’r gweithfeydd hyn.
Defnydd o haearn ar y gamlas na ellir ei weld fel arfer, yw cap haearn ar y gored yn Rhaeadr y Bedol. Wedi’i ychwanegu ym 1822, mae’r cap yn creu lefel wastad ar hyd y gored. Yn arloesol yn ei gyfnod, mae ei lwyddiant wedi arwain at greu coredau haearn fel mater o drefn.