Wagon from Moel y Faen quarry

Llechi

Yn cysylltu’r chwareli â’r byd. Wagen dramffordd o chwarel Moel Faen.

Disgrifiad

Mae Mynyddoedd Llantysilio a’r Berwyn ger Dyffryn Dyfrdwy a Dyffryn Ceiriog yn ffynonellau da ar gyfer llechi, ac fe’u defnyddiwyd mewn adeiladau lleol am ganrifoedd. Gyda dyfodiad y gamlas agorwyd marchnadoedd newydd i’r chwareli, cyn belled â Llundain. Gallai cychod camlas gario llwythi llawer trymach na cherti i’r dinasoedd diwydiannol ffyniannus.

Roedd tramffyrdd yn cysylltu’r chwareli a’r camlesi. Roedd y rhain yn defnyddio wagenni ar gledrau, a gâi eu tynnu gan geffylau, neu gyda disgyrchiant yn unig ar lethrau serth, a elwir yn incleiniau. Yn ddiweddarach, defnyddiwyd injans stêm bach ar Dramffordd Dyffryn Glyn.

Fel arfer byddai’r llechi’n cael eu torri a’u naddu yn y chwareli, fel mai dim ond y garreg ddefnyddiol a fyddai angen ei chludo. Er hyn, byddai’r chwareli ger Llangollen yn cludo’r deunydd crai i felin lechi ym Mhentrefelin. Roedd y rhain yn weithfeydd mawr ac yn cynnwys bythynnod ar gyfer teuluoedd rhai o’r gweithwyr, craen llwytho dros y gamlas ac, yn y pen draw, eu seidins rheilffordd eu hunain.

Ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd chwareli a melinau llechi’n cyflogi cannoedd o weithwyr. Ond gwelodd y diwydiant gyfnodau economaidd llewyrchus ac aflwyddiannus, ac nid oedd y gwaith peryglus bob amser yn cynnig sicrwydd swydd. Erbyn hyn, dim ond un chwarel sy’n dal i gael ei defnyddio ar Fynydd Llantysilio, a hynny ar raddfa lai o lawer nag yn y gorffennol.

Mae’r ffilm hwn, a wnaed yn Chwarel Penrhyn, Bethesda yn 1946, yn dangos yr un dulliau gweithio â’r rhai a ddefnyddiwyd yn chwareli Llangollen a Phentrefelin. Cliciwch yma i weld y fideo.

Ffilm 1930au o chwarel ddienw yng Nghymru

Mae’r ffilm hwn yn dangos yr un dulliau gweithio â’r rhai a ddefnyddiwyd yn chwareli Llangollen a Phentrefelin.

Mwy O Wybodaeth Am Llechi

Yn wreiddiol, mwd ar waelod môr hynafol oedd y mwynau sy’n ffurfio llechi. Dros gannoedd o filiynau o flynyddoedd, gwnaeth gwres a gwasgedd gywasgu’r mwd yn haenau caled. Aliniad y grisialau yn yr haenau hyn sy’n ei gwneud yn bosibl i hollti llechi’n arwynebau llydan, gwastad, o fwy neu lai unrhyw drwch.

Llechi wedi eu hollti yn drwch amrywiol  Slate split into various thicknesses
Llechi wedi eu hollti yn drwch amrywiol ©Amgueddfa Cymru

Clogau, a elwir nawr yn chwarel Berwyn, yw’r olaf yn yr ardal hon sy’n dal i gloddio am lechi newydd. Mae’r felin nawr yn y chwarel, nid ym Mhentrefelin, ond mae’r llechi’n parhau i gael eu torri fel slabiau gan fwyaf. Defnyddir y rhain ar gyfer wynebau gweithio mewn ceginau, lloriau a hyd yn oed ar gyfer wyneb y cloc ar Eglwys Llangollen.

Chwarel y Berwyn Quarry
Chwarel y Berwyn © Hawlfraint y Goron: CBHC

Moel y Faen oedd y chwarel fwyaf a wasanaethai’r gweithfeydd llechi ym Mhentrefelin. Yn yr 1880au roedd yn cyflogi bron i 200 o chwarelwyr. Erbyn heddiw, y pentyrrau gwastraff enfawr sy’n cael eu cloddio. Defnyddir y llechi gwastraff hyn nawr fel agreg yn y diwydiant adeiladu.

Chwarel Moel y Faen quarry
Chwarel Moel y Faen © Hawlfraint y Goron: CBHC

O’r gamlas ym Mhentrefelin gallwch weld pen isaf tramffordd Oernant, a adeiladwyd yn 1857. Arferai’r rheilffordd hon, a dynnwyd gan geffyl, ddod â’r wagenni o lechi heb eu torri i’r felin ym Mhentrefelin. Roedd y dramffordd yn cysylltu â rheilffyrdd inclein o chwareli Moel y Faen, Oernant a Chlogau.

Tramffordd Oernant Tramroad
Tramffordd Oernant ©Andrew Deathe

Ar waelod tramffordd Oernant, byddai’r wagenni llechi’n cael eu cludo dros y gamlas ar bont godi. Nid yw’r bont yno mwyach ond hyd heddiw gallwch weld y gamlas yn culhau lle safai’r bont.

Pont godi i’r gwaith Lift bridge to works
Pont godi i’r gwaith © Amgueddfa Llangollen

Erbyn hyn mae’r sied ym Mhentrefelin, lle byddai’r llechi’n cael eu torri’n slabiau, wedi ei throi’n Amgueddfa Moduron Llangollen. Byddai’n defnyddio llif cyflym yr afon i gael pŵer a’r gamlas i gludo’r cynnyrch. Adeiladwyd cyswllt rheilffordd o’r brif linell i’r gweithfeydd yn 1869, a chostiodd hynny £1,000.

Afon a gwaith River and works
Afon a gwaith © Amgueddfa Llangollen

Mae bythynnod ar gyfer gweithwyr y felin lechi ar ddwy ochr y gamlas. Mae tŷ’r rheolwr fymryn uwch eu pennau ar y bryn. Capten John Paull oedd y rheolwr am dros chwarter canrif. Sefydlodd ef y capel Saesneg cyntaf yn Llangollen. Cyn hynny, byddai gwasanaethau’n cael eu cynnal yn ei dŷ.

Tŷ’r rheolwr Manager's house
Tŷ’r rheolwr ©Andrew Deathe

Roedd Tramffordd Dyffryn Glyn yn cludo llechi, ithfaen a chalchfaen o chwareli yn nyffryn Ceiriog at y gamlas. Yn wreiddiol, byddai’n mynd at lanfa yn y Gledryd ond ar ôl i’r rheilffordd gael ei hadeiladu, dargyfeiriodd y dramffordd i orsaf y Waun a glanfa arall ymhellach i lawr y gamlas, ger cyflenwydd Afon Bradle.

Cei Tramffordd Dyffryn Glyn ar ymyl y gamlas  Glyn Valley Tramway wharf at canalside
Cei Tramffordd Dyffryn Glyn ar ymyl y gamlas © Hawlfraint y Goron: CBHC

O 1874 arferai Tramffordd Dyffryn Glyn gludo teithwyr yn ogystal â chynnyrch chwareli. Yn wreiddiol, byddai’n cael ei thynnu gan geffylau, ond yna newidiodd i injans stêm yn 1888. Wrth i’r chwareli ddirywio, tawelu hefyd wnaeth traffig y dramffordd. Daeth diwedd ar y gwasanaethau i deithwyr yn 1933 a’r gwasanaethau nwyddau yn 1935.

Trên GVT gyda nwyddau a theithwyr  Glyn Valley Tramway train with goods and passengers
Trên GVT gyda nwyddau a theithwyr (cc-by-sa/2.0)