Cyflwyniad
Dyfrbont wych Pontcysyllte dros Ddyffryn Dyfrdwy oedd campwaith cyntaf Thomas Telford, a wnaed yn bosibl o ganlyniad i dechnoleg arloesol y diwydiant haearn lleol yn y cyfnod. Dyfrbont Y Waun oedd y ddyfrbont fordwyol dalaf yn y byd pan agorodd yn 1801 a Thwnnel Y Waun oedd un o’r twnelau camlas Prydeinig cyntaf i’w adeiladu gyda llwybr tynnu.
Mae’r creigiau miniog hardd, llethrau dramatig a’r ardaloedd coediog yn sicrhau fod yr olygfa yn newid yn barhaus. Mae yna lawer i’w edmygu ar hyd y daith gyda phontydd hardd, bythynnod hyfryd a llawer o fanylion fel y marciau rhaff o dan y pontydd, wedi eu gwisgo gan raffau cannoedd o gychod dros y blynyddoedd.
Llangollen oedd y gamlas gyntaf i gynnig teithiau cychod pleser sy’n dal i gael eu cynnal heddiw a sydd yr un mor boblogaidd! Sut bynnag yr ydych chi’n dewis crwydro rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau eich taith!
Sut y daeth Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte yn Safle Treftadaeth y Byd
Cliciwch ar unrhyw farciwr Pwynt o Ddiddordeb i weld y disgrifiad
1. Llandysilio – Man Cychwyn Camlas Llangollen
Wedi ei lleoli yng nghanol harddwch Dyffryn Dyfrdwy mae Rhaeadr y Bedol yn ganolbwynt i’r dirwedd ddeniadol hon sydd wedi ysbrydoli awduron, artistiaid a cherddorion dros y canrifoedd. Yma daw dŵr o’r Ddyfrdwy i fwydo Camlas Llangollen drwy gored a gynlluniwyd gan Telford i gyd-fynd a’r amgylchedd a’i wella.
Roedd hwn yn fan poblogaidd cyn adeiladu’r gored a chytunai’r ymwelwyr cynnar mai dyma’r lle harddaf yng Ngogledd Cymru. Disgrifiodd yr artist tirlun lleol Edward Pugh yr ardal fel un ‘wych a choeth, a oedd hyd yn oed yn mynd y tu hwnt i ddisgrifio’ yn ei lyfr a gyhoeddwyd yn 1816. Roedd Edward wedi paentio ‘A fall on the Dee’ yn 1794, dros 10 mlynedd cyn i Raeadr y Bedol gael ei chreu i dynnu cyflenwad cyson o ddŵr o’r Ddyfrdwy.
Raeadr y Bedol
Mae Rhaeadr y Bedol yn gored ar siâp J ac mae ychydig dros 1 metr o uchder a 140m o hyd. Fe’i hadeiladwyd allan o garreg gan wneud defnydd dyfeisgar o ymyl haearn bwrw yn ddiweddarach ar ôl i ran o’r gored ddymchwel yn ystod llifogydd yng ngaeaf 1820/21.
Fe allai Eglwys Sant Tysilio fod yn dyddio’n ôl i 1180, ond mae’r rhan fwyaf o’r adeilad presennol yn dyddio o’r 1400au. Mae’n un o sawl eglwys yng Nghymru a enwyd ar ôl Tysilio, sant o’r 7fed ganrif a oedd yn hanu o Bowys.
Roedd y Bont Gadwyn, a adeiladwyd gan Exuperius Pickering yn 1817, yn cael ei chefnogi gan chwe philer derw a chafodd ei chryfhau wedyn gan ddeuddeg o gadwyni haearn bwrw. Mae’n bosibl fod y cynllun wedi dylanwadu ar y prosiectau oedd ar y gweill gan Telford, yn enwedig pontydd crog Conwy a Menai a gwblhawyd ganddo naw mlynedd yn ddiweddarach.
Adeiladwyd y Chain Bridge Hotel yn wreiddiol ar gyfer gweithwyr Pickering, ond wrth i’r bont ddod yn boblogaidd gydag ymwelwyr codwyd adeilad mwy deniadol yn ei le, fe’i adeiladwyd pan agorodd Gorsaf Reilffordd Berwyn. Bellach, gallai ymwelwyr gyrraedd yma’n hawdd ar y rheilffordd a manteisio ar atyniadau newydd i ymwelwyr fel y teithiau mewn cwch gyda’r ceffylau’n llusgo’r cwch ar hyd y gamlas.
Fe adeiladwyd Gwaith Slabiau a Llechi Pentrefelin yn y 1840au i brosesu llechi o’r chwareli ger Bwlch yr Oernant. Roedd y llechi yn cael eu hollti yn gerrig llorio, palmentydd, cerrig beddi, a hyd yn oed byrddau biliards a byrddau ar gyfer llawdriniaethau.
Mae gan Ddyfrbont Eglwyseg un bwa mawr dros Afon Eglwyseg, ac un arall ar gyfer y cwrs dŵr i gludo’r dŵr o Felin Pentre, yr hen felin ŷd ar gyfer Abaty Glyn y Groes. Fe’i hadeiladwyd gyda deunyddiau traddodiadol i greu’r gwaith carreg a’r clai i greu leinin i ddal dŵr y gamlas.
Eglwys Sant Tysilio © Heather Williams
Y Bont Gadwyni
Chain Bridge Hotel
Ddyfrbont Eglwyseg © Jo Danson
2. Llangollen – Lle mae Cymru a’r Byd yn dod ynghyd
Mae Llangollen, yn harddwch Dyffryn Dyfrdwy, wedi denu ymwelwyr ers blynyddoedd lawer, i edmygu’r golygfeydd a mwynhau teithiau cerdded ar hyd yr afon a glan y gamlas. Mae arlunwyr ac awduron yn dal i gael eu hysbrydoli gan y dirwedd odidog sy’n llawn nodweddion naturiol a hanesyddol.
Datblygodd Llangollen o amgylch y bont dros yr afon Dyfrdwy o’r 1300au ymlaen. Roedd digon o ddŵr o’r afon Dyfrdwy i yrru’r melinau ŷd ac yn ddiweddarach y melinau pannu wrth i’r dref dyfu a ffynnu. Roedd Camlas Llangollen yn hybu masnach, gan ddod â glo i danio’r odynau calch yn y Dyffryn a darparu cludiant rhatach, mwy dibynadwy ar gyfer llechi a chalchfaen a gloddiwyd o’r bryniau uwchben.
© Jo Danson
Daw enw Llangollen o’r eglwys a sefydlwyd gan Sant Collen tua 600 O.C. Roedd Collen yn hyrwyddo Cristnogaeth a dywedir ei fod wedi dod yma ar ôl llofruddio cawres oedd yn bwyta dynion ac yn gwarchod Bwlch yr Oernant gerllaw. Credir mai ffynnon ar ben y Bwlch oedd y ffynnon naturiol lle golchodd Collen ei ddwylo gwaedlyd a’i gleddyf.
Roedd Plas Newydd yn gartref i ‘Ferched Llangollen’ ar ddiwedd y 1700au. Roedd y Foneddiges Eleanor Butler a Sarah Ponsonby wedi dianc o Iwerddon ac wedi ymgartrefu yma, gan ddisgrifio Llangollen fel ‘y wlad harddaf yn y byd’.
Cychwynnodd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen fel menter heddwch i ddod â gwledydd Ewrop, a oedd yn flinedig wedi’r rhyfel, at ei gilydd a hynny yn nyffryn Dyfrdwy hardd. Cynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf ym mis Gorffennaf 1947, a daeth 40 o grwpiau o dramor yma gan gynrychioli 14 o wledydd.
© Jo Danson
Eglwys Sant Collen © Jo Danson
Plas Newyd © Cyngor Sir Ddinbych
Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen © Heather Williams
3. Glanfa Llangollen – O Fasnach i Dwristiaeth
Glanfa Llangollen yw un o’r llefydd mwyaf poblogaidd ar Gamlas Llangollen. Yma mae ceffylau’n tynnu cychod sy’n llawn ymwelwyr cyffrous ar hyd y gamlas, yn union fel y maent wedi ei wneud am bron i 150 o flynyddoedd. Ar hyd y gamlas i gyfeiriad Trefor, cewch olygfeydd arbennig o Gastell Dinas Brân a Chreigiau Trefor, lle bu gwaith cloddio helaeth dros y blynyddoedd.
Roedd Llangollen eisoes yn dref farchnad bwysig pan gyrhaeddodd y gamlas. Elwodd y dref a diwydiannau lleol wrth i gyflenwadau hanfodol fel glo gyrraedd ar gychod tra gallai llechi, calch a nwyddau eraill gael eu hallforio’n llawer haws ac yn rhatach.
© Jo Danson
Pan oedd Mr Newbery o’r Royal Hotel yn rhedeg gwasanaeth cwch pleser o Lanfa Llangollen hyd at y Bont Gadwyn yn 1881, mae’n debyg mai dyma’r gwasanaeth cwch pleser cyntaf ar gamlas ym Mhrydain. Yn 1884, fe brynodd Capten Samuel Jones, a aned yn Llangollen, hen gwch ‘The Pioneer’ a chychwyn busnes yn cynnal teithiau dyddiol at y Bont Gadwyn a Rhaeadr y Bedol.
Disgrifiodd Capten Jones y daith o Raeadr y Bedol fel ‘taith drwy fawredd naturiol heb ei ail’ ac erbyn 1890 roedd wedi cynyddu ei fflyd i chwech o gychod pleser, gyda’r un fwyaf yn dal 200 o deithwyr, er mwyn bodloni’r galw cynyddol.
Yn anarferol i gamlas roedd llif y dŵr yng Nghamlas Llangollen yn ddigon i yrru Melin Wlanen Dyfrdwy Uchaf. Ar hyd y gamlas mae’r Sun Inn a gafodd ei henwi am ei bod yn gwerthu cwrw o’r Sun Brewery, y bragdy fu’n gweithredu hiraf yn Llangollen. Yn union o dan y Sun Inn roedd glanfa ar y gamlas lle roedd calchfaen yn cael ei gludo o Chwarel Trefor ar hyd tramffordd ac inclein.
Mae Bryn Howel yn dŷ trawiadol a adeiladwyd yn 1896 ar gyfer James Coster Edwards, mab J. C. Edwards Senior, perchennog y gwaith mawr a gynhyrchai frics, teils a therracotta. Cafodd y tŷ ei droi yn westy yn y 1960au. Ymhlith y gwesteion a fu’n aros yma roedd Pavarotti a hynny ar ymweliad ag Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn 1995.
Melinau Dyfrdwy Uchaf
Bryn Howel © John Allan
4. Cefn Mawr – Pentref a Luniwyd gan Adnoddau Naturiol
Mae’r adnoddau naturiol cyfoethog o amgylch Cefn Mawr, gan gynnwys tywodfaen o ansawdd uchel, gwythiennau glo cyfoethog gyda gwaddodion clai cysylltiedig a haearnfaen wedi eu hecsbloetio ers y cyfnod canoloesol. Wrth i ddiwydiant ddatblygu fe dyfodd y dref i ddarparu ar gyfer anghenion y boblogaeth oedd yn cynyddu.
Fe ddaeth Camlas Llangollen â chyfleoedd newydd a chynyddodd fynediad i’r marchnadoedd. Roedd haearn yn cael ei drin mewn sawl ffwrnais a gefail tra roedd glo yn cael ei gloddio mewn pyllau yng Nghefn, Plas Kynaston a Dolydd.
Fe ffynnodd busnesau manwerthu wrth i bobl o’r pentrefi o amgylch ddod i brynu bwyd, dillad a nwyddau haearn, busnesau fel J. Thomas Tinsmith a oedd yn cyflenwi dŵr a thuniau bwyd ar gyfer y glowyr. Roedd nifer gynyddol o gapeli a thafarndai yn gwasanaethu anghenion ysbrydol a chymdeithasol y pentref.
Sefydlwyd gwaith cemegol Graesser i dynnu olew paraffin a chwyr o’r siâl lleol ac aeth ymlaen i ddod yn brif gynhyrchydd ffenol yn y byd.
Fe agorodd Amgueddfa Cefn Mawr, yng nghefn Neuadd George Edwards, yn 2014 a chaiff ei chynnal gan wirfoddolwyr brwd. Mae’n dathlu hanes a phobl yng Nghefn Mawr a’r cymunedau cyfagos ac mae’n llawn gwrthrychau, lluniau, a dogfennau sydd wedi eu benthyg neu wedi eu rhoi gan bobl leol. Dau wrthrych poblogaidd yw’r cwrwgl a oedd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pysgota eog ar yr afon a nyten a bollt o Ddyfrbont Pontcysyllte.
Mae’r Amgueddfa ar agor ar foreau dydd Llun, Mercher a Gwener. Mae rhagor o wybodaeth am yr Amgueddfa yma.
Mae chwareli tywodfaen Cefn y Fedw wedi bod yn cael eu cloddio ers y Canol Oesoedd. Pan gaiff ei thorri gyntaf mae’r garreg yn lliw melyn golau ond mae’n hindreulio i fod yn lliw euraidd cryf ar ôl ychydig o flynyddoedd. Mae Carreg Cefn yn wydn ond gellir ei thorri’n fanwl gywir i sicrhau fod pob bloc yn ffitio’n berffaith.
Roedd yn cael ei defnyddio ar gyfer eglwysi lleol, fel St Giles yn Wrecsam, adeiladau enwog fel Oriel Gelf Walker yn Lerpwl ac roedd hefyd yn garreg ddelfrydol ar gyfer adeiladu Dyfrbont Pontcysyllte.
© Heather Williams
© Heather Williams
Amgueddfa Cefn Mawr a’r Cyffiniau
5. Pontcysyllte – Y Nant yn yr Awyr
Dyfrbont Pontcysyllte yw prif atyniad Safle Treftadaeth y Byd. Hi oedd y ddyfrbont fordwyol dalaf yn y byd am dros 200 mlynedd wedi iddi agor yn 1805 ac fe’i hadeiladwyd gan ddefnyddio technoleg arloesol. Mae croesi’r ddyfrbont yr un mor gyffrous heddiw ag yr oedd pan agorwyd hi gyntaf.
Bryd hynny byddai Basn Trefor yn ferw gwyllt o brysurdeb gyda chychod yn cael eu gwneud neu eu hatgyweirio a thunelli o lo a nwyddau eraill yn cael eu trosglwyddo rhwng y cychod camlas a’r tramiau. Heddiw mae’n ganolbwynt i ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd ac yn ystod misoedd yr haf mae bob amser yn brysur wrth i gychod camlas angori neu droi i fynd ar hyd Camlas Llangollen ac wrth i bobl ddewis cerdded, rhwyfo gyda’u canŵau neu wthio eu beiciau dros y ddyfrbont.
Mae’r dociau sych yn parhau i gael eu defnyddio fel yr oeddent 200 mlynedd yn ôl, ond mae’r warysau a’r adeiladau eraill bellach yn dafarndai, caffis a chanolfan ymwelwyr.
Fe ddatblygodd William Jessop a Thomas Telford y dyluniad ar gyfer dyfrbont gyda phileri carreg yn cynnal cafn o haearn bwrw. Yn sicr dyma’r ddyfrbont uchaf a gynlluniwyd yn y cyfnod hwn a hefyd dyma’r prosiect cyntaf yn Ewrop i ddefnyddio haearn bwrw ar raddfa mor fawr.
Caiff y ddyfrbont hon ei chynnal gan 18 o bileri tywodfaen tenau a gloddiwyd o Gefn Mawr tra darparodd William Hazledine yr haearn bwrw o’i ffowndrïau yng Nghefn Mawr a’r Amwythig.
Scotch Hall oedd enw Telford Inn pan gafodd ei adeiladu yn niwedd y 1790au ac mae’n nodweddiadol o waith Thomas Telford fel pensaer, gan fod yma do talcennog a bondo yn dod drosodd. Cafodd ei adeiladu ar gyfer Matthew Davidson, y peiriannydd goruchwylio preswyl ar gyfer y ddyfrbont. Fe syrthiodd Davidson mewn cariad gyda Chymru a phriododd Gymraes ond symudodd yn ôl i’r Alban i weithio ar Gamlas Celyddon gan weithio gyda Telford eto unwaith yr oedd y ddyfrbont wedi ei chwblhau.
Adeiladwyd Capel Methodistaidd Bryn Seion yn 1902 yn lle capel hŷn a oedd wedi ei leoli’n nes at Afon Dyfrdwy. Fe gaeodd y capel yn 1993 a chafodd ei droi’n siop hen bethau. Cafodd ei werthu eto a’i adfer ac agorodd fel ystafell de yn 2018.
© Jo Danson
© Jo Danson
Scotch Hall Bridge © Jo Danson
Telford Inn/Scotch Hall
Capel Bryn Seion © Jo Danson
© Jo Danson
6. Froncysyllte – Y Gymuned ger y Gamlas
Ffynnodd Froncysyllte wrth i’r gamlas gynnig trafnidiaeth hawdd a chyfleoedd i fusnesau dyfu. Mae’r bont godi eiconig yn ganolbwynt i’r pentref, ac ar hyd y gamlas saif dau fryncyn o odynau calch i’n hatgoffa o’r diwydiant a fu yma.
Tyfodd Froncysyllte, a elwir yn lleol yn Fron, o fod yn bentref bach gwledig gyda dim ond tua 15 o dai ac un dafarn, i fod yn llawn bwrlwm diwydiannol ar ôl i’r gamlas agor. Adeiladwyd tai, siopau, eglwys, capeli ac ysgol newydd a gwelwyd dynion yn gadael eu gwaith yn y caeau i weithio yn y chwareli calchfaen a’r odynau lleol, yn ogystal â’r gweithfeydd glo a’r gweithfeydd brics cyfagos.
Pont Godi’r Fron
Mae’n bosibl fod y Bont Wyddelig wedi ei henwi ar ôl y ‘nafis’, neu’r ‘cloddwyr’ a dyllodd sawl un o’r systemau camlas. Roedd nifer o’r nafis yn dod o Iwerddon i chwilio am waith, gan fod adeiladu camlesi a ffyrdd ar gynnydd ar ddiwedd y 1700au a dechrau’r 1800au. Mae bwa’r bont yn llawer uwch na rhai eraill ar y gamlas gan fod hwn yn doriad mor ddwfn. Defnyddiwyd yr hyn a duriwyd o’r toriad i greu’r arglawdd ar gyfer Dyfrbont Pontcysyllte.
Mae Dyfrbont Cross Street yn cludo’r gamlas dros lôn fferm gan ei bod yn haws mynd â’r gamlas dros y lôn nac adeiladu pont i fynd â’r ffordd dros y gamlas. Fe’i hadeiladwyd gyda gwaith carreg traddodiadol a chlai i greu leinin i ddal dŵr y gamlas.
Roedd cloddio calchfaen wedi digwydd ar raddfa fechan yn ardal Froncysyllte ers y 1500au, ond roedd dyfodiad y gamlas yn darparu ffordd rad, effeithiol o gludo’r calchfaen a’r cynnyrch calch i farchnadoedd newydd. Adeiladwyd odynau calch gorllewin Froncysyllte yn nechrau’r 1800au ac adeiladwyd odynau calch anferth dwyrain Froncysyllte gyda chwe bwa yn ymestyn uwchben y gamlas yn niwedd yr 1800au.
Roedd y bont godi eiconig hon yn ffordd fwy cyfleus o ganiatáu i geffylau a cheirt i groesi’r gamlas gan ei bod yn cymryd llai o le na phont grom arferol. Roedd y bont bren wreiddiol yn cael ei gweithredu gyda llaw, gan dynnu cadwyn i godi’r dec.
Roedd Basn Fron yn nodi diwedd Camlas Llangollen hyd nes y cwblhawyd Dyfrbont Pontcysyllte yn 1805. Gallai cychod droi yn yr ardal hon drwy roi blaen y cwch yn y gornel tra byddai cefn y cwch yn cael ei dynnu o gwmpas gyda rhaff. Ar ôl cwblhau’r ddyfrbont roedd y cychod yn aros yma i gael croesi.
Basn y Fron
Cerflun Diwydiant Calch gan Anthony Lysicea © Jo Danson
Y Bont Wyddelig
Dyfrbont Cross Street
7. Y Waun – Tref ar y Ffin
Mae’r Waun yn gyfoethog o ran nodweddion peirianyddol gyda dyfrbont, traphont a thwnnel wedi eu clystyru o amgylch yr ardal a oedd unwaith yn lanfa gyhoeddus ar gyfer y dref. Adeiladwyd y draphont reilffordd sawl blwyddyn yn ddiweddarach na’r ddyfrbont ac roedd yn darparu cystadleuaeth chwyrn o ran masnach ar y gamlas, ond heddiw maent yn sefyll yn gytûn yn y dirwedd mewn tywodfaen cynnes sy’n cydweddu.
Roedd y gamlas o fudd mawr i’r diwydiannau yn Nyffryn Ceiriog pan gyrhaeddodd Y Waun yn 1801. Roedd llechi, silica, glo a chalchfaen i gyd yn cael eu cloddio yn y Dyffryn ac roedd y gamlas a’r rheilffordd yn ddiweddarach yn darparu mynediad i farchnadoedd ehangach.
Dyfrbont y Waun © Jo Danson
Dyfrbont y Waun oedd y ddyfrbont fordwyol dalaf yn y byd pan agorodd yn 1801. Roedd angen technegau newydd i adeiladu dyfrbont 220 metr/710 troedfedd o hyd a 21 metr/70 troedfedd uwchben yr afon. Mae deg bwa carreg gwag yn dal platiau haearn i ffurfio gwely’r gamlas. Yn wreiddiol roedd ochrau’r cafn yn dal dŵr gyda brics a morter wedi eu paratoi ar wres uchel a charreg ar yr wyneb, ond gosodwyd y platiau ochr haearn yn 1869.
Yn sefyll uwchben y ddyfrbont mae Traphont y Waun sy’n cludo’r rheilffordd o Riwabon i Gaer dros Afon Ceiriog. Wedi ei gwblhau yn 1848 y rheilffordd hon fyddai yn y pen draw yn chwarae rhan yn nhranc y gamlas fel llwybr cludiant ar gyfer nwyddau.
Twnnel y Waun oedd un o’r twneli camlas cyntaf ym Mhrydain i gael ei adeiladu gyda llwybr tynnu. Y twnnel yw’r hiraf ar y gamlas ac mae’n 421 metr neu 460 llath ac fe gymrodd saith mlynedd i’w adeiladu. Mae mynedfa’r twnnel carreg wedi ei ledu ychydig sy’n ei gwneud yn haws i gychod fynd i mewn tra bod y ffaith ei fod yn syth yn golygu ei bod yn haws gweld cychod yn dod o’r cyfeiriad arall.
© Jo Danson
Twnnel y Waun © Jo Danson
Traphont y Waun © Jo Danson
© Jo Danson
8. Pont y Galedryd – Porth i Safle Treftadaeth y Byd
Mae Pont y Galedryd yn nodi ffin Safle Treftadaeth y Byd lle roedd tirwedd bryniog Cymru yn creu her i’r peirianwyr oedd angen gweld sut y gellid adeiladu’r gamlas ar draws dyffrynnoedd dyfnion yr afonydd.
Codwyd Pont y Galedryd yn 1796 yn yr arddull a ddefnyddiwyd ar hyd Camlas Ellesmere. Dyma un o’r ychydig bontydd dros Gamlas Llangollen a godwyd gyda brics yn hytrach na cherrig, gan nad oedd y gamlas ar y pryd wedi cyrraedd at y cyflenwadau o gerrig adeiladu da a oedd ymhellach ymlaen.
Pont y Galedryd © Jo Danson
Mae tafarn y Poachers wrth ymyl Pont y Galedryd wedi bod yn darparu lluniaeth i genedlaethau o deithwyr. Fe’i hadeiladwyd rhwng 1752 a 1838, bron yn sicr wrth i’r gamlas ddechrau cael ei defnyddio. Mae map y degwm 1838 yn dangos fod tafarn ar y safle gyda swyddfeydd, iard, gardd a bragdy. Roedd hefyd yn darparu stablau i geffylau, a ddefnyddiwyd o bosibl gan rai o’r ceffylau oedd yn tynnu cychod y gamlas.
Cafodd arglawdd enfawr Banc y Waun ei lunio drwy dorri pridd o’r bryniau uwchben. Mae’n ymestyn bron i dri chwarter milltir o Bont Banc y Waun i Ddyfrbont y Waun lle caiff y gamlas ei chludo dros Ddyffryn Ceiriog. Mae man uchaf yr arglawdd ger y ddyfrbont yn 18.3m o uchder ac yn 60m o led ar draws ei waelod.
Codwyd Bythynnod y Ddyfrbont gan Gwmni Camlas a Rheilffyrdd Unedig Swydd Amwythig yn niwedd yr 1800au i weithwyr oedd yn cynnal a chadw’r gamlas a hefyd o bosibl i ddynion a oedd yn gweithio ar Dramffordd Dyffryn Glyn.
© Jo Danson
Pont Banc y Waun © Jo Danson
Bythynnod y Ddyfrbont
The Poachers