Gwybodaeth i Ymwelwyr
Canfyddwch beth sy’n digwydd ac ymunwch yn yr hwyl.
Canolfan Ymwelwyr Basn Trefor
Mae Canolfan Ymwelwyr Basn Trefor wedi ei lleoli wrth ymyl y draphont ddŵr ac yn gartref i gasgliad o arteffactau hanesyddol sy’n dyddio’n ôl i’r adeg pan gafodd y draphont ddŵr ei hadeiladu. Gall ymwelwyr hefyd fwynhau’r fideo ‘Straeon o’r Draphont’, fideo animeiddiedig o ‘Sut adeiladwyd y draphont ddŵr’, man gweithgareddau i blant a siop anrhegion. Mae’r staff cyfeillgar a’r gwirfoddolwyr bob amser wrth law i helpu.
Canolfan Ymwelwyr Basn Trefor
Dyfrbont Ddŵr Pontcysyllte
Basn Trefor
Oddi ar Ffordd yr Orsaf
Trefor
Wrecsam LL20 7TY
Canolfan Groeso Wrecsam
Codwch y ffôn neu galwch draw i gael syniadau a gwybodaeth am bethau i’w gwneud a’u gweld yn Wrecsam ynghyd ag ymweld â’n Safle Treftadaeth y Byd.
Mae gennom popeth o ddosbarthiadau celfyddydau a sioeau theatr i wyliau a chyngherddau.
O amgueddfeydd a safleoedd treftadaeth i fwytai a thafarndai gwledig. Ac os ydych yn ymweld ac eisiau rhywle i aros am noson, gallant eich cynorthwyo i ddod o hyd i rywle i aros.
Canolfan Wybodaeth i ymwelwyr
Stryd Caer
Wrecsam LL13 8BA
Canolfan Groeso Llangollen
Yn yr oes ddigidol gyda gwefannau, ffonau clyfar a chanolfannau galwadau, mae modd galw draw i’n Canolfan Groeso a chyfarfod â phobl leol fydd yn filch o’ch cynorthwyo gyda’ch ymholiad.
Y Capel
Stryt y Castell
Llangollen
Sir Ddinbych LL20 8NU