Pontcysyllte Aqueduct and Canal World Heritage Site

Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont Pontcysyllte a’r Gamlas

‘Pontcysyllte yw’r enw ar y 'bont sy’n cysylltu’
11 milltir o gamlas a chefn gwlad drawiadol, gyda dyfrbont a thwneli sy’n ymestyn dros ddwy wlad, a chyfoeth o dreftadaeth, gyda harddwch diguro yn gefndir i hyn oll

Archwilio

Bydd atyniadau amrywiol ar hyd Safle Treftadaeth y Byd yn ychwanegu i’r ymweliad

Tripiau Cwch a Llogi Cwch

Teithiwch yn hamddenol ar hyd y gamlas gan fwynhau ein golygfeydd godidog

Digwyddiadau

Canfyddwch beth sy’n digwydd ac ymunwch yn yr hwyl

Croeswch y nant yn yr awyr

Mae UNESCO wedi disgrifio’r safle treftadaeth y byd hwn fel ‘campwaith o athrylith greadigol’. Mae 11 milltir gyntaf Camlas Llangollen yn ddarn arbennig o dreftadaeth ddiwydiannol a pheirianyddol sy’n cynnwys argloddiau, twnelau, dyfrbontydd a thraphontydd dŵr, yn cynnwys Dyfrbont Ddŵr Pontcysyllte ei hun, a 31 strwythur rhestredig arall.

Mae holl hyd y safle wedi’i ddynodi’n Heneb Gofrestredig o Bwysigrwydd Cenedlaethol, ac yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Pontcysyllte Aqueduct
Pontcysyllte World Heritage Site map

Syniadau i ddechrau

Darganfyddwch rai o’r atyniadau, lleoedd cysegredig, safleoedd treftadaeth a mannau harddwch ar hyd 11 milltir o Safle Treftadaeth y Byd.

*Chain Bridge River Dee

Y Bont Gadwyn

Pont unigryw sy’n rhychwantu Afon Dyfrdwy
*plas newydd llangollen

Plas Newydd

Yn cipio’r dychymyg ers y ddeunawfed ganrif
+pontcysyllte Aqueduct North Wales

Dyfrbont Ddŵr Pontcysyllte

Un o gampweithiau mwyaf rhyfeddol peirianneg y chwyldro diwydiannol
*Chirk Castle

Castell y Waun

Wedi’i adeiladu i’w amddiffyn, mae’r castell yn symbol o bŵer
*family bike ride on Llangollen Canal

Trefor

Ar ochr ogleddol y dyfrbont
*

Rhagor o wybodaeth

Chirk Aqueduct

Statws Treftadaeth y Byd

Beth mae’n ei gymryd i gael eich enwi fel un o safleoedd mwyaf rhagorol o werth cyffredinol eithriadol yn y byd? Bydd ein canllaw i Statws Treftadaeth y Byd yn rhoi’r holl wybodaeth sydd ei angen arnoch i fwynha’r ardal yn hon yn llawn.

Plas Newydd

Hanes

Darllenwch hanesion y bobl sydd wedi byw a gweithio yn, yn ogystal ag ymweld â’r 11 milltir o Dyfrbont Ddŵr Pontcysyllte a Safle Treftadaeth y Byd Camlas Trefor.

Pontcysyllte Aqueduct and Canal World Heritage site - Getting here

Sut i Gyrraedd

Ymweld am drip undydd neu’n aros am rhai dyddiau, mae’n rhwydd gyda char, trên a bws. Rydym wedi’n lleoli yng Ngogledd Ddwyrain Cymru ac fel canllaw cyffredinol, gallwch ddod yma ar hyd yr M53 neu’r M56 o’r Gogledd Orllewin, a’r M54 o Ganolbarth Lloegr.

Mae tri maes parcio wedi eu arwyddo oddi ar y A539. Cynghorir gyrwyr i beidio â pharcio ym Masn Froncysyllte oddi ar yr A5.

Ein newyddion
diweddaraf

Cael y newyddion diweddaraf, cymerwch ran a mwynhewch!

*Pontcysyllte Aqueduct