Disgrifiad
Agorwyd dyfrbont Pontcysyllte am y tro cyntaf yn 1805, ac yn fuan wedyn canwyd ei chlodydd gan Syr Walter Scott a ddywedodd mai dyma’r ‘darn celf mwyaf trawiadol’ a welodd erioed. Heddiw, gellir gweld gweithiau celf eraill ger y ddyfrbont ac mewn mannau eraill ar hyd Safle Treftadaeth y Byd.
Ceir cerfluniau i goffáu llwyddiannau’r bobl a adeiladodd y gamlas, y rhai a weithiodd ochr yn ochr â hi a’r rhai a ddaeth i ymweld â hi. Gallent ddathlu’r dirwedd maent yn sefyll ynddi neu ddigwyddiadau a welwyd yno.
Gall cerflun fod yn waith un person, neu gymuned sy’n byw’n agos ato neu gall fod â pherthynas â’r ardal. Weithiau bydd cerfluniau’n cael eu gwneud o ddeunyddiau a geir yn lleol, a gallent gynrychioli ysbryd lleoliad arbennig. Gall cerflun hefyd gyfoethogi lle. Gall wneud datganiad yn y tirlun a newid y ffordd rydym yn edrych ar y byd o’n cwmpas.
Cofiwch edrych am gerfluniau yn Safle Treftadaeth y Byd, a rhai ychydig ymhellach i ffwrdd sy’n dangos pa mor bwysig yw’r gamlas fel symbol o’r ardal hon. Mae pileri tal, tenau a bwâu haearn eiconig dyfrbont Pontcysyllte yn creu delwedd y gellir ei hadnabod ar unwaith yn unrhyw le.
Mwy O Wybodaeth Am Cerflun
Mae llaw garreg Anthony Lysycia yn cynnwys gwrthrychau o ddiwydiannau a oedd yn gweithredu ger y gamlas. Ceir brics a theils, a gallwch weld odynau conig y gweithfeydd brics ar frig yr ochr chwith. Ceir hefyd declynnau, cadwyni, bachau a bolltydd haearn. Dangosir y gweithfeydd haearn ar frig y cerflun ar y dde.

Saif y garreg hon ger mynedfa i’r basn. Mae arni ddyfyniad gan Syr Walter Scott a alwodd y ddyfrbont yn ‘nant yn y nen’. Rhyfeddai Scott at sut y gallai pysgod nofio uwchben adar yn hedfan ac mae’r cerflunydd Anthony Lysycia wedi gosod hynny fel delwedd ganolog yn y cerflun hwn.

Mae’r cerflun hwn yn dangos merch a cheffyl yn arwain cwch cul o dan bont rhif 29W, ynghanol Basn Trefor. O ben gogleddol y basn, arferai camlas Plas Kynaston fynd heibio’r gweithfeydd haearn. Ar hyd gwaelod y cerflun ceir darnau o glincer, sef deunydd gwastraff o ddulliau mwyndoddi haearn.

Yn agos at y fan lle mae cangen y gamlas o Langollen yn ymuno â Basn Trefor, mae cerflun gan Anthony Lysycia yn dangos un o’r hwyaid a welir yno yn aml. Y tu ôl iddi gwelir y Telford Inn sydd gerllaw. Enw gwreiddiol yr adeilad hwn oedd ‘Scotch Hall’. Byddai Telford yn aml yn aros yma tra byddai’r ddyfrbont yn cael ei hadeiladu.

Mae cerflun pren y tu allan i’r ganolfan ymwelwyr ym Masn Trefor wedi’i adeiladu o drawstiau. Cerfiwyd y rhain gydag enwau Cymraeg a Saesneg am rai o’r teclynnau a ddefnyddiwyd i adeiladu cychod cul. Math arbennig o fwyell yw neddyf, a ddefnyddir i naddu pren yn drawstiau ac estyll.

Ger y fynedfa o faes parcio’r ymwelwyr i Fasn Trefor, ceir cerflun yn dangos propelor cwch cul. Mae’n cynrychioli rhywun yn cychwyn ar daith o Drefor. Ceir chwe cherflun gan Anthony Lysycia ger y ddyfrbont, a gomisiynwyd yn 2003 pan y dechreuwyd ystyried y cais am Statws Treftadaeth y Byd.

Gwelir y cerflun diweddaraf sy’n dathlu Dyfrbont Pontcysyllte yn y maes parcio i ymwelwyr. Wedi’i greu gan Hotrod Creations a Mick Thacker, mae’n darlunio teclynnau a chynnyrch a ddefnyddiwyd i ddylunio ac adeiladu’r ddyfrbont. Mae’n ymgorffori samplau o lo, llechi, calchfaen, tywodfaen, haearnfaen a chlai, sef deunyddiau crai diwydiannol a gaed ger y gamlas ac a arferai gael eu cludo arni.

Mae un o gerfluniau Anthony Lysycia ym masn Froncysyllte yn coffáu’r diwydiant calchfaen a ddominyddai’r pentref. Defnyddiwyd y gamlas i gludo’r cerrig a’r calch a gynhyrchwyd yn yr odynau ar y lan gyferbyn. Gwelir pennau ceibiau chwarelwyr wedi eu trefnu i edrych fel y ffosilau a welir yn y garreg o dro i dro.

Mae’r cerflun yn Froncysyllte yn dangos Bill Roberts, chwarelwr lleol a elwid yn Canada Bill. Cafodd ei eni yn y pentref, yna ymfudodd i Ganada am 10 mlynedd, cyn dychwelyd gyda’i wraig a’i blant. Mae’r cerflun hwn yn enwi un gweithiwr er mwyn cynrychioli’r cannoedd a gâi eu cyflogi mewn diwydiannau sydd bellach wedi diflannu.

Rhwng yr orsaf drenau, twnnel y gamlas a’r safle bws yn y Waun, mae’r hysbysfwrdd hwn sydd wedi’i gerflunio yn rhoi i’r ymwelwyr hanes y pentref, y castell a Safle Treftadaeth y Byd a sut i’w cyrraedd. Mae’r cerfiwr coed Jim Heath wedi darlunio tirnodau lleol, gan gynnwys Dyfrbont y Waun, a cherddwr wedi’i gerfio gyda bag ar ei gefn, yn barod i anturio’r ardal.

Gwnaeth yr artist Ed Williams greu Colofn Madoc ym Mhlas Madoc gerllaw, gan ddefnyddio syniadau gan bobl yn y gymuned i ddangos yr hyn maent yn falch ohono. Roedd Madog yn dywysog canoloesol o’r ardal hon ac mae’r golofn yn darlunio golygfeydd o hanes lleol gan gynnwys Dyfrbont Pontcysyllte a’r diwydiannau o’i hamgylch.

Mae cerflun bach rhwng y gamlas a Phafiliwn yr Eisteddfod Ryngwladol yn Llangollen yn gofyn i bobl ‘Why stand when you can sit?’. Cafodd ei osod er cof am yr actor a’r awdur Alan Bird, a drigai yn y dref ac a oedd wrth ei fodd gyda’r gamlas a’r Eisteddfod. Mae’n fan gorffwys perffaith.

Mae Parc Gwledig Tŷ Mawr ger Afon Dyfrdwy, rhwng Dyfrbont Pontcysyllte a Thraphont Ddŵr Rheilffordd Cefn. Nodir y ddwy gan sawl cerflun pren ar hyd y llwybrau drwy’r parc. Ceir meinciau, placiau a phaneli mawr. Daw hyd yn oed y bocs rhoddion â’r ddau adeiladwaith peirianyddol gwych ynghyd.

Mae Llwybr Defaid Wrecsam wedi gosod dros ddeg ar hugain o gerfluniau defaid mewn mannau o ddiddordeb ar hyd a lled y Fwrdeistref Sirol. Mae gan bob dafad enw ac mae pob un wedi ei pheintio â dyluniad gwahanol sydd â chysylltiad â’i lleoliad. Tomos yw enw’r ddafad ger Dyfrbont Pontcysyllte ac mae’n byw ger y ganolfan ymwelwyr yn Nhrefor.

Ellesmere yn Swydd Amwythig oedd lleoliad prif swyddfa’r gamlas pan gafodd ei hadeiladu. Mae llwybr o gerfluniau ar hyd y gamlas a thrwy’r dref, yn cynnwys mainc ceramig gan Ruth Gibson a Huw Powell Roberts. Mae’n ymgorffori dyluniad Dyfrbont Pontcysyllte a gwybodaeth am y cychod a oedd yn ei defnyddio.
