Glo oedd ffynhonnell pŵer ar gyfer peiriannau stêm, a yrrodd y Chwyldro Diwydiannol ar draws Prydain. Roedd cyflenwad da iawn ym maes glo Sir Ddinbych, ond roedd y cysylltiadau cludiant yn wael. Byddai llwybr gwreiddiol y gamlas o Gaer i Drefor wedi cysylltu’r prif ardaloedd mwyngloddio yn Rhiwabon, Brymbo, Gresffordd a’r Bers gyda diwydiannau oedd yn tyfu.
Serch hynny, rhoddwyd y gorau i’r cynllun hwn, ac yn hytrach mae’r gamlas yn teithio drwy ymyl ddeheuol y maes glo ac i mewn i Swydd Amwythig a Sir Drefaldwyn.
Yn bennaf roedd cychod y gamlas yn cyflenwi diwydiannau lleol – odynau calch, gweithfeydd brics a gweithfeydd haearn. Yn y trefi a’r pentrefi ar hyd y ffordd, daeth glo yn elfen bwysig ar gyfer gwresogi domestig a choginio.
Yn ystod agoriad swyddogol Dyfrbont Pontcysyllte, fe groesodd dau gwch glo gwag i gael eu llenwi ym Masn Trefor. Roeddynt yn symbol o sut y gallai’r gamlas symud adnodd economaidd pwysig. Er i gludiant y rheilffordd ddod i ddisodli camlesi yn rhy gyflym, parhaodd masnach ar y gamlas i gynyddu wrth i Brydain ddiwydiannu. Symudwyd cannoedd o filoedd o dunelli o lo ar rhwydwaith y gamlas gan gadw prisiau’n isel.
Erbyn yr ugeinfed ganrif fodd bynnag, roedd masnach yn lleihau. Daeth masnach cychod glo Camlas Undeb Swydd Amwythig i ben yn 1921. Mae’r cofnod olaf o lwyth glo ar y gamlas o Lofa Parc Du yn 1933.
Mae’r ffilm yma’n dangos cychod glo Ilford ac Aquarius, system ‘cwch a butty’ traddodiadol oedd yn cael ei ddefnyddio ar gamlesi mwy yn Lloegr. Mae’r ‘gwch’ wedi’i bweru ac mae’n tynnu’r ‘butty’ y tu ôl iddo. Gan ddefnyddio’r system yma, fe allai criw o bedwar redeg dau gwch ar yr un pryd a symud mwy nwyddau.
Mwy O Wybodaeth Am Glo
Roedd y pyllau glo cynharaf yn fach. Dim ond ychydig o weithwyr oedd yn gweithio ynddynt ac nid oeddynt yn ddwfn iawn. Mae’r engrafiad yma o ben pwll yn Acrefair yn dangos y pen pwll syml oedd yn gostwng glowyr i mewn ac yn codi’r glo allan. Cafodd ei argraffu yn 1794, cyn i’r gwaith ddechrau ar y gamlas.
Parc Du ger Y Waun, oedd y lofa hynaf yn Sir Ddinbych. Cafodd ei fwyngloddio gyntaf yn gynnar yn y 1600au. Cafodd ei brydlesu gan Thomas Ward, perchennog glofeydd yng Nghefn Mawr yn 1805, yn benodol i fanteisio ar gysylltiad y gamlas. Fe gaeodd yn 1949 a does bron dim byd ar ôl o’r pwll uwchben y ddaear.
Roedd Glofa Parc Du dros filltir o’r gamlas. Roedd tramffordd gyda cheffyl yn llusgo’r glo i’r doc ger y Waun. Roedd cychod fel hon ym 1910 yn mynd i mewn i’r doc o dan bont ar y llwybr llusgo, sydd i’w weld ar y dde. Mae’r bont wedi ei dymchwel ers hynny a’r doc wedi ei lenwi.
Ym Masn Trefor, cafodd Camlas Plas Kynaston (i’w weld ar y dde) ei ymestyn gan Thomas Ward ddiwedd 1820au er mwyn cyrraedd pyllau Cefn Mawr. Serch hynny, roedd y mwyafrif o lofeydd lleol yn cysylltu gyda’r gamlas drwy Reilffordd Ruabon Brook. Daeth y rheilffordd i ben yn y lanfa sydd i’w weld ar y chwith yma.
Defnyddiwyd glanfeydd y gamlas i lwytho’r cychod. Llithrennau neu sleidiau yw’r rhain ac roedd y glo yn cael eu tywallt o’r wagenni. Yna roedd yn rhaid i berchennog y gwch roi trefn ar y glo. Roedd hyn yn golygu ei lefelu yn gytbwys ar draws y cwch fel nad oedd pwyso ar un ochr.
Roedd mwyngloddio yn waith peryglus iawn. Dim ond 17% o farwolaethau mwyngloddio oedd yn digwydd mewn damweiniau mawr, fel yr un yng Ngresffordd a laddodd 266 o bobl. Roedd digwyddiadau unigol yn llawer mwy cyffredin. Mae’r garreg fedd hon yn un o nifer ar gyfer glowyr a laddwyd yn y gwaith sydd ym mynwent Eglwys y Waun. Roedd Glofa Brynkinalt yn y pentref.
Roedd merched a phlant mor ifanc â 5 mlwydd oed yn cael eu cyflogi mewn pyllau glo ger y gamlas tan 1843 hefyd. Yn 1841 dywedodd Thomas Ward, perchennog y lofa, ei fod yn gwrthwynebu addysg ymysg ‘y rhai statws is’ gan nad oedd yn ymwybodol o unrhyw beth da oedd yn deilio o addysgu ysgrifennu a rhifyddeg iddynt.
Roedd pyllau glo yn cynhyrchu sgil-gynhyrchion gwastraff oedd yn cael eu cloddio allan o’r pwll. Yn aml roedd clai yn cael ei ailddefnyddio mewn gweithfeydd brics. Daeth Robert F. Graesser, Cemegydd Diwydiannol o’r Almaen, i Gefn Mawr yn 1860au gan bod siâl yn cael ei gloddio yng Nglofa Plas Kynaston. Fe gloddiodd olew paraffin a chwyr ohono, gan sefydlu Gweithfeydd Cemegol Plaskynaston yn 1867.
Mae pyllau glo yn ymestyn yn llawer pellach o dan y ddaear nag maent uwchben y ddaear. Roedd Glofa Brynkinalt yn Y Waun. Dros amser, daeth y pyllau yn siafftiau awyru ar gyfer Glofa Ifton. Roeddynt bron i ddwy filltir ar wahân uwchben y ddaear, ond roeddynt wedi’u cysylltu o dan y ddaear.
Roedd glanfeydd glofa bob amser yn llefydd prysur a budr. Roedd glofeydd yn gweithredu bob awr o’r dydd, ac roedd hi’n cymryd tua pedair awr i lenwi pâr o gychod. Dyma Lofa Hednesford, Swydd Stafford tua 1920.
Fe gaeodd Glofa’r Bers, y pwll glo dwfn olaf yn Sir Ddinbych, rhwng Y Waun a Wrecsam yn 1986. Er ei fod yn rhy bell ffwrdd i fanteisio ar ei gysylltiadau cludiant, mae’r Bers yn cynrychioli’r diwydiant enfawr a ddarparodd yr ysgogiad i adeiladu’r gamlas. Mae’r domen wastraff enfawr yn dirnod lleol nad oes modd ei fethu.