Cefn Mawr

Cefn Mawr

Pentref a siapiwyd gan Adnoddau Naturiol
Mae’r cyfoeth o adnoddau naturiol o amgylch Cefn Mawr yn cynnwys tywodfaen o ansawdd uchel, haen fawr o lo gyda dyddodion clai cysylltiol, a mwynglawdd haearn, sydd wedi cael ei gloddio ers yr oesoedd canol. Wrth i ddiwydiant ddatblygu, tyfodd y pentref i ddiwallu anghenion poblogaeth gynyddol.

Cyflwyniad

Daeth Camlas Llangollen a Dyfrbont Pontcysyllte â chyfleoedd newydd a mynediad ehangach i farchnadoedd. Roedd haearn yn cael ei weithio mewn sawl ffwrnais ac yn cael ei ofannu, tra bo glo yn cael ei gloddio ym mhyllau glo Cefn, Plas, Kynaston a Dolydd.

Roedd busnesau manwerthu’n ffynnu wrth i bobl o bentrefi cyfagos ddod i brynu bwyd, dillad a chaledwedd megis y tuniwr J Thomas a oedd yn cyflenwi dŵr ac yn creu tuniau ar gyfer glowyr. Roedd nifer cynyddol o gapeli a thafarndai’n bodloni anghenion ysbrydol a chymdeithasol y pentref.

Sefydlwyd gwaith cemegol Graesser i echdynnu olew a chwyr paraffin o’r siâl lleol, ac fe aeth ymlaen fod yn gynhyrchydd ffenol mwyaf y byd.

Cliciwch ar unrhyw farciwr Pwynt o Ddiddordeb i weld y disgrifiad

1. Plas Kynaston

Adeiladwyd Plas Kynaston gan deulu Kynaston a oedd yn berchen ar dir sylweddol yn ardal Cefn Mawr a Threfor ar ddechrau’r ail ganrif ar bymtheg.

Priododd unig blentyn Humphry Kynaston, Mary, William Mostyn yn 1711. Pan olynodd eu mab i ystâd William Owen, fe fabwysiadodd y cyfenw Mostyn-Owen. William Mostyn-Owen oedd un o hyrwyddwyr pennaf cysylltu’r gamlas gyda’r Afon Hafren a’r Ddyfrdwy drwy Rhiwabon.

Plas Kynaston

© Hawlfraint y Goron: CBHC

Bu farw Mostyn-Owen mewn dyled enfawr yn 1795. Fe barhaodd ei fab o’r un enw weithgarwch rhagweithiol ei dad gyda’r gamlas i geisio talu ei ddyledion. Erbyn hynny, roedd diwydiant yn datblygu yn yr ardal. Roedd glofeydd yn cael eu cloddio a rhoddodd William Hazledine dir ar les ar gyfer ei ffowndri, lle roedd yn cyflenwi gwaeth haearn ar gyfer Dyfrbont Pontcysyllte. Gwerthwyd Plas Kynaston yn ei gyfanrwydd rhwng 1813 ac 1819.

Roedd camlas cangen Plas Kynaston yn caniatáu mynediad rhwydd at nwyddau i, ac o’r dref, heibio’r ffowndri i Fasn Trefor, ac erbyn yr 1870au, roedd gan yr ystâd bwll glo, ffatri gemegol a chrochendy.

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, defnyddiwyd Plas Kynaston fel ysgol a llyfrgell hyhoeddus nes adeiladwyd llyfrgell newydd drws nesaf yn yr 1970au. Cafodd y neuadd wag ei bordio ar ôl rhai blynyddoedd ac fe’i rhoddwyd ar y Gofrestr Adeiladau mewn Perygl. Yn ffodus iawn, cafodd ei hadfer a’i thrawsnewid i fod yn fflatiau.

© Heather Williams

Map OS 1879 © Gyda chaniatâd The National Library of Scotland

2. Cefn Kynaston, Heol y Bryn

Mae Cefn Kynaston yn dŷ tywodfaen prydferth a adeiladwyd ar ddechrau’r 1800au. Dyma oedd preswylfa fawr meddygon lleol o 1897 nes yr 1960au, gyda’r grisiau tu ôl i’r tŷ sy’n arwain at Stryd y Craen yn cael eu galw’n Grisiau’r Meddyg hyd heddiw.

© Heather Williams

Yn 1901, roedd Dr George MacDonald, a ddaeth o Morayshire yn yr Alban, yn byw yma gyda’i wraig a’i ddwy ferch ifanc, ei fam a’i chwaer yng nghyfraith, ynghyd â chogydd, nyrs, a cherbydwr. Erbyn 1911, roedd ei berthnasau-yng-nghyfraith wedi gadael, ond roedd ganddo fab. Roedd ganddo gogydd a morwyn tŷ, ond nid oedd arno angen ei gerbydwr erbyn hynny.

© Heather Williams

1901 Census © The National Archive Crown Copyright 1901

3. Stryd Craen

Mae Stryd Craen wedi cael ei enwi ar ôl y craen a oedd yn weithredol yma yn yr 1800au, gan drosglwyddo llwythau rhwng dwy system dramffordd. Roedd hyn yn galluogi nwyddau o Gefn Mawr i gael eu cludo ar hyd Rheilffordd Ffrwd Rhiwabon i ffowndri haearn Plas Kynaston ac yna ymlaen i Fasn Trefor.

Crane Street Cefn Mawr

Agorodd Rheilffordd Ffrwd Rhiwabon yn 1805, a chafodd ei hadeiladu’n glyfar wrth iddi ostwng yn gyson gyda llethr o tua 1 mewn 100, a oedd yn berffaith ar gyfer y ceffylau i dynnu’r un nifer o wagen â llwythau trwm i lawr i Fasn Trefor ag oedd o wagenni gwag i fyny o’r cei.

Stryd Craen a Stryd y Ffynnon oedd prif ardaloedd siopa’r dref, gyda llwyth o roseriaid, siopau nwyddau a siopau eraill yn cyflenwi holl anghenion y dref a’r pentrefi cyfagos.

Un o’r adeiladau mwyaf mawreddog â manylion cain yw’r Maypole yn Rhif 5. Roedd Maypole yn gadwyn o siopau menyn a margarîn a ddechreuodd yn Birmingham ar ddiwedd yr 1800au, gan dyfu i 889 cangen erbyn 1918. Adferodd arbenigwyr lleol y ffasgia haearn bwrw, arwyddion a’r fynedfa fosaig brydferth yn 2010.

I’w weld gyferbyn mae Craig Roberts, siop gig draddodiadol, sydd prin wedi newid ers yr 1880au. Mae pedwar mosaig yn dyddio’n ôl i ddiwedd yr 1880au, sydd wedi’u gwneud o deils a gynhyrchwyd yn hen waith teils J.C. Edwards yn Rhiwabon; un o hwrdd, un o fochyn, a dau yn darlunio teirw.

© Heather Williams

Craig Roberts butchers cefn mawr

© Heather Williams

4. Holly Bush Inn, Stryd y Ffynnon

Adeiladwyd Holy Bush Inn yr un pryd â Dyfrbont Pontcysyllte, mae’n debyg gan ddefnyddio rwbel cerrig a gynhyrchwyd yn ystod y gwaith o adeiladu’r Ddyfrbont, gan mai’r cerrig gorau a mwyaf cadarn yn unig oedd yn gallu cael eu defnyddio ar gyfer hwnnw a saernïaeth fawr megis Traphont Cefn.

Petai’r cynlluniau gwreiddiol i ymestyn y gamlas i Gefn Mawr wedi cael eu gwireddu, byddai’r Holly Bush ar ochr y gamlas!

Hollybush ar ôl y gwaith ailwampio © Heather Williams

Ymestynnwyd yr Holly Bush yn 1830 ac eto erbyn yr 1870au, wrth i’r dref dyfu a ffynnu.

Yn 2012, penderfynodd y bragdy i werthu’r dafarn. Ar y pryd, roedd y to mewn cyflwr gwael, gyda sawl twll yn gollwng, a llechi rhydd neu ar goll. Ers hynny, adferwyd ac atgyweiriwyd yr adeilad i gyd, gan gynnwys y seler gwrw gromennog, wreiddiol, sydd wedi cael ei hadfer fel y gall pobl fwynhau croeso cynnes a chwrw da yn yr Holly Bush unwaith eto!

Hollybush yn 2010 cyn y gwaith ailwampio © Hawlfraint y Goron: CBHC

5. Neuadd George Edwards ac Amgueddfa Cefn Mawr a’r Cyffiniau, Stryd y Ffynnon

Adeiladwyd Neuadd George Edwards yn 1911 er cof am George Edwards, brawd J.C Edwards, perchennog y gwaith brics a theracota enwog. Cafodd ei adeiladu gan ddefnyddio brics o’r gweithfeydd, a’r cynllun yn wreiddiol oedd creu theatr, ond roeddent yn cael hi’n anodd gwneud hynny’n ariannol, felly yn 1919 fe agorodd fel sinema cyntaf Cefn Mawr, ‘Kinema’ yn oes ffilmiau mud i gyfeiliant piano.

Cefn Mawr and District Museum

Erbyn 1944, cafodd ei ail enwi yn Sinema’r Bobl, ond fe gaeodd ei drysau yn yr 1950au, ac fe’i defnyddiwyd ar gyfer cyngherddau a pherfformiadau eraill unwaith eto. Mae’r Neuadd nawr yn cael ei rhedeg gan Gyngor Cymuned Cefn.

I gefn Neuadd George Edwards mae Amgueddfa Cefn Mawr, sy’n cael ei rhedeg gan grŵp o wirfoddolwyr brwdfrydig ac ymroddgar. Fe’i hagorwyd yn 2014 i ddathlu hanes a phobl Cefn Mawr a chymunedau cyfagos Trefor, Acrefair, Pen y Bryn, Froncysyllte, Rhosymedre a Newbridge.

Mae’r Amgueddfa’n gartref i ystod eang o wrthrychau, lluniau a dogfennau sydd wedi cael eu benthyg neu eu rhoi gan bobl leol, ac mae hi wedi’i rhannu i themâu amrywiol megis y gamlas, yr Afon Dyfrdwy, bywyd pentref, diwydiant, cludiant, chwaraeon, eglwysi a chapeli, ysgolion, celf a cherddoriaeth.

Dau wrthrych poblogaidd yw’r cwrwgl a ddefnyddiwyd ar gyfer pysgota am eog ar yr afon, a nyt a bollt o Ddyfrbont Pontcysyllte.

Mae’r Amgueddfa ar agor ar foreau Llun, Mercher a Gwener.

© Cefn Mawr Museum

© Cefn Mawr Museum

© Cefn Mawr Museum

6. Stryd y Ffynnon

Mae adeiladau uchel Stryd y Ffynnon yn dyddio’n ôl yn bennaf i ddiwedd yr 1800au neu ar ddechrau’r 1900au, ac mae’n cynrychioli cyfnod o dwf economaidd a ffyniant yng Nghefn Mawr. Mae cymysgedd o dywodfaen lleol a bric coch llyfn Rhiwabon, gyda addurniadau cain ar sawl adeilad. Mae adeiladau melyn yno hefyd, sy’n enghreifftiau cynnar o frics J.C. Edwards.

Mae rhif 31 Stryd y Ffynnon wedi’i adeiladu gyda briciau melyn ac roedd yn arfer bod yn ddau eiddo. Roedd Edward Davies yn byw yma gyda’i deulu ar ddiwedd yr 1800au, a gallwch weld yr arwydd ‘E. Davies Stafford House’ wedi’i baentio gyda charreg yn nodi’r dyddiad, sef 1869. Roedd yn ddyn lleol ac yn gwerthu offerynnau cerdd yn ystod yr 1880au. Erbyn 1891 roedd yn groser ac yn gwerthu llestri pridd, gyda’i wraig Emma ac un o’i feibion, Edward a oedd yn 32 oed, yn ei gynorthwyo yn y siop. Bu farw Edward yn fuan wedi hynny, ac fe barhaodd ei fab yn y siop yn gwerthu llestri.

Roedd rhifau 32 a 33 Stryd y Ffynnon yn bâr o siopau un talcen, o fric goch, gyda llety uwchben. Mae rhif 33 wedi cael ei adfer gyda’r arwydd siop gwreiddiol uwchben ffenestr y llawr cyntaf yn dangos mai hon oedd siop ‘W. H. Morris, Complete Hoouse Furnisher established 1855.’ Mae’r arwydd yn dyddio’n ôl i’r 1940au mae’n debyg, oherwydd canfuwyd rhif ffôn cynnar hefyd.

Gyferbyn, mae Paris House, Deva House ac Adeiladau Canolog, rhai o’r mwyaf trawiadol yng nghanol Cefn Mawr, gydag enghreifftiau gwych o amrywiaeth deunyddiau adeiladu lleol, a’r nwyddau oedd yn cael eu cynhyrchu ar ddechrau’r 1900au. Mae’r manylion teracota cain yn cynnwys ffrisiau, mowldio o amgylch y ffenestri, a motiffau addurniadol sy’n dangos sgil y crefftwr lleol ar y pryd.

© Heather Williams

© Heather Williams

7. Capel Ebeneser

Roedd Bedyddwyr Saesneg cynnar Cefn Mawr yn cwrdd mewn dau fwthyn bach ar Stryd y Ffynnon. Yn 1862 fe symudon nhw i adeilad a adawodd y Methodistiaid, ac o fewn rhai misoedd roedd 136 yn mynd i’r Ysgol Sul.

© Heather Williams

Roedd angen adeilad mwy arnynt, a phenodwyd y pensaer a’r adeiladwr Robert Jones o Belle Vue, Newbridge. Fe gynlluniodd Gapel enfawr Bedyddwyr Saesneg Ebeneser o dywodfaen, yn y dull Gothig, gyda blaenlun talcen dwbl uchel iawn.

Agorwyd y capel yn 1873 a penodwyd gweinidog newydd. Cyn hynny, roedden nhw’n rhannu gweinidog Tabernacl y Bedyddwyr Cymraeg, a oedd ar Stryd y Ffynnon hefyd.

Roedd safon foesol uchel yn ddisgwyliedig o’r gynulleidfa, ac yn 1888 dosbarthwyd rheolau ychwanegol. Roedd aelodau a oedd yn cael eu dal mewn tai tafarn yn cael eu disgyblu, ynghyd ag unrhyw un oedd yn cael eu dal yn mynd i’r theatr neu wylio pêl-droed, yn groes i ddatblygiad bywyd ysbrydol.

Adeiladwyd estyniad ar y capel yn 1899, gan adlewyrchu’r twf yn nifer y Bedyddwyr a oedd yn addoli yn yr ardal. Gosodwyd un o’r cerrig i nodi’r achlysur gan Mrs Jones, gweddw’r pensaer gwreiddiol. Yn 1903, tynnodd 32 aelod yn ôl o’r eglwys oherwydd eu bod yn anghytuno gyda threfniadau offerynnol’ a ffurfion nhw gapel newydd Bedyddwyr Bethel. Serch hynny, gyda niferoedd dirywiol yn mynd i’r capel, buodd iddo gau ar ddiwedd yr 1900au.

Cynhaliwyd gwaith ailwampio sylweddol yn yr adeilad yn 2008, a chafodd ei drawsnewid yn ganolfan fusnes gyda chaffi, galeri, stiwdio a swyddfeydd. Un o nodweddion mwyaf amlwg y gwaith moderneiddio hwn oedd estyniad i flaen y capel, gyda rhan wydr yn wynebu Sgwâr Cefn. Yn ogystal â’r ffenestri lliw gwreiddiol, roedd yr adeilad ar ei newydd wedd yn cynnwys ffenestri lliw newydd.

Yn anffodus, bu rhaid i’r adeilad gau yn 2013, ond mae’r gymuned leol yn gobeithio gweld Capel Ebenezer yn agor ei ddrysau unwaith eto.

© Heather Williams

© Heather Williams

8. Chwarel Tywodfaen (preifat)

Mae chwareli tywodfaen Cefn y Fedw wedi cael eu cloddio ers yr oesoedd canol. Mae gan y garreg liw melyn golau pan mae’n cael ei dorri, ond mae’n hindreulio o fod yn liw aur moethus ar ôl rhai blynyddoedd. Mae Carreg Cefn yn galed, ond gellir ei dorri’n gywir i’w ffitio’n berffaith rhwng bob blocyn.

Roedd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer eglwysi lleol megis San Silyn yn Wrecsam, adeiladau enwog megis Oriel Gelf Walker yn Lerpwl, a dyma oedd y garreg ddelfrydol ar gyfer adeiladu Dyfrbont Pontcysyllte Wrecsam.

© Heather Williams

Gwrandewch ar…

…sŵn y chwarelwyr yn tapio’r graig

Roedd sawl chwarel ar ‘gefn mawr’ y mynydd, sy’n rhoi’r enw i’r dref. Roedd y tywodfaen yn cael ei drin â llaw ar wyneb y chwarel, a gwelir hen farciau’r cŷn ar rhai o’r cerrig yn yr hen chwareli.

Defnyddiwr tywodfaen Cefn hyd heddiw ar gyfer adeiladau newydd a gwaith ailwampio, gan gynnwys y Ddyfrbont a Holly Bush Inn.

© Andrew Deathe

© Andrew Deathe

9. Y Stryd Fawr

Mae’r Stryd Fawr yn rhedeg ochr yn ochr â’r cefn mawr ac yn edrych dros yr ardal oedd unwaith wedi’i feddiannu gan Grochendy Kynaston a Gweithfeydd Cemegol Plas Kynaston.

Roedd bythynnod bach yn tyrru o amgylch y chwarel, wedi’i gysylltu gan labyrinth o lwybrau, grisiau a waliau cerrig. Cafodd swm sylweddol o’r tai cynnar eu dinistrio yn yr 1960au a 110 Stryd Fawr yw’r unig enghraifft sy’n weddill o fwthyn cynnar y gweithiwr, sydd nawr wedi’i baentio’n wyn gyda tho llechi.

© Crown copyright: RCAHMW

Mae sawl tŷ yng Nghefn Mawr yn elwa o’r llethr serth, ac yn cynnwys mwy o loriau i gefn yr eiddo. Mae 110 Stryd Fawr yn ymddangos i fod yn eiddo unllawr, ond mewn gwirionedd mae’n adeilad deulawr.

Cafodd sawl un o’r bythynnod ‘un i fyny un i lawr’ eu hadeiladu gan gyflogwyr ar gyfer eu gweithwyr medrus. Mae gan 118 ac 120 Stryd Fawr gerrig dyddio sy’n dangos llythrennau enw. Adeiladwyd 88 Stryd Fawr ar gyfer perchennog y chwarel, ond fe newidiodd i fod y Grosvernor Arms yn ddiweddarach, un o’r nifer o dafarndai yn y pentref.

Erbyn 1911, roedd y mwyafrif o bobl yng Nghefn Mawr yn gweithio fel glowyr neu waith yn ymwneud â chlai yn hytrach na chwarela cerrig. Un oedd yn gweithio yn y chwarel gerrig oedd Edward Wright, a gafodd ei ddisgrifio fel cloddiwr, yr hen air ar gyfer gweithiwr mewn chwarel gerrig. Cafodd ef a’i wraig, Elizabeth, eu geni yng Nghefn Mawr. Yn 1901 roedd yn byw gyda’i ddwy ferch a’i ddau fab yn 120 Stryd Fawr. Erbyn 1911, fe symudodd o a’i deulu i Deras bric coch Lloyd yn bellach i fyny’r Stryd Fawr. Roedd ei ddwy ferch yn gweithio erbyn hynny, Barbara fel athrawes ac Edith Maud fel morwyn. Roedd ei fab hynaf, Dan, yn 15 oed ac yn gweithio fel labrwr yn y maes gwneud brics, a’i fab arall, Lawrence dal yn yr ysgol. Mewn ffotograff teuluol a gymerwyd ar ddechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, gwelir Dan yn eistedd yn falch mewn iwnifform milwrol, ond yn drist iawn cafodd ei ladd yn Ffrainc yn 1918.

118-120 Y Stryd Fawr © Heather Williams

Quarryman Cottage Cefn Mawr

110 Y Stryd Fawr © Heather Williams

Lloyd Terrace © Heather Williams

Teulu Edward Wright c1914 © Trwy garedigrwydd Stephen Adamson

10. Capel Seion, Stryd Seion

Capel Cymraeg Bedyddwyr Seion, neu’r Tabernacl, oedd yn un o gapeli’r Bedyddwyr cynharaf i gael eu hadeiladu yng Nghefn Mawr yn yr 1790au, a chafodd ei ail-adeiladu pedwar gwaith wrth i’r gynulleidfa gynyddu.

Cafodd y capel ei ddymchwel yn yr 1970au a heddiw yr unig beth sy’n weddill yw’r fynwent gyda charreg o’r eglwys sy’n dyddio’n ôl i 1805 ar y wal uchel oddi tani.

Y tro diwethaf cafodd y capel ei ail-adeiladu oedd 1900 pan gafodd George Richards, peiriannydd ymgynghorol, ei gyflwyno gyda thrywel a ddefnyddiwyd yn ystod gosod y cerrig sylfaen.

Roedd Evan Evans yn weinidog dylanwadol yn nyddiau cynnar y capel. Fe ddechreuodd bregethu yn 1902 a thair mlynedd yn ddiweddarach cafodd ei ordeinio fel gweinidog yng Nghefn Mawr. Yn yr un flwyddyn, adroddodd y papur newydd lleol bod adfywiad crefyddol yn mynd o nerth i nerth. ‘Yn Seion ar fore Sul, fe fedyddiodd y gweinidog un ar ddeg o bobl, a chafodd pump eu trosi yn y prynhawn.’ Llai na mis yn ddiweddarach, adroddodd y papur newydd bod niferoedd yr aelodau newydd wedi cyrraedd 82.

Roedd Evan Evans yn pryderu am les ei gynulleidfa ac fel helpodd y gweithwyr ffurfio undebau llafur, neu gyfuniadau fel yr oeddent yn eu galw ar y pryd. Fe helpodd i sefydlu capeli Bedyddwyr mewn mannau eraill o amgylch yr ardal, ond ar ymweliad i Lundain i hel pres ar gyfer y capel, fe benderfynodd ddod yn ddyn llefrith! Fe adawodd Gapel Seion ac aeth ymlaen i hyrwyddo’r Bedyddwyr yn Llundain.

Elias Evans oedd ei olynydd; gweinidog poblogaidd, awdur a threfnydd. Fe sefydlodd naw capel arall yn yr ardal gyfagos ac ysgrifennodd nifer o gyhoeddiadau, gan gynnwys hanes enwad y Bedyddwyr. Fe geisiodd wella lles cymdeithas a moesol y gymuned, a oedd yn enwog am faetio teirw ac eirth, ymladd ceiliogod a chwffio ar y stryd.

Mae cerrig beddi yn y Gymraeg a’r Saesneg yn y fynwent sy’n nodi bywydau’r sawl oedd yn addoli yma, megis Thomas Richards, masnachwr calch fu farw yn 45 oed yn 1865, a John Williams, saer maes, fu farw yn 61 yn 1861.

Mae’r olygfa panoramig wedi newid yma sawl gwaith dros y 200 mlynedd diwethaf gyda ffyniant a methiant diwydiannau, sydd wedi gadael eu marc ar y gymuned.

© Hawlfraint y Goron: CBHC

Lime merchant gravestone Zion-chapel grounds Stop Heathe Williams

© Heather Williams

Stone mason gravestone in Zion chapel grounds

© Heather Williams