Cyflwyniad
Mae’r Waun yn gorwedd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, ac mae’n cynnwys dau gastell. Y cynharaf yw’r castell mwnt a beili a adeiladwyd yn yr 1100au, er mwyn gwarchod croesiad yr Afon Ceiriog mae’n debyg. Adeiladwyd Castell y Waun yn 1295 ar gyfer Brenin Edward I, wedi’i leoli’n strategol ar fynediad Dyffryn Ceiriog fel rhan o’i ymgyrch i reoli Cymru.
Roedd y gamlas o fantais sylweddol i ddiwydiannau Dyffryn Ceiriog pan gyrhaeddodd y Waun yn 1801. Roedd llechi, silica, glo a thywodfaen yn cael eu chwarela neu eu cloddio yn y Dyffryn, ac roedd y gamlas a’r rheilffordd yn ddiweddarach yn darparu mynediad i farchnadoedd ehangach.
Cliciwch ar unrhyw farciwr Pwynt o Ddiddordeb i weld y disgrifiad
1. Dyfrbont y Waun
Dyfrbont y Waun oedd dyfrbont fordwyol uchaf y byd pan agorodd yn 1801. Roedd y cynlluniau gwreiddiol yn cynnwys adeiladu arglawdd hir gyda dyfrbont fach dros yr Afon Ceiriog, ond fe wrthododd Richard Myddelton yng Nghastell y Waun hyn oherwydd y byddai’n amharu ar ei olygfa.
Felly cynigodd William Jessop a Thomas Telford ddyfrbont a fyddai’n ‘nodwedd ramantus yn yr olygfa’n hytrach na’n rhwystr’, gan osgoi difrod i ddolydd yr afon ac argloddiau serth, drud iawn.
© Jo Danson
Roedd angen technegau newydd i adeiladu dyfrbont 220 metr o hyd/710 troedfedd o hyd a 21 metr/70 troedfedd uwchben yr afon. Mae deg bwa carreg yn cario platiau haearn i ffurfio gwely’r gamlas. Roedd ochrau’r cafn yn wreiddiol wedi’i wneud yn wrth-ddŵr gyda bric wedi’i ffwrndanio ar dymheredd uchel a mortar gyda wyneb cerrig, ond gosodwyd platiau haearn ochr yn 1869.
Daeth arlunwyr yma i baentio beth oedd yn cael ei ystyried i fod yn nodwedd ramantus. Yn 1799, cyn i’r ddyfrbont gael ei chwblhau, paentiodd Richard Colt Hoare yr olygfa ac ysgrifennodd ei fod wedi ‘stopio i edmygu ar yr olygfa o ddyfrbont nobl sy’n cael ei ffurfio ar draws y dyffryn’. Mae’r darlun yn dangos tŷ peiriannydd hefyd, Telford Lodge, sydd nawr yn cael ei alw’n Min y Waen, yn y cefndir. Paentiodd Samuel Lacey yr olygfa’n edrych tuag at y Waun yn 1820, yn ogystal â Henry Gastineau o’r ongl arall yn 1834, sy’n dangos y ddyfrbont gain yn croesi Afon Ceiriog, rhai blynyddoedd cyn i draphont y rheilffordd gael ei hadeiladu.
Mae’r ddyfrbont yn nodi’r ffin rhwng Cymru a Lloegr ac yn dilyn hen gwrs yr afon, a welir fel pant isel.
© Hawlfraint y Goron: CBHC
© Jo Danson
Dyfrbont y Waun gan Samuel Lacey, 1820 © Gyda chaniatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Gweithwyr yn clirio Dyfrbont y Waun 1954 © Gyda chaniatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru
2. Traphont y Waun
Yn sefyll uwchben y ddyfrbont mae Traphont y Waun, sy’n cario rheilffordd Rhiwabon i Gaer dros Afon Ceiriog. Wedi’i chwblhau yn 1848, dyma’r rheiffordd a fyddai’n chwarae rôl yn nhranc y gamlas fel llwybr cario nwyddau yn y pendraw.
© Jo Danson
Gwrandewch ar…
…sŵn y trên yn croesi’r draphont
Roedd Henry Robertson, peiriannydd y rheilffordd, wedi ymgyrchu’n llwyddiannus i gael cymeradwyaeth ar gyfer llinell rheilffordd a fyddai’n cysylltu Rhiwabon gyda Chaer drwy Wrecsam yn 1845. Roedd yn awyddus i ymestyn y llinell i’r Amwythig, gan ei fod wedi nodi’r angen i gludo nwyddau’n bellach. Roedd ei gynnig yn gymhleth oherwydd bod angen i’r llinell groesi’r Ddyfrdwy a’r Ceiriog yn ogystal â goresgyn gwrthwynebiad gan dirfeddianwyr lleol. Roedd yn llwyddiannus a phenododd Thomas Brassey fel contractwr cyffredinol.
Roedd y draphont dros Afon Ceiriog yn llai na’r un dros Afon Dyfrdwy, ond roedd yn 260 metr/849 troedfedd o hyd a 30 metr/100 troedfedd o uchder dal i fod. Cymerodd ddwy flynedd i’w hadeiladu, ac roedd ganddi ddeg bwa o garreg yn wreiddiol, a thri bwa o bren ar bob ochr, ond cafodd ‘rhain eu disodli gan chwe gofod carreg ar ôl 10 mlynedd.
Daeth y llinell yn rhan o system Reilffordd y Great Western yn 1854.
© Hawlfraint y Goron: CBHC
© Jo Danson
3. Twnnel y Waun
Twnnel y Waun oedd un o dwneli camlas cyntaf Prydain i gael ei adeiladu gyda llwybr tynnu.
Y twnnel yw’r hiraf ar y gamlas yn mesur 421 metr neu 460 llath o hyd, a chymerodd saith mlynedd i’w adeiladu. Mae’r fynedfa gerrig i’r twnnel wedi’i hymledu ychydig i’w gwneud yn haws i gychod fynd i mewn, gyda’r ffaith ei bod yn syth er mwyn gweld cychod yn dod o’r cyfeiriad arall.
© Jo Danson
Gallai’r gamlas fod wedi cael ei chloddio mewn toriad, ond fe wrthododd Richard Myddelton yng Nghastell y Waun i ganiatáu i’r gamlas dorri ar draws ei fynediad i dref y Waun, er ei fod yn gefnogwr brwd o’r prosiect.
‘Torri a gorchuddio’ oedd y dull dewisol ar gyfer ei adeiladu. Agorwyd y ddaear ar wahanol hyd fel bod y gwaith brics yn gallu cael ei wneud yn berffaith, ac yna diogelwyd y bwa gyda cherrig rhydd a gwastraff a gloddiwyd. Seliwyd y gwaith brics gyda chlai i gadw’r twnnel yn sych.
Yn 1822, ailadeiladwyd y llwybr tynnu cantilifer, gan ei gefnogi gyda bwâu bric, sy’n caniatáu i’r dŵr lifo oddi tano a lleihau’r llusgiad ar y cychod. Roedd yn ymgorffori canllaw haearn, gyda’r rheilen yn troi i mewn i’r tir, fel nad oedd yn mynd yn sownd yn y llusgraff.
O flaen y twnnel mae basn y gamlas gyda’i siâp diemwnt, lle gall cychod aros os oes angen, i fynd i mewn i’r twnnel. Y fasn oedd pen taith y gamlas o loc Frankton i Ddyfrbont y Waun pan agorwyd yn 1801.
Cynigiwyd cyfleusterau porthdal yma, gyda threfniant pwli i helpu gyda thynnu nwyddau i fyny i’r ffordd uwchben y gamlas. Roedd pont bwyso a chaban gweithwyr y gamlas wedi’u lleoli ger y fasn yn yr 1800au.
© Hawlfraint y Goron: CBHC
4. Gorsaf Rheilffordd y Waun
Roedd gorsaf rheilffordd y Waun yn adeilad tywodfaen hardd a adeiladwyd yn 1848 pan agorodd y llinell newydd o dref Caer i’r Amwythig. Dyma oedd pen y daith ar gyfer Tramffordd Dyffryn Glyn, a oedd yn cludo llechi, cerrig, gwlanenni, a phowdr du o Ddyffryn Ceiriog. Ar un pwynt, roedd gan ffatri Cadbury eu seidin eu hun i gymryd gwirod coco i’r ffatri siocled yn Bournville.
© Jo Danson
Roedd gwrthwynebiad gan rhai o’r tirfeddianwyr i’r rheilffordd newydd yn golygu bod rhaid i’r peiriannydd, Henry Robertson, wneud arolwg o rannau o’r llinell arfaethedig dros nos. Roedd un o’r tirfeddianwyr blin yn dymuno bod rhywun yn ‘taflu Robertson a’i theodolit, a ddefnyddiwyd ar gyfer cynnal yr arolwg, i mewn i’r gamlas!’
Roedd Tramffordd Dyffryn Glyn wedi’i chysylltu â Gorsaf y Waun yn 1888. Roedd y mwyafrif o’r trenau yn cario nwyddau a theithwyr, er hynny roedd teithiau arbennig i deithwyr yn ystod yr haf a gwyliau banc. Bu i’r dramffordd gau yn 1935, ond gallwch weld y fwa sbâr ym mhont ffordd Gorsaf y Waun hyd heddiw.
Pasiodd y Frenhines Fictoria drwy’r Waun ar y trên, ar ei hymweliad i Ogledd Cymru yn 1889. Lluniwyd cynlluniau manwl i’w chroesawu a bu i warchodlu o ddeugain aelod o uwch staff y rheilffordd ymgynnull i weiddi ‘God Save the Queen’. Yn anffodus, roedd gan y Frenhines ei bleindiau wedi’u cau’n dynn yn ei cherbyd!
Fe gaeodd yr orsaf i nwyddau yn 1964 ond mae seidin preifat o hyd yn danfon pren i ffatri Kronospan, sy’n cynhyrchu sglodfwrdd a phaneli pren eraill.
Cafodd yr orsaf garreg wreiddiol ei dymchwel yn 1987.
Tramffordd Dyffryn Glyn
Station Road © Graham Greasley
5. Castell y Waun
Roedd Castell y Waun yn gartref i’r teulu Myddelton am dros 400 mlynedd. Prynodd Syr Thomas Myddelton Gastell y Waun yn 1595 a throdd y gaer ganoloesol yn gartref teuluol cain.
© Hawlfraint y Goron: CBHC
Adeiladwyd Castell y Waun yn 1295 fel rhan o ymgyrch Brenin Edward I i reoli Cymru, a oedd wedi’i leoli’n strategol ar fynedfa Dyffryn Ceiriog. Yr unig ran canoloesol sy’n weddill o’r castell yw’r prif fynedfa ar y blaen, sy’n cynnwys Tŵr Adam, lle gallwch weld y warchodfa gyda’r dwnsiwn oddi tani.
Roedd Syr Thomas Myddelton I yn ddyn busnes llwyddiannus, ac yn un o’r buddsoddwyr cyntaf yng Nghwmni Dwyrain India, a oedd yn masnachu cotwm, sidan sbeisys, te a nwyddau eraill.
Cynhaliwyd gwaith adfer sylweddol ar y castell gan Syr Thomas Myddelton II yng nghanol yr 1600au ar ôl difrod sylweddol yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr.
O 1911 ymlaen, cafodd y castell ei roi ar brydles i Thomas Scott-Ellis, Wythfed Arglwydd Howard o Walden, milwr ac artist, bardd a dramodydd, pencampwr Olympaidd, canoloeswr ac arloeswr. Ymysg y gwesteion enwog sydd wedi arwyddo llyfr ymwelwyr mae Brenin Siôr V a’r Frenhines Mary, yr awdurdon Rudyard Kipling a George Bernard Shaw, a’r artist Augustus John, a ganfu ei westeiwr yn eistedd mewn cadair wedi’i wisgo mewn arfwisg lawn!
Prynodd Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol y castell yn 1978 ac fe barhaodd teulu’r Myddelton i fyw mewn rhandy preifat nes 2004, pan symudon nhw i dŷ ar ystâd y castell.
O’r casgliadau o Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru : © Hawlfraint: Central Office of Information Photographic Collection
© Jo Danson
© Jo Danson
6. Gwesty’r Hand
Roedd adeilad y gwesty gwreiddiol yn nhŷ tref Ystâd Castell y Waun, a sefydlwyd i ddarparu adloniant megis saethyddiaeth ar gyfer y bonedd lleol. Erbyn yr 1780au, roedd yn dafarn coetsio pwysig a oedd yn gweini teithwyr pan roedd sawl tollffordd yn cael eu datblygu yn yr ardal.
© Graham Greasley
Mae’r gwesty wedi cael ei enwi ar ôl llaw waedlyd arfbais teulu Myddelton ac mae nifer o chwedlau am ei darddiad. Un o’r rhain yw, nad oedd Lord Myddelton yn sicr pa un o’i efeilliaid a anwyd gyntaf. Pan roedd yn marw, fe heriodd ei feibion i ras ar gefn ceffyl o amgylch y castell. Dywedodd y byddai’r mab cyntaf i ddychwelyd a chyffwrdd ei wely angau yn etifeddu’r ystâd. Yn ôl y sôn, roedd y ras yn un agos iawn. Wrth i’r meibion ruthro i fyny’r grisiau, fe faglodd un o’r meibion. Gan sylweddoli y byddai’n colli’r ras, fe dorrodd ei law i ffwrdd a’i daflu ar wely ei dad, gan ennill ei hawl i etifeddu’r ystâd.
Cafodd y gwesty ei ehangu i fodloni’r cynnydd mewn masnach, a ddaethpwyd i’r ardal yn sgil gwelliant i’r llwybr rhwng Llundain a Ffordd Caergybi. Roedd Ellis Davies yn gerbydwr ac yn was stabl, a oedd yn gofalu am y ceffylau yng Ngwesty’r Hand yn yr 1870au. Un diwrnod, cafodd ei daflu o’r cerbyd, pan ddychrynwyd y ceffylau ar siwrnai, ac roedd yn gorwedd yn anymwybodol ar y ffordd nes i’r ‘ysgogwyr’ gyrraedd. Roedd yn ffodus i beidio cael ei gwest yma, yn wahanol i sawl glöwr arall, y cynhaliwyd eu cwest yn yr Hand.
© Jo Danson
© Graham Greasley
7. Teras Yr Hand ac Ysgolion Cenedlaethol Charlotte Myddelton-Biddulph
Pan etifeddodd Charlotte Myddelton-Biddulph y Castell yn 1819, mewn gwirionedd, fe etifeddodd y Waun i gyd. Nododd mai ei huchelgais oedd gwella edrychiad a chyfleusterau y Waun, ac fe aeth ati i wella’r ardal, a oedd o fudd sylweddol i’r dref.
Adeiladwyd Teras Yr Hand yn yr 1820au, rhes o saith eiddo’n debyg i elusendai, gyda mynediad ffenestri wedi’u bordio er mwyn osgoi’r dreth ffenestr.
Roedd Charlotte yn gyfrifol hefyd am adeiladu Ysgol y Waun i Fechgyn ac Ysgol y Waun i Ferched, a oedd yn addysgu’r teuluoedd tlotaf, yn unol ag addysg yr Eglwys Anglicanaidd.
Roedd yr Ysgol i Fechgyn drws nesaf i Westy’r Hand, ac yn wreiddiol roedd lle i 100 o fechgyn, ond cafodd ei ymestyn yn 1857 i letya 123 o ddisgyblion. Gwnaed taliadau bach gan nifer o rieni tuag at gyflog yr ysgolfeistr. Yn ddiweddarach daeth yn bencadlys i’r Lleng Brydeinig Frenhinol, ac fe’i rhoddwyd iddynt yn 1964 gan deulu’r Myddelton.
Adeiladwyd yr Ysgol i Ferched yn 1843, ac fe’i dyluniwyd gan Augustus Pugin yn y dull Gothig, a’r gost oedd £450. Adeiladwyd estyniad arni yn 1874 ac eto yn 1905, pan fe’i defnyddiwyd ar gyfer dosbarthiadau addysg i oedolion, gan gynnwys dosbarthiadau nos cloddio. Daeth yr ysgol yn warws dodrefn yn 1970.
© Trwy garedigrwydd Graham Greasley
Ysgol i Ferched © Jo Danson
Teras Yr Hand © Graham Greasley
Ysgol i Ferched © Graham Greasley
8. Cofeb Ryfel
Roedd y Gofeb Ryfel a’r Tir Hamdden yn rhoddion gan Arglwydd Howard de Walden. Roedd yn filwr yn y 10fed Hwsâr Brenhinol yn Rhyfel De Affrica, ac fe ailymunodd â gwasanaeth gweithredol yn y Rhyfel Byd Cyntaf gan wasanaethu gyda 9fed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn Gallipoli a Ffrainc.
Crëwyd y Gofeb Ryfel gan y dylunydd a’r cerflunydd enwog Eric Gill, sydd fwyaf adnabyddus am ei ffurfdeip Gill Sans. Cafodd ei hadeiladu o Garreg Portland, a’i dadorchuddio ar 17 Hydref 1920. Mae’r cerflun yn cynnwys milwr yn plygu dros ei reiffl a’i fidog ar un ochr, ac yn gwisgo côt hir a helmed.
Mae dwy ochr y gofeb yn nodi’r 66 dyn o’r Waun a’r ardal gyfagos a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ac ychwanegwyd enwau’r 19 dyn a laddwyd yn yr Ail Ryfel Byd yn ddiweddarach.
Cyffyrddodd y rhyfel fywydau sawl dyn o bob cefndir, o’r bonedd i’r glowyr, a dynion y rheilffordd.
© Jo Danson
9. Eglwys y Santes Fair
Mae’r Santes Fair yn dyddio’n ôl i 1130 pan adeiladwyd yr eglwys drws nesaf i’r castell ‘mwnt a beili’. Cafodd yr eglwys ei chysegru i Sant Tyseilio’n wreiddiol, ond mae’n debyg y cafodd ei newid i’r Santes Fair yn yr 1200au pan feddiannodd mynachod Abaty Glyn y Groes yr eglwys.
© Jo Danson
Cafodd yr eglwys ei hymestyn gyda chorff eglwys ychwanegol yn 1519. Er y cafodd ei addasu a’i hatgyweirio sawl gwaith, fe gadwodd llawer o’i chymeriad canoloesol gyda thoeau wedi’u cerfio’n fanwl. Mae cerfluniau pwysig yno, gan gynnwys rhai i’r teulu Myddelton. Yn y gorffennol, arweiniodd gystadleuaeth rhwng teulu’r Myddelton o Gastell y Waun a theulu’r Trefor o Neuadd Brynkinalt gerllaw at anghydfod ac achos llys ynglŷn â pha deulu oedd yn cael eistedd yn yr eglwys yn yr 1620au!
Roedd cloch cyrffyw yn cael ei chanu gyda’r nos yn ystod cyfnod y Normaniaid nes yr 1880au. Mae’n debyg bod y gloch mewn clochdy allanol unigol cyn i’r tŵr gael ei adeiladu yn 1475. Mae cofnodion yn dangos bos tair cloch yn y tŵr yn 1650, ond erbyn 1814 roedd chwe chloch, a chawsant eu hail-lunio a’u hadleoli yn y flwyddyn honno.
Roedd y clochyddion yn cael eu talu â chwrw weithiau, fel y cafodd ei gofnodi yn 1688 yng nghyfrifon warden yr Eglwys, a pharhaodd taliadau o’r fath nes tua 1820. Roedd canu’r ‘cloch cawl’ ar ddiwedd y gwasanaeth yn hysbysu’r sawl oedd adref i baratoi i weini swper! Mae clochyddion brwdfrydig yn parhau gyda’r traddodiad o alw ffyddloniaid i’r eglwys a nodi dathliadau lleol a chenedlaethol.
© Jo Danson
Paentiad John Varley, 1820: O’r casgliadau o Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru : © Hawlfraint: Cyngor Sir Ceredigion
10. Pont y Waun a Ffordd Caergybi
Roedd y llwybr rhwng Llundain a Ffordd Caergybi’n un o gampau peirianyddol mwyaf y cyfnod, ac roedd yn cynnwys argloddiau mawr, toriadau, sarnau a phontydd, gan gynnwys Pont Waterloo ym Metws-y-coed a’r fawreddog Bont Menai.
© Jo Danson
Newidiodd lifogydd difrifol 1706 gwrs Afon Ceiriog, ac ysgubo sawl pont i ffwrdd, gan gynnwys un yn y Waun. Adeiladwyd pont newydd ac fe’i hatgyweiriwyd sawl gwaith cyn y dyluniodd Thomas Telford bont garreg gyda bwâu uchel, ac fe’i hadeiladwyd gan John Simpson yn 1793.
Yn dilyn Deddf Uno rhwng Prydain ac Iwerddon yn 1801, roedd angen llwybr cynt a mwy dibynadwy rhwng Llundain a Dulyn ar gyfer y cerbydau post, a’r Aelodau Seneddol Gwyddelig oedd nawr angen bod yn bresennol yn y Senedd yn Llundain.
Yn 1811 penodwyd Thomas Telford i gynnal arolwg o’r llwybr 83 milltir o’r Waun i Gaergybi, y prosiect peirianneg sifil mawr cyntaf i’w gyllido’n uniongyrchol gan y Senedd. Dechreuodd gwaith ar y llwybr cyfan yn 1815, ac fe’i gwblhawyd yn 1826. Roedd Telford yn gallu defnyddio’r profiad a enillodd ar y gamlas; y dyluniad a’r gwaith o reoli contract yn benodol.
Roedd y llethr i fyny o’r afon i’r dref yn her, ac er yr arglawdd enfawr, dyma ran fwyaf serth y ffordd gyda graddiant o 1 mewn 20. Roedd hyn yn welliant sylweddol ar ffordd y tollborth, ond roedd yn fwy serth na’r graddiant argymelledig o 1 mewn 30, sef y llethr fwyaf y gallai ceffylau carlam dynnu coets fawr.
Adeiladwyd waliau cynnal mawr i helpu i atal tirlithriadau a fyddai’n effeithio ar y ffyrdd, a gosodwyd cerrig milltir â phlatiau haearn ar hyd y llwybr, fel y gallai teithwyr weld sut gynnydd roeddent yn ei wneud ar eu siwrnai. Adeiladwyd tolldai mewn siâp nodedig a fyddai’n rhoi golygfa dda o’r ffordd ymhob cyfeiriad i geidwad y tolldy. Roedd y tai’n cynnwys llety preswyl ar gyfer ceidwad y tolldy a’i deulu.
Bron i 20 mlynedd yn ddiweddarach ar ôl y gwelliannau hyn i’r ffyrdd, arweiniodd ledaeniad y rhwydwaith o reilffyrdd at ddiflaniad cart a cheffyl.
© Jo Danson