Lift Bridge Froncysyllte

Froncysyllte

Y Gymuned ger y Gamlas
Ffynnodd Froncysyllte wrth i’r gamlas gynnig trafnidiaeth hawdd a chyfleoedd i fusnesau dyfu. Mae’r bont godi eiconig yn ganolbwynt i’r pentref, ac ar hyd y gamlas mae dau fryncyn o odynau calch yn aros i’n hatgoffa o’r diwydiant a fu yma.

Cyflwyniad

Tyfodd Froncysyllte, a elwir yn lleol yn Fron, o bentref bychan gwledig gyda dim ond 15 o dai ac un dafarn, i fod yn llawn bwrlwm diwydiannol ar ôl i’r gamlas agor. Adeiladwyd tai, siopau, eglwys, capeli ac ysgol newydd a gwelwyd dynion yn gadael eu gwaith yn y meysydd i weithio yn y chwareli calchfaen a’r odynau lleol, yn ogystal â’r gwaith glo a’r gwaith briciau cyfagos.

Erbyn dechrau’r 1900oedd roedd dros 900 o bobl yn byw yn ardal y Fron. Yn raddol, daeth y diwydiannau hyn i ben a heddiw, dim ond atgof o’r hen waith sydd yma. Bydd y daith hon yn rhoi cipolwg i chi ar y ffordd y mae’r pentref wedi newid a chewch eich cyflwyno i rai o’r bobl arbennig oedd yn byw yno.

Cliciwch ar unrhyw farciwr Pwynt o Ddiddordeb i weld y disgrifiad

1. Y Bont Wyddelig a’r Lanfa

Mae’n bosibl fod y Bont Wyddelig wedi ei henwi ar ôl y ‘nafis’, neu’r ‘cloddwyr’ a dyllodd sawl un o’r systemau camlas. Roedd nifer o’r nafis yn dod o Iwerddon i chwilio am waith, gan fod adeiladu camlesi a ffyrdd ar gynnydd ar ddiwedd y 1700oedd a dechrau’r 1800oedd.

Mae bwa’r bont yn llawer uwch na rhai eraill ar y gamlas gan fod hwn yn doriad mor ddwfn. Defnyddiwyd yr hyn a duriwyd o’r toriad i greu’r arglawdd ar gyfer Dyfrbont Pontcysyllte.

Irish Bridge

Y Bont Wyddelig

Roedd yr ardal wastad yr ochr bellaf i’r tro yn lanfa, a ddefnyddiwyd i ddadlwytho calchfaen o Froncysyllte.

Sefydlwyd gwaith briciau Pen-y-bont ym 1865, gan wneud defnydd o bwll clai sylweddol ar y safle gyda’i liw ‘coch Rhiwabon’ trawiadol. Roedd tramffordd yn rhedeg o’r gwaith at lanfa ar yr ardal wastad yr ochr bellaf i’r tro yn y gamlas. Erbyn 1881 roedd hyn wedi ei ddisodli gan gangen lled safonol o’r gwaith at Reilffordd y Great Western.

James Coster Edwards ddatblygodd y gwaith, a chynhyrchai ystod eang o friciau, teils to a theils crib, a chyrn simdde o ansawdd uchel. Ond daeth yn adnabyddus oherwydd iddo wneud defnydd arloesol a helaeth o’r briciau terracotta coch i addurno nifer o adeiladau. Mae hyd yn oed prif swyddfa Pen-y-bont yn arddangos harddwch y gwaith roedd y cwmni’n ei gynhyrchu. Gwerthwyd y gwaith ym 1956 ac fe’i caewyd ym 1960.

OS Map 1888-1913 Canal Penybont Works

Map OS o 1888 yn dangos Gweithfeydd Penybont © Atgynhyrchwyd gyda chaniatâd Llyfrgell Genedlaethol yr Alban

2. Dyfrbont Cross Street

Mae Dyfrbont Cross Street yn cludo’r gamlas dros lôn fferm gan ei bod yn haws mynd â’r gamlas dros y lôn na chreu pont i fynd â’r ffordd dros y gamlas. Fe’i hadeiladwyd gyda gwaith carreg traddodiadol a chlai i greu leining i ddal dŵr y gamlas. Mae’r dull adeiladu hwn yn addas ar gyfer dyfrbontydd bychan ond mae’n rhy ansefydlog a drud ar gyfer dyfrbontydd mwy gyda sawl bwa ac uchder mawr.

Roedd tramffordd geffylau o’r odynau calch yn Froncysyllte yn mynd o dan y gamlas yn y fan hon er mwyn ymuno â’r brif reilffordd yn y Bont Wyddelig. Gallwch weld olion bwrdd troi’r man croesi, oedd wedi ei osod ar nawdeg gradd er mwyn troi’r wagenni o amgylch y corneli tynn.

Mae’n hawdd methu’r ddyfrbont pan fyddwch chi’n cerdded ar hyd y gamlas ond mae golygfan ar waelod yr arglawdd.

Cross Street Aqueduct Froncysyllte

Gweddillion bwrdd troi © Hawlfraint y Goron: CBHC

3. Odynau Calch y Fron

Mae calchfaen wedi bod yn cael ei losgi i greu calch cyflym ers dyddiau’r Rhufeiniaid. Cymysgwyd y rhan fwyaf o’r calch cyflym hwn gyda dŵr er mwyn gwneud calch dyfrllyd, oedd yn sail i greu gwyngalch a morter calch. Tyfodd y galw am galch i felysu’r tir yn ystod y chwyldro diwydiannol wrth i ffermwyr wynebu rhagor o bwysau i fwydo mwy a mwy o weithwyr ffatri. Roedd galw mawr am galchfaen hefyd er mwyn cynhyrchu haearn, tai i’r gweithwyr ac i adeiladu ffyrdd.

Odynau Calch Dwyrain Froncysyllte

Er bod cloddio wedi digwydd ar raddfa fechan yn ardal Froncysyllte ers y 1500oedd, oherwydd bod y gamlas wedi cyrraedd Froncysyllte, cafwyd ffordd rad, effeithiol o gludo’r calchfaen a’r cynnyrch calch i farchnadoedd newydd.

Adeiladwyd yr odynau calch llai yng ngorllewin Froncysyllte ar ddechrau’r 1800oedd. Y gweithiwr haearn mawr, William Hazeldine oedd yn berchen arnynt ac fe’u cysylltwyd gan ffordd dramiau serth gyda Chwarel Pisga. Mae dau odyn isel, gyda dau fwa’n wynebu’r gamlas, ac mae’n debyg iddynt gael eu hadeiladu fel un uned. Roedd glanfa yma hefyd i lwytho’r calch ar y cychod. Fe’u gelwid yn odynau calch Biddulph ym 1822 pan ddaeth Thomas Telford i wella’r ffordd o Lundain i Gaergybi oedd yn mynd trwy’r pentre.

Ar fap y degwm 1843, dangosir fod yr odynau’n gweithio, ond roedden nhw’n segur erbyn 1899.

Y wal garreg uchel ac amlwg gyda chwe bwa’n codi uwchben y gamlas, yw odynau calch dwyrain Froncysyllte a adeiladwyd ar ddiwedd y 1800oedd. Daeth y calchfaen ar gyfer yr odynau hyn o Chwarel Pen-y-graig uwchben y pentref ar hyd cyfres o dramffyrdd gyda cheffylau/mulod yn tynnu.

Mae adfeilion yr odynau calch a welir heddiw yn gyferbyniad llwyr i’r hyn y byddech wedi ei weld gan mlynedd yn ôl.

Doedd bywyd ddim yn hawdd i losgwr calch, fel Joseph Edwards oedd yn byw gerllaw. Mae’n debyg y byddai wedi gweithio shifft 12 awr mewn amodau poeth, blinedig a pheryglus. Llosgwyd y calchfaen mewn odynau ar 1000°C a doi nwyon gwenwynig ohonynt felly roedd y llosgwyr yn aml yn mynd yn anymwybodol ac yn llewygu. Roedd yn rhaid plymio’r powdwr calch yma mewn dŵr er mwyn ei niwtraleiddio, a gwnai hyn iddo dasgu’n wyllt gan losgi gweithwyr yn ddrwg.

Un dywediad yn ymwneud â llosgwyr calch oedd ‘Rydw i’n sych fel clocsiau llosgwr calch’, gan gyfeirio at y clocsiau fyddai’n hollti oherwydd y gwres llethol ym mhwll yr odyn.

Odynau calch gorllewin Froncysyllte

© Trwy garedigrwydd Neil Hayward

© Trwy garedigrwydd Neil Hayward

Blacksmith shoeing a horse at the lime works © Trwy garedigrwydd Neil Hayward

4. Incleiniau a Chwareli

Datblygodd system gymhleth o dramffyrdd ac incleiniau i ddod â’r calchfaen o chwareli Pisga a Phen-y-graig i’r odynau calch. Gellir olrhain eu datblygiad drwy amrywiol rifynnau mapiau OS o’r chwarel a’r pentref.

Roedd y ffordd at Chwarel Pisga yn dilyn llethr serth ble mae’r tai ar hyd Woodlands Grove erbyn hyn. Ar ben uchaf yr inclein serth roedd y dramffordd yn troi tuag at y chwarel ar hyd ffordd a elwir yn Greenfields ac yna i’r chwarel. Daeth y gwaith i ben yn Chwarel Pisga yn y 1890au ac mae bellach yn warchodfa Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru gyda golygfeydd anhygoel dros ddyffryn Llangollen.

Tramway

The Tramway at Froncysyllte © Trwy garedigrwydd Neil Hayward

Cytunwyd y byddai’r hen dramffordd ar Woodland Grove yn cael ei throi yn ffordd arferol pan gaewyd Chwarel Pisga. Bydd pobl hŷn yn dal i gyfeirio at Woodland Grove fel ‘Y Cledrau’. Rhoddodd y datblygwr ganiatâd hefyd i nôl cerrig o’r hen chwarel i adeiladu’r ffordd. Mae’r tai cynharaf a welwch yn Bourne Terrace, sef casgliad o dai briciau coch a godwyd ar ôl 1912 pan oedd y tramffyrdd wedi eu gorchuddio.

Mae’r llwybr i fyny at Chwarel Pen-y-graig hefyd wedi ei droi yn ffordd mewn mannau. Ond gellir gweld inclein serth o hyd y tu hwnt i’r pentref o dan Ffordd y Coetir yn y lle y byddech yn troi am y chwarel. Roedd y chwarel yn cael ei gweithio hyd at 1954 ond mae wedi tyfu’n wyllt bellach, heb lawer i’w weld o lwybr cyhoeddus sy’n mynd heibio.

Woodlands Grove © Hawlfraint y Goron: CBHC

© Jo Danson

5. Pont Godi’r Fron

Roedd y bont godi eiconig hon yn ffordd fwy cyfleus o ganiatáu i geffylau a throliau groesi’r gamlas gan ei bod yn cymryd llai o le na phont grom arferol.

Roedd y bont bren wreiddiol yn cael ei gweithredu gyda llaw, gan dynnu cadwyn i godi’r dec. Mae’r bont bresennol wedi ei chodi ar yr un cynllun â’r bont wreiddiol ond ei bod wedi ei gwneud â dur ac mae’n codi gyda phŵer hydrolig. Mae’r ffrâm uchel yn dal trawst sy’n codi’r dec fel ei fod yn symud yn llyfn o safle llorweddol i fod yn fertigol, fel y gall cychod cul fynd trwodd.

Adeiladwyd y bont droed ganol y 1900oedd.

Ar draws y caeau mae golygfa hardd o Ddyfrbont Pontcysyllte yn croesi Dyffryn Dyfrdwy a gallwch werthfawrogi yma pam y caiff ei galw’n ‘afon yn yr awyr’.

© Trwy garedigrwydd Neil Hayward

© Jo Danson

6. Basn y Fron

Roedd Basn y Fron yn dynodi pen draw’r gamlas nes y cwblhawyd Dyfrbont Pontcysyllte ym 1805. Gallai cychod droi yn yr ardal hon drwy roi blaen y cwch yn y gornel a byddai cefn y cwch yn cael ei dynnu o gwmpas gyda rhaff. Ar ôl cwblhau’r ddyfrbont roedd y cychod yn aros yma i gael croesi.

Froncysyllte Basin

Roedd yr ardal agored wrth ymyl y basn yn lanfa gyhoeddus ar gyfer masnachu cyffredinol, a hynny’n gyfleus i’r brif ffordd i Gaergybi.

Gallwch weld fod plant wedi mwynhau sglefrio ar y dŵr yma yn ystod gaeaf caled 1906. Mae’n rhaid fod y rhew yn drwchus iddyn nhw fentro gwneud hynny!

Codwyd Canal House mewn briciau coch trawiadol ar ddiwedd y 1800oedd gan Gwmni Camlas a Rheilffordd Shropshire Union ar ddiwedd y 1800 ar gyfer fforddoliwr a’i deulu. Roedd fforddolwyr yn gyfrifol am hyd penodol o lwybr y gamlas, ei drwsio a chynnal a chadw ochrau’r gamlas, gan dorri llystyfiant a gwasgu clai i rannau o ymyl y gamlas oedd yn wan neu’n gollwng.

Roedd y Cwmni Camlas yn gofalu am les eu gweithwyr hefyd. Adeiladwyd yr adeilad carreg fel lle i weithwyr cynnal a chadw gael bwyta a chymdeithasu, ac roedd y sefydliad yn bodoli i roi addysg i blant gweithwyr y gamlas.

Ar ochr arall y gamlas gallwch weld gweddillion tramffordd a rhan o wagan, sydd bellach yn gerflun gan Anthony Lysycia.

© Heather Williams

Camlas wedi rhewi yn Froncysyllte, 1906: Trwy garedigrwydd Julie Williams

Ystafell Fwyta a Sefydliad

Cerflun Diwydiant Calch gan Anthony Lysicea © Jo Danson

7. Neuadd Argoed

Roedd Neuadd Argoed yn gartref urddasol ar un cyfnod i Robert Ferdinand Graesser, a fu’n rhan bwysig o ddatblygiad diwydiannol yr ardal hon pan sefydlodd waith cemegol yng Nghefn Mawr i echdynnu olew paraffin a chwyr o siâl lleol.

© Heather Williams

Roedd Graesser yn dod o’r Almaen ac ni chai fod yn berchen ar eiddo nes iddo ddod yn ddinesydd Prydeinig yn y 1870au. Fe brynodd Neuadd Argoed a’r tir o’i hamgylch ym 1880 am bris o £3,750. Erbyn 1880 roedd ei waith yn cynhyrchu col-tar ac asid carbolic neu ffenol, a daeth yn un o brif gynhyrchwyr ffenol y byd.

Daeth Graesser i’r adwy ac achub Wrexham Lager, a sefydlwyd gan ddau entrepreneur Almaenig, pan oedd y bragdy’n mynd i’r wal ar ddechrau’r 1890au, ddim ond ychydig flynyddoedd ar ôl ei sefydlu. Fe newidiodd y busnes yn llwyr a’i droi yn un llewyrchus iawn drwy allforio’r lager i bob cwr o’r byd, ac i Awstralia hyd yn oed.

Cafodd Neuadd Argoed ei ailwampio’n helaeth ar ddiwedd y 1800oedd er mwyn creu cartref cyfforddus i deulu mawr Graesser a’i weision a’i forynion gydag 11 yn byw yno ym 1891. Er gwaetha’i fywyd busnes prysur, gwnâi amser i ymuno â Richard Roberts i bysgota eogiaid mewn cwrwgl ar yr afon Dyfrdwy.

Ar 15fed Gorffennaf 1911, cerddodd Robert Graesser o Neuadd Argoed i’w waith cemegol ac yno fe ddisgynnodd yn farw wrth ei ddesg. Roedd gan bobl gymaint o barch at y gŵr 66 oed nes y daeth torf i sefyll ar hyd y ffordd wrth i’w angladd deithio ar hyd y briffordd at Eglwys Dewi Sant.

Daeth Norman Graesser yn ben ar gartref y teulu a’r busnes, gan ddatblygu partneriaeth gyda chwmni cemegol o’r UDA, Monsanto ym 1919. Naw mlynedd yn ddiweddarach roedd Monsanto yn berchen ar y cwmni cyfan. Ar ôl i’r teulu werthu’r Neuadd ganol y 1900oedd, daeth yn gartref henoed ac wedyn fe’i trowyd yn rhandai.

Neuadd Argoed, cyfrifiad 1881 © The National Archive Crown Copyright 1881

Funeral of Robert Graesser

Angladd Robert Gresser, 1911: Trwy garedigrwydd Julie Williams

8. Fron House

Mae tŷ deniadol Fron House wedi bod yn gartref i nifer o bobl ddylanwadol. Daeth Walter Eddy peiriannydd cloddio profiadol o Gernyw yma i fyw ar ddechrau’r 1830au, wrth i’r diwydiant glo dyfu. Ar y cychwyn, bu’n lletya yn Fferm Cysyllte gyda John Edwards, Bedyddiwr Cymreig enwog, ffermwr a threfnydd angladdau’r pentref.

© Heather Williams

Erbyn 1851 roedd Walter Eddy wedi prynu’r tŷ hwn a dechrau ei drosi yn le braf i ŵr bonheddig fyw ac fe’i galwodd yn Fron House. Daeth Eddy yn beiriannydd cloddio yn chwareli calchfaen Froncysyllte ac yn y diwedd, daeth yn rheolwr gyfarwyddwr ar y cwmni.

Gwnaeth Eddy gyfraniad sylweddol i fywyd y pentref. Roedd yn eglwyswr ffyddlon a chredir iddo chwarae rôl allweddol yn darparu tir ar gyfer Eglwys Dewi Sant a agorodd ym 1871 fel ysgol a chapel ar y cyd. Gosodwyd y ffenestr liw hardd ar ôl ei farwolaeth ym 1896, a thalwyd amdani drwy gyfraniadau’r cyhoedd, sy’n brawf o hoffter pobl y pentref ohono.

Arhosodd Fron House yn y teulu ac ym 1932, daeth wyres Eddy, sef Dorothy Hartley yma i fyw. Roedd Dorothy yn athrawes gelf ac roedd hi’n hael iawn yn rhoi gwersi celf am ddim yn ei chartref i’r pentrefwyr. Ond roedd hi’n fwyaf adnabyddus fel awdures, a’r llyfr mwyaf poblogaidd a ysgrifennwyd ac a ddarluniwyd ganddi oedd ‘Food in England’. Roedd yn cynnwys nifer o hen rysetiau traddodiadol ynghyd â hanesion a chynghorion cartref, a rhai ohonynt yn dyddio i’r oesoedd canol. Ar ôl ei gyhoeddi ym 1954, yn fuan iawn daeth yn ‘feibl’ i gogyddion a chafodd ddylanwad mawr ar gogyddion cyfoes ac awduron bwyd. Mae’n briodol iawn fod ei charreg fedd ym mynwent Dewi Sant yn llyfr agored gyda’i henw arni, a’i gwaith sef awdur, arlunydd a hanesydd.

Walter Eddy, cyfrifiad 1851 © The National Archive Crown Copyright 1851

Trwy garedigrwydd Julie Williams

Trwy garedigrwydd Julie Williams

9. Tafarn y Ddyfrbont

Roedd Tafarn y Ddyfrbont yn hen dafarn coetsiws a godwyd cyn y ddyfrbont. Ar un adeg, fe’i galwyd yn ôl yr enw mawreddog Gwesty’r Ddyfrbont. Roedd iard gaeedig gydag arwydd yn hysbysebu stablau da ar gael i geffylau cwsmeriaid. Cynhaliwyd sawl cwest ac arwerthiant yma yn y 1800oedd a hynny’n rhoi incwm ychwanegol da i landlordiaid mae’n siŵr.

© Jo Danson

Yn anffodus cai rhai landlordiaid eu temtio i yfed gormod. Cyfaddefodd Edward Jones oedd yn landlord yma ym 1874, ei fod yn feddw ac yn methu gwneud ei waith. Roedd gan Jonah Griffiths, landlord arall, hefyd broblem yfed a olygodd fod rhaid trosglwyddo trwydded y dafarn i’w wraig, Ann. Ym 1906, ac yntau dan ddylanwad effeithiau alcoholiaeth, fe dorrodd ei wddf ei hun gyda rasel. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, ar ôl ymosod ar ei wraig, cytunodd i dderbyn triniaeth mewn cartref i rai oedd alcoholig.

Yr adeg honno, roedd Deddf Cau ar y Sul yn gwahardd yfed alcohol ar ddydd Sul yng Nghymru, ac eithrio i bobl ar deithiau hir. Cafodd dau ddyn, Arthur Thomas a William Thomas, ddirwy am yfed yn y dafarn ar ddydd Sul 31 Gorffennaf 1910 pan ddarganfuwyd mai dim ond milltir oedden nhw wedi teithio i gael diod!

O Dafarn y Ddyfrbont fe welwch Fasn Froncysyllte yn glir a’r gamlas yn ymlwybro tuag at Ddyfrbont Pontcysyllte, gyda Chefn Mawr gyferbyn.

© Dennis Williams

10. Capeli Froncysyllte

Wrth i’r pentref dyfu yn y 1800oedd, fe dyfodd nifer y capeli hefyd. Roedd Froncysyllte yn batrwm o’r hyn ddigwyddai yn genedlaethol ar y pryd gyda phentrefwyr yn troi at Anghydffurfiaeth a’r angen i rai capeli gynnig gwasanaethau yn Gymraeg.

Capel Carmel © Trwy garedigrwydd Neil Hayward

Capel Carmel oedd y cyntaf, wedi ei adeiladu gan y Bedyddwyr ar Deras Carmel ym 1844. Codwyd capel mawr yn ei le ar Ffordd y Coetir wrth i’r gynulleidfa dyfu. Ond fe gaeodd ym 1988 a chafodd ei ddymchwel yn ddiweddarach.

Adeiladwyd Capel Mynydd Seion gan y Methodistiaid cynnar ym 1858 a chodwyd capel newydd briciau coch yn ei le ar ffordd yr A5. Mae hwn wedi ei newid ers hynny i fod yn Dŷ Arwethiant sy’n nodwedd amlwg ar y ffordd fawr. Cafodd adeilad carreg y capel ei newid i’w ddefnyddio fel ysgoldy ac mae bellach yn ffreutur i Ysgol Froncysyllte. Ystyrir ei fod yn enghraifft gynnar dda o gapel Anghydffurfiaeth yn yr ardal, gyda’i bensaernïaeth a’i fynedfa dalcen.

Adeiladwyd Capel Methodist Wesleaidd ym 1860 a’i ailadeiladu ym 1871 ar Allt y Methodist. Erbyn 2003 roedd wedi ei droi yn dŷ.

Codwyd Capel Seion ym 1851 gan yr Annibynwyr, a elwid wedyn yn Gynulleidfawyr, gan adnewyddu’r capel ym 1881 wrth i’r gynulleidfa dyfu. Yma y cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus ym 1947 i drafod sefydlu côr meibion.

Capel Methodistiaid Newydd © Jo Danson

Capel Seion © Jo Danson

Capel Carmel © Trwy garedigrwydd Neil Hayward

11. Côr Meibion y Fron

Sefydlwyd Côr Meibion neu Gôr Meibion Froncysyllte ar ôl Eisteddfod Ryngwladol gyntaf Llangollen ym 1947.

Fron Male Voice Choir

Cyngerdd 70 mlwyddiant yng Nghapel Sion, Froncysyllte, 2017, lle cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y côr © Côr Meibion Fron

Gwrandewch ar…

…Llanfair o albwm ddiweddaraf y Côr Meibion Fron, Voices of the Valleys Echoes

Tyfodd y côr yn gyflym gyda chwedeg o aelodau yn cynnwys glowyr, chwarelwyr a gweithwyr cemegol. Ymddangosodd y côr am y tro cyntaf mewn Gwasanaeth Sul y Cofio ger y gofeb yn y pentref ym 1947 a rhoddwyd cyngerdd i gynulleidfa fawr yng Nghapel Seion ym mis Rhagfyr. Dechreuodd y cystadlu gyda chorau eraill yn yr Eisteddfod Ryngwladol ym 1948 ac erbyn 1954 roedd y côr yn darlledu ar y radio o Gapel Carmel. O 1965 dechreuodd y côr deithio dramor gydag ymweliad cyntaf â’r Almaen. Ers hynny mae’r côr wedi canu mewn cyngherddau a chystadlaethau dros y byd i gyd.

Cyrhaeddodd yr albwm ‘Voices of the Valley’ a ryddhawyd yn 2006 i Rif 1 y Siartiau Clasurol ac mae eu llwyddiant wedi parhau ers hynny.

Fron Male Voice Choir, 1948

Côr Meibion Fron, 1948 © Côr Meibion Fron

The Fron Male Voice Choir May, 2012

Mae’r Côr yn diddanu’r tyrfaoedd yn Seremoni y Fflam Olympaidd, 30ain Mai, 2012 © Côr Meibion Fron