Cyflwyniad
Pan ddynodwyd Dyfrbont Pontcysyllte a’r Gamlas yn Safle Treftadaeth y Byd yn 2009 dyma’r safle cyntaf yn y DU i ymestyn dros ddwy wlad.
Ddau gan mlynedd yn gynharach roedd diwydianwyr yn awyddus i gysylltu Lerpwl a Bryste drwy greu dyfrffyrdd rhwng yr afon Mersi a’r Ddyfrdwy â’r afon Hafren yn Amwythig. Er mwyn gwasanaethu’r ardaloedd diwydiannol o amgylch Wrecsam a Rhiwabon, roedd angen i’r gamlas groesi dyffrynnoedd dwfn yr afon Ceiriog a’r Ddyfrdwy.
Cliciwch ar unrhyw farciwr Pwynt o Ddiddordeb i weld y disgrifiad
Post Office, Chirk Bank
1. Pont y Galedryd
Roedd cynigion gwreiddiol y cais ar gyfer Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont Pontcysyllte a’r Gamlas yn canolbwyntio ar y ddyfrbont ond daeth yn amlwg yn fuan y gellid gwneud cais mwy cadarn o lawer drwy gynnwys ardal ehangach oedd yn cynnwys datrysiadau peirianyddol newydd eraill.
Mae Pont y Galedryd ychydig dros y ffin yn Swydd Amwythig, ac fe’i dewiswyd fel ffin ar gyfer Safle Treftadaeth y Byd ar ochr Lloegr gan mai yn y fan hon y cychwynnodd yr heriau o ran adeiladu’r gamlas.
Gwrandewch ar…
…yr hwyaid gwylltion a welir yn aml ger y bont
Codwyd Pont y Galedryd ym 1796 yn yr arddull sy’n nodweddiadol ar hyd y gamlas. Dyma un o’r ychydig bontydd yn Safle Treftadaeth y Byd a godwyd gyda briciau yn hytrach na cherrig, gan nad oedd y gamlas ar y pryd wedi cyrraedd at y cyflenwadau o gerrig adeiladu da fyddai i’w gweld ychydig yn nes ymlaen.
Y rhychau ar y ddwy ochr o dan y bont yw’r man ble byddai’r ‘styllod atal’ yn cael eu gosod er mwyn cau rhan o’r gamlas fel y gellid ei draenio ar gyfer gwaith cynnal a chadw neu ddal y dŵr pe bai llawer o ddŵr yn gollwng. Fel arfer, byddai’r rhychau neu’r tyllau yma’n cael eu torri yn y gwaith carreg mewn man cul, fel ochr isaf pont. Lle nad oedd strwythur cyfleus, codwyd dwy wal garreg ar ochr y gamlas at y diben hwn.
Mae pob pont dros y gamlas wedi ei rhifo ac mae plac hirgylch ar Galedryd gyda 19W arno. Mae’r pontydd ar Gamlas Llangollen wedi eu rhifo o 1W yng Nghyffordd Frankton hyd at 49 ar ben draw’r gamlas ger Llangollen.
© Jo Danson
2. The Poachers
Mae’r dafarn ger y dŵr wrth ymyl Pont y Galedryd wedi bod yn darparu lluniaeth i genedlaethau o deithwyr. Fe’i hadeiladwyd rhwng 1752 a 1838, bron yn sicr wrth i’r gamlas ddechrau cael ei defnyddio. Mae map y degwm 1838 yn dangos fod tafarn ar y safle gyda swyddfeydd, iard, gardd a bragdy. Mae hefyd yn darparu stablau i geffylau, gan roi lle i rai o’r ceffylau oedd yn tynnu cychod y gamlas o bosibl.
Ei henw gwreiddiol oedd y New Inn, ond ar ddiwedd y 1900oedd daeth yn Poacher’s Cottage ac fe’i galwyd hefyd yn Poacher’s Pocket cyn newid i The Poachers.
AGwerthodd Arthur Hughes y New Inn mewn arwerthiant ym 1875. Mae manylion y gwerthiant yn honni ei fod yn hen adeilad ac yn dŷ tafarn poblogaidd gyda bragdy, odyn calch, stablau ar gyfer 14 o geffylau a thir pori ardderchog. Disgrifiwyd y dafarn fel lle ‘helaeth a chyfleus’ a’i bod yn cynnwys parlwr, bar, ystafell gyfarfod fawr a chwech ystafell wely. Er mwyn denu mwy o brynwyr, nodai’r hysbyseb hefyd fod yr eiddo wedi ei leoli ar ben ffynhonnell werthfawr o lo, a’i fod yng nghanol ardal lofaol fawr a phoblogaidd oedd yn ffynnu. Dywedwyd fod busnes y bragdy a’r busnes yn gyffredinol yn barod i ymestyn yn helaeth. Dyna lwc na wnaeth rhywun ei phrynu i fanteisio ar y glo sydd oddi tani!
Yn ddiweddarach, fe brynodd James Edwards o Weston Rhyn y New Inn er mwyn ychwanegu at y clwstwr o 8 tafarn oedd ganddo yn yr ardal, gan gynnwys y Bridge Inn ym Manc y Waun. Yn y 1920au prynwyd y dafarn gan Wolverhampton & Dudley Breweries Ltd, sef Marstons yn fwy diweddar.
MCafodd nifer o’r adeiladau allan eu dymchwel dros y 100 mlynedd diwethaf. Ond bu gwaith adnewyddu mawr yn 2013 pan gafodd y dafarn ei hailenwi a’i hymestyn i greu tafarn braf yng nghefn gwlad yn gweini bwyd a diod traddodiadol.
3. Glanfa Golfa Quinta
Roedd y gamlas yn gwasanaethu Glofeydd Quinta – Trehowell yn wreiddiol. Roedd Glofa Quinta, tua milltir o’r gamlas, yn rhan o Stad Quinta oedd yn berchen i Stad Castell y Waun ar ddechrau’r 1800oedd.
Ym 1855, prynwyd Stad Quinta gan Thomas Barnes, AS Bolton yn Swydd Gaerhirfryn. Fe adeiladodd dramffordd gyda cheffyl yn llusgo er mwyn cludo’r glo i’r lanfa ym Manc y Waun tua 1870, ond daeth Rheilffordd Dyffryn Glyn i ddisodli’r llwybr yn fuan. Gweithiwyd y lofa am tua 50 mlynedd nes iddi gau ar ddechrau’r 1900oedd.
Mae gweddillion y lanfa ar deras gwastad uwchben y gamlas ond nid yw’n weladwy heddiw.
Map OS 1884 Banc y Waun © Gyda chaniatâd The National Library of Scotland
4. Pont Banc y Waun
Gelwir Pont Banc y Waun yn Bont y Mynach hefyd, wedi ei henwi mwy na thebyg ar ôl eiddo cyfagos a ddangosir ar fap OS 1884, sef Tyddyn Mynach. Roedd y bont yn arloesol gan mai hon oedd un o’r pontydd cynharaf i ddefnyddio trawstiau o haearn bwrw i gynnal bwa carreg wastad. Roedd hyn yn galluogi traffig i groesi’r gamlas heb y llwybr serth a geid ar bontydd cefngrwm arferol. Roedd y bont yn cludo’r ffordd dyrpeg wreiddiol o Groesoswallt i Wrecsam a Llangollen.
© Jo Danson
Adeiladwyd Canal View Cottages ar ddechrau’r 1800oedd. Roedd rhif 1 yn storfa ac yn warws ond yn ddiweddarach daeth yn siop ac yn swyddfa bost nes iddi gau yn 2000. Heddiw, dim ond y blwch postio y tu allan sy’n awgrym o’i gorffennol. Bu Forge Cottage gynt yn gartref i’r gofaint.
Trosglwyddwyd nwyddau rhwng y ffordd a’r gamlas o lanfeydd cyhoeddus ar ddwy ochr y bont. Bu warws a stablau yno hyd 1933.
Roedd yr adeilad tri llawr ar ochr arall y gamlas yn hen dafarn gyda stablau i geffylau.
© Trwy garedigrwydd Phil Barnett
© Mark Williams
Banc y Waun © Graham Greasley
© Mark Williams
5. Arglawdd Teras Banc y Waun
Lluniwyd arglawdd enfawr teras Banc y Waun drwy dorri i ochr y bryn a rhoi’r pridd ar waelod y llethr, fel bod y gamlas yn rhannol ar dir a dorrwyd ac yn rhannol ar dir a grëwyd. Mae’n ymestyn dros dri chwarter milltir o Fanc y Waun at Ddyfrbont y Waun ble caiff y gamlas ei chludo dros Ddyffryn Ceiriog. Mae man uchaf yr arglawdd ger y ddyfrbont yn 18.3m o uchder ac yn 60m o led ar draws ei waelod.
Mae’n debyg fod peth cloddio bas am lo wedi digwydd yn Nôl y Waun ger yr afon Ceiriog yn y 1600oedd, ond wrth weithio ar arglawdd y gamlas, darganfuwyd haen gyfoethog o lo. Manteisiodd Jebb a Davies, y contractwyr oedd yn adeiladu’r gamlas, ar y darganfyddiad hwn drwy ddatblygu Glofa Banc y Waun tua 1801.
Yn anffodus, ym mis Rhagfyr 1816 ar ôl cyfnod hir o law, daeth dŵr o’r gamlas i lawr yr arglawdd gan achosi difrod mawr i’r lofa. Yn ffodus, oherwydd bod y gweithwyr i gyd ar eu gwyliau ar y pryd, ni chollwyd yr un ohonynt, ond fe foddwyd ceffylau’r lofa i gyd. Er bod y gwaith glo yn debygol o fod wedi gwanhau’r arglawdd, penderfynodd achos llys mai cwmni’r gamlas oedd yn gyfrifol am y llif ac mai nhw ddylai dalu am unrhyw ddifrod.
Daeth y lofa yn eiddo i Stad Plas Power ac fe’i gweithiwyd hyd yr 1880au. Mae cofnodion yn dangos fod taliadau’r degwm a wnaed yn ystod y cyfnod hwn wedi eu talu i gefnogi eglwys y plwyf a’i hoffeiriaid. Yn wreiddiol gwnaed y taliadau hyn mewn nwyddau, fel cnydau, gwlân a llaeth, ac roedden nhw fel arfer yn gyfwerth â degfed neu ddegwm o’r cynnyrch blynyddol yn gnydau neu anifeiliaid, ond yn ddiweddarach cawsant eu talu mewn arian.
© Jo Danson
6. Bythynnod y Ddyfrbont
Codwyd Bythynnod y Ddyfrbont gan Gwmni Camlas a Rheilffyrdd Unedig Swydd Amwythig ym 1874 i weithwyr oedd yn cynnal a chadw’r gamlas a hefyd i ddynion oedd yn gweithio ar Dramffordd Dyffryn Glyn.
Fformyn oedd yn byw yn y ddau dŷ brics coch ar eu pen eu hunain. Roedd yna doiled ym mhob un a thwlc ym mhen draw’r ardd, ac roedd hynny’n gyffredin mewn eiddo gwledig ar yr adeg hon.
Ar gychwyn y 1900oedd, roedd Evan Baines yn byw gyda’i wraig Jane a’u 11 o blant yn ‘Cartref’ Rhif 6, Bythynnod y Ddyfrbont. Doi Evan o deulu o gychwyr a gwerthwyr glo o bentref cyfagos Llanfarthin ac roedd yn gweithio i gwmni’r gamlas. Ymestynnodd y tŷ gan fod ei deulu’n tyfu ac fe’i defnyddiodd fel swyddfeydd hefyd. Arhosodd y tŷ yn eiddo i deulu’r Baines, gyda disgynyddion y genhedlaeth nesaf yn cael eu geni yno, oherwydd yn wreiddiol, dim ond i aelod o’r teulu y cai ei drosglwyddo.
Yn ddiweddarach, gwerthwyd yr eiddo i Neville Hurdsman, un o reolwyr ffatri Cadbury yn y Waun. Gan ei fod yn hanesydd lleol brwd, gwnaeth Neville gryn ymchwil ar yr ardal leol ac ysgrifennodd lyfr am hanes y Waun.
Mae’r ddau bâr o fythynnod sydd rhwng y ddau dŷ ar eu pen eu hunain, hefyd wedi eu gwerthu gan y teuluoedd gwreiddiol. Heddiw mae un ohonynt yn gartref i rai sydd â diddordeb brwd mewn camlesi ac yn glychwyr prysur yn Eglwys y Santes Fair yn y Waun. Enwyd eu cwch yn Sally ar ôl pen blewog rhaff y canwr clychau. Mae cryn dipyn o glychwyr sydd hefyd yn berchen ar gwch camlas ac mae’n eithaf cyffredin i grwpiau o ganwyr clychau ddod at ei gilydd ac ymweld â thyrrau eglwysi ar hyd y camlesi.
Pan gafodd clychau’r Waun eu hail-lunio yng Nghaerloyw ym 1814, mae’n debyg iddyn nhw gael eu cludo dros y môr o Gaer neu Ellesmere Port ac yna ar hyd y gamlas i’r Waun.
Teulu Baines y tu allan i ‘Cartref’ © Trwy garedigrwydd Kathy McFadyen