Cyflwyniad
Datblygodd Llangollen o amgylch y bont dros yr afon Dyfrdwy o’r 1300oedd ymlaen. Roedd digon o ddŵr o’r afon Dyfrdwy i yrru’r melinau ŷd ac yna i roi tanwydd i’r melinau wrth i’r dref dyfu a ffynnu. Roedd mwyafrif y ffermydd yn y bryniau yn ffermydd defaid ac roedd nyddu a gwehyddu yn bwysig yn yr ardal.
Roedd Camlas Llangollen yn hybu masnachu, gan ddod â glo i danio’r odynau calch yn y Dyffryn a chynnig cludiant rhatach, mwy dibynadwy ar gyfer llechi a chalchfaen a gloddiwyd o’r bryniau uwchben. Roedd hefyd yn darparu ffynhonnell ddibynadwy o ddŵr i droi’r melinau.
Adeiladwyd yr A5, Ffordd Caergybi yn yr 1820au er mwyn cyflymu’r daith o Lundain i Ddulyn, ac yna’r rheilffordd, a daethant â mwy o fasnach a thwristiaeth i Langollen a Dyffryn Dyfrdwy.
Cliciwch ar unrhyw farciwr Pwynt o Ddiddordeb i weld y disgrifiad
The Corn Mill
Gwrandewch ar…
…sŵn y beicwyr ar y llwybr tynnu
1. Eglwys Sant Collen
Daw enw Llangollen o’r eglwys a sefydlwyd gan Sant Collen tua 600 O.C. Roed Collen yn hyrwyddo Cristnogaeth a dywedir ei fod wedi dod yma ar ôl llofruddio cawres oedd yn bwyta dynion ac yn gwarchod Bwlch yr Oernant. Credir fod Collen wedi golchi ei ddwylo gwaedlyd a’i gleddyf yn y ffynnon ar ben y Bwlch.
Eglwys Sant Collen © Jo Danson
Mae’r eglwys bresennol yn dyddio o’r 1200au ac roedd eglwys bren yno cyn hynny. Ychwanegwyd tŵr pren ym 1500 a’i newid yn ddiweddarach am dŵr carreg.
Y tu mewn i’r eglwys mae nenfwd derw arbennig wedi ei gerfio sy’n dyddio o 1530 a dyma un o drysorau canoloesol mwyaf Sir Ddinbych. Mae cist hynafol yno a thri twll clo ynddi fel bod rhaid i dri warden yr eglwys fod yno i’w hagor!
Newidiwyd yr eglwys o un corff dwbl i ffurf fwy arferol gyda thair cangell yng nghanol y 1860au.
Y tu mewn i’r eglwys mae plac a roddwyd gan Dr Mary Gordon a ysgrifennodd lyfr am ‘Ladies of Llangollen’ yng nghanol y 1930au. Yn rhyfedd iawn, nid yw’r ffigurau wedi eu llunio ar sail y merched, ond ar Mary Gordon a’i cherflunwraig Violet Labouchere. Yn union y tu allan i’r eglwys mae cofeb drionglog i’r Merched a’u morwyn Mary Carryl.
Paentiad o Sant Collen gan Edward Pugh © Amgueddfa Cymru
Cofeb Merched Llangollen © Jo Danson
2. Pont Llangollen
Mae Pont Llangollen yn un o saith rhyfeddod Cymru fel y disgrifia’r hen bennill Saesneg hwn
Snowdon’s mountains without its people
Overton yew trees, St Winifrede’s well
Llangollen’s bridge and Gresford bells
Pont Llangollen © Jo Danson
Mae cofnod o bont yma cyn gynhared â 1284, ond dywedir mai John Trevor, Esgob Llanelwy a adeiladodd y bont bresennol. Ailadeiladwyd y bont ym 1656 am gost o £250 oherwydd fod angen cryn dipyn o waith arni. Darganfuwyd darnau o slabiau addurnedig o Abaty Glyn y Groes, ac felly mae’n debyg fod yr abaty yn cael ei ddefnyddio fel chwarel yn ystod y newidiadau ym 1656.
Ychwanegwyd bwa arall gyda thŵr castellog ym 1863 er mwyn dod â’r rheilffordd i’r dref. Roedd rhaid codi’r ffordd ac ailgodi’r rhagfuriau er mwyn cyrraedd yr uchder angenrheidiol. Roedd caffi yn y tŵr i weini ar holl ymwelwyr y dref.
Dim ond 8 troedfedd o led oedd y bont felly erbyn 1873 ni allai ymdopi gyda’r cynnydd mewn trafnidiaeth wrth i ddiwydiant ffynnu. Penderfynwyd dyblu ei lled, gan gadw’n glos at y cynllun gwreiddiol, gyda’r holl waith angenrheidiol a wnaed i’r ochr agosaf at yr orsaf newydd.
Dymchwelwyd y tŵr castellog erbyn 1940 er mwyn helpu i wella trefn y ffordd ond parhaodd y problemau trafnidiaeth a lledwyd y bont eto ar ddiwedd y 1960au ar ochr uchaf yr afon i’r bont.
Heddiw, mae’r gwaith carreg siâp V sy’n helpu i wyro’r afon o amgylch colofnau’r bont, ac hefyd yn cynnig man diogel i sefyll ar y bont i wylio’r afon a’r rhai mentrus mewn caiacau yn dod i lawr y dyfroedd gwyllt. Byddai’r olygfa o’r afon wedi bod yn wahanol iawn ar ddiwedd y 1800oedd pan oedd pysgotwyr yn defnyddio coryglau i bysgota am eogiaid.
© Heather Williams
© Hawlfraint y Goron: CBHC
O’r casgliadau o Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru : © Hawlfraint: Thomas Lloyd Collection
Cwrwgl traddodiadol 1890au © Amgueddfa Llangollen
© Hawlfraint y Goron: CBHC
3. Gwesty’r Hand, Stryd y Bont
Roedd Gwesty’r Hand yn un o dafarnau pwysicaf y goets fawr yn Llangollen pan oedd Stryd y Bont yn briffordd drwy’r dref cyn codi’r A5. Daw enw’r gwesty o’r llaw goch neu’r llaw waedlyd oedd yn rhan o arfbais teulu’r Myddelton yng Nghastell y Waun.
Roedd yn boblogaidd gyda theithwyr oedd yn aros dros nos yma ar eu taith yn y goets o Lundain i Ddulyn. Roedd ganddi enw da am lety moethus gydag adeilad cyfagos oedd yn darparu ystafell i’r gweision a’r morwynion oedd yn dod gydag ymwelwyr cyfoethog.
Gwesty’r Hand 1860au © Amgueddfa Llangollen
O 1752, Thomas Edwards oedd yn cadw’r Hand. Daeth yn ffrindiau gyda Lady Eleanor Butler a Miss Sarah Ponsonby, ‘Merched Llangollen’, a hynny’n sicr oherwydd fod nifer o’u hymwelwyr enwog yn aros yn yr Hand. Yn y 1780au bu’n erfyn arnyn nhw i ddefnyddio ei sedd o yn yr eglwys!
Joe Phillips oedd perchennog Gwesty’r Hand ym 1830 pan arhosodd y Dywysoges Victoria yn Llangollen gyda’i mam, ac mae’n debyg fod ei ferch ifanc wedi rhoi dol mewn gwisg Gymreig i’r dywysoges.
Daeth ymwelwyr enwog i westy’r Hand, gan gynnwys Charles Darwin arhosodd yma ym 1831 ar gychwyn taith ddaearegol o Ogledd Cymru, a’r bardd Robert Browning a arhosodd am ddeng wythnos ym 1886 gan ymweld â’i ffrindiau Syr Theodore a Lady Helena Martin yn Llandysilio.
Erbyn y 1920au roedd gan y gwesty 60 o ystafelloedd gwely, lolfa, ystafell biliards, ystafell smygu ac ystafell ysgrifennu yn ogystal â garej dan do i hyd at 30 o geir.
Heddiw mae Gwesty’r Hand yn dal i groesawu gwesteion, ond mae rhai o’r ystafelloedd cyhoeddus wedi newid eu swyddogaeth i weddu i’r cyfnod hwn a gall ymwelwyr ymlacio a gwylio’r afon o erddi’r gwesty.
© Amgueddfa Llangollen
© Amgueddfa Llangollen
© Amgueddfa Llangollen
© Amgueddfa Llangollen
Gwesty’r Hand
4. Gwesty’r Royal, Stryd y Bont
Mae gan Westy’r Royal olygfeydd i gyfeiriad yr afon Dyfrdwy ac mae’n dyddio nôl i ganol y 1750au pan oedd yn cael ei galw’n King’s Head ac roedd yn dafarn bwysig i’r goets fawr. Fe’i hailadeiladwyd a’i hymestyn am y tro cyntaf ym 1815 a gwnaed newidiadau pellach wrth i fwy o ymwelwyr ddod i Langollen.
Y Royal
Arferai’r gwesty gyflogi telynorion i chwarae cerddoriaeth Gymraeg yma. Ym 1829 daeth y cyfansoddwr Almaenig, Felix Mendelssohn i aros yn y gwesty a doedd o ddim wedi ei blesio. Fel hyn y dywedodd ‘Mae telynor yn eistedd yn neuadd pob tafarn o bwys gan chwarae alawon gwerin yn ddi-baid – rwtsh ofnadwy o ddi-chwaeth ac allan o diwn… Mae rhywun yn chwarae yn y neuadd, ac rydw i mor flin nes na allaf ddal ati!’
Doedd W T Simpson ddim o’r un farn! Yn ei lyfr, mae’n dweud fod ‘y cwrw sy’n cael ei fragu yn Llangollen yn wych ac yn haeddu enw da dros y deyrnas’ ac mae’n mynd ymlaen i ddweud fod y llety yn yr Hand a’r King’s Head heb eu hail. Cadwyd y goets a’r ceffylau yn y ddau le ac roedd y delyn i’w chlywed yn eu neuaddau.
Manteisiodd y gwesty ar daith y Dywysoges Victoria drwy’r dref, gan newid ei enw yng nghanol y 1800oedd, er bod rhai adroddiadau’n gwrthddweud ei gilydd ynglŷn â ble newidiwyd y ceffylau!
© Hawlfraint y Goron: CBHC
Y Royal Hotel ar ddechrau’r 1900au © Amgueddfa Llangollen
Y Royal Hotel 1900 © Amgueddfa Llangollen
5. Sgwâr y Castell, Stryd y Castell
Mae gan Stryd y Castell ambell adeilad hardd sy’n dyddio o’r 1860au gan bod y dref yn datblygu’n ganolfan siopa bwysig.
Morris Roberts adeiladodd Neuadd y Dref ym 1867. Yn wreiddiol roedd siopwyr yn mynd i mewn drwy ddau fwa agored i ardal y farchnad. Yn fuan wedyn, rhannwyd ardal y farchnad yn siopau ar wahân ac felly y mae hi heddiw.
Sgwâr y Castell 1920 © Amgueddfa Llangollen
Enw’r ardal gyferbyn â Gwesty’r Royal oedd ‘Sgwâr Ham ac Ŵy’ yn y 1800oedd gan fod trigolion y bythynnod yn arfer coginio prydau bwyd hawdd a chyflym, ham ac ŵy fel arfer, i deithwyr ar ffordd Llundain i Gaergybi, ac i deithwyr y rheilffordd hefyd.
Yn ddiweddarach, cai ei adnabod fel Sgwâr y Castell ac roedd busnesau lu yno fel siop ddillad, siop gwneud hetiau a siop cyflenwadau fferm.
Mae Capel y Bedyddwyr Cymraeg gerllaw wedi ei adeiladu yn yr un cyfnod. Fe’i bwriadwyd i ddal cynulleidfa o 400 ond erbyn 1982 nid oedd angen y capel mwyach. Cafodd yr adeilad ei adfer ac yn 2003 fe’i agorwyd gan yr arlunydd Cymreig enwog Kyffin Williams. Mae’r Capel, fel y’i gelwir, bellach yn gartref i’r Ganolfan Groeso, man arddangos a llyfrgell ar y llawr uchaf.
© Amgueddfa Llangollen
© Amgueddfa Llangollen
Siop John Brown Provisions 1920 © Amgueddfa Llangollen
6. Melin Ŷd a Phromenâd Victoria
Roedd ŷd yn cael ei falu yn y felin o’r 1200oedd pan gafodd ei sefydlu gan fynaich Sistersaidd o Abaty Glyn y Groes a buont yno hyd 1895. Ar ôl yr adeg honno, fe’i defnyddiwyd i gynhyrchu bwyd anifeiliaid nes iddi gau ym 1974.
© Hawlfraint y Goron: CBHC
Symudwyd y rhan fwyaf o’r peiriannau oedd yn cael eu troi gan y dŵr, ond mae’r olwyn ddŵr wedi ei chadw a gellir ei gweld drwy’r llawr gwydr yn y bwyty.
Mae’r daith gerdded hardd hon ar hyd yr afon Dyfrdwy yn cychwyn wrth y Felin Ŷd. Mae’r afon hardd yn dros 70 milltir o hyd ac yn llifo o’i tharddle y tu hwnt i lyn Tegid, drwy Langollen a Chaer, i Fae Lerpwl. Mae’r afon yn bwysig yn genedlaethol ac yn gartref i eog yr Iwerydd, cregyn gleision perl dŵr ffres a dyfrgwn.
Enw gwreiddiol y llwybr oedd Cerrig y Llan a chredir mai dyma’r daith gerdded brafiaf ar lan afon yn y Deyrnas Unedig. Cafodd ei ail-enwi yn Bromenâd Victoria i gofnodi Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines Victoria ym 1897 – a phobl Llangollen yn cofio’n annwyl am ymweliad arall gan Victoria i ardal Llangollen ym 1889. Daeth y daith yn boblogaidd iawn gyda phobl leol ac ymwelwyr hefyd, gyda chriwiau o bobl yn cerdded ar Suliau braf yn yr haf yn eu dillad gorau.
Mae’r promenâd yn arwain at Barc Glan yr Afon. Prynwyd y tir gan weithiwr ffair, James Cook ym 1920 ac agorodd fel parc ym 1921 gyda mwy o welliannau wedi eu gwneud ym 1922.
William Jones, perchennog y Felin Ŷd, 1887 © Amgueddfa Llangollen
Y Felin Ŷd 1945 © Amgueddfa Llangollen
© Amgueddfa Llangollen
Promenâd Victoria 1920 © Amgueddfa Llangollen
© Jo Danson
7. Plas Newydd
Roedd Plas Newydd yn gartref i ‘Ferched Llangollen’ ar ddiwedd y 1700oedd. Roedd Lady Eleanor Butler a Sarah Ponsonby wedi dianc o Iwerddon ac ymgartrefu yma, gan ddisgrifio Llangollen fel ‘y wlad harddaf yn y byd’.
© Cyngor Sir Ddinbych
Merched Llangollen – Cefnogwyr y Darluniadwy
Fe aethon nhw i fyw i fwthyn a’i ailenwi’n Blas Newydd. Buon nhw’n treulio eu hamser yn ysgrifennu, darllen, tynnu lluniau a phwytho, yn ogystal â thrawsffurfio’r tŷ a’r gerddi. Fe ychwanegwyd portsh ato ym 1814 a chynhaliwyd parti ‘cynhesu’r portsh’ i ffrindiau dethol!
Roedd gwartheg yn pori’r ddôl o flaen y tŷ. Yn yr ardd isaf yn y coed ger yr afon Cyflymen, ychwanegwyd pontydd gwledig, meinciau ac ogof, a dywedwyd fod y rhain wedi dod o Lyn y Groes, ynghyd â’r ffynnon.
Roedd Gogledd Cymru yn dod yn boblogaidd gydag ymwelwyd ar y pryd a daeth y Merched, yn ogystal â’u tŷ a’u gerddi yn dipyn o atyniad. Roedd gan y Merched steil arbennig yn eu cotiau hir gyda chadachau gwyn addurnedig am eu gyddfau a hetiau uchel. Daeth nifer o enwogion am dro i’w gweld, gan gynnwys Dug Wellington, Yr Arglwydd Byron, Syr Walter Scott a William Wordsworth. Ar ôl ei ymweliad, anfonodd Wordsworth gerdd at y merched a gyfansoddwyd ganddo yn y gerddi, ond nid oedd y Merched yn hapus gyda’r cyfeiriad at eu tŷ fel ‘bwthyn to isel’ a chredent y gallent ysgrifennu gwell barddoniaeth eu hunain! Roedd Anne Lister sy’n enwog am Gentleman Jack hefyd yn ymwelydd.
Ar ôl marwolaeth Lady Eleanor Butler ym 1829 a Miss Sarah Ponsonby ddwy flynedd wedyn, gwerthwyd y tŷ a’i gynnwys mewn arwerthiant a barhaodd am saith niwrnod.
Gall ymwelwyr fwynhau’r tŷ a’r gerddi hardd heddiw.
© Cyngor Sir Ddinbych
Plas Newydd 1813 Thomas Woolnoth © Gyda chaniatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Plas Newydd 1840 W Walton © Gyda chaniatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Plas Newydd 1875 John Thomas © Gyda chaniatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru
8. Amgueddfa Llangollen
Mae Amgueddfa Llangollen yn llawn gwrthrychau diddorol sy’n adrodd hanes Llangollen a’r ardal gyfagos. Mae ynddi gasgliad rhyfeddol o dros 1500 o wrthrychau a dros 7000 o ffotograffau a dogfennau, a’r rhan fwyaf wedi eu cyfrannu gan y gymuned leol. Trefnir ystod eang o sgyrsiau, digwyddiadau ac arddangosfeydd yno yn ystod y flwyddyn.
© Jo Danson
Mae’r copi trawiadol o Golofn Eliseg yn ganolbwynt i’r amgueddfa. Mae’r golofn sy’n dangos ôl traul y tywydd, i’w weld yn agos at Langollen, ac mae’n dyddio i 800AD ac yn wreiddiol roedd enwau rheolwyr Powys arno. Y golofn yw’r cyfan sy’n weddill o’r groes wreiddiol sy’n rhoi ei henw i Glyn y Groes, yr abaty Sistersaidd cyfagos. Gallwch ddarganfod mwy dwy wrando ar y mynach animatronaidd dwyieithog yn sôn am fywyd yn yr oesoedd canol.
Mae gan yr Amgueddfa ddolen gadwyn o’r Bont Gadwyni a adeiladwyd ym 1817.
Ewch i wefan yr amgueddfa am fwy o wybodaeth.
© Amgueddfa Llangollen
© Amgueddfa Llangollen
9. Gorsaf a Rheilffordd Llangollen
Cafodd rheilffordd Dyffryn Llangollen ei chymeradwyo a’i chwblhau gan y peiriannydd rheilffyrdd, Syr Henry Robertson ac fe’i hagorwyd i deithwyr ym 1862. Dechreuodd y gwaith ar yr estyniad i Gorwen y flwyddyn ganlynol gan agor ym 1865.
© Jo Danson
Adeiladwyd estyniad i Abermaw gan Reilffordd y Cambrian, a daeth yn rhan o Reilffordd y Great Western ym 1923.
Mae’r orsaf yn dal i ddefnyddio lliwiau nodweddiadol y cwmni sef lliw siocled a hufen. Gwnaed mwy o waith addasu ac ymestyn yr orsaf ym 1898 pan gafodd y trac ei ddyblu mewn lled a darparwyd cyfleusterau newydd gan gynnwys platfform hirach, mannau aros cysgodol, a blwch signalau a phont droed newydd.
Caewyd y llinell oherwydd difrod gan lifogydd rhwng Llangollen a’r Bala ym 1964. Y flwyddyn ganlynol fe gaeodd yn barhaol yn dilyn Adroddiad Beeching ynglŷn â sut i wneud rheilffyrdd yn hyfyw a daeth y trên olaf gan y Rheilffyrdd Prydeinig i’r orsaf yn llawn stêm ym 1968.
Diolch byth fod rhai o gefnogwyr y rheilffordd wedi ennyn diddordeb ac erbyn mis Medi 1975, gosodwyd 60 troedfedd o drac mewn diwrnod agored a dyma gychwyn Rheilffordd Llangollen. Wrth i nifer y gwirfoddolwyr dyfu, felly hefyd y llinell, a chafodd ei hymestyn i Garrog ym 1996 ac unwaith eto i Ddwyrain Corwen ar ymyl y dref yn 2015, gan greu cyfanswm o 10 milltir.
Mae Tomos y Tanc, y Flying Scotsman a’r Mallard yn ymddangos yno’n rheolaidd, ac mae miloedd o deithwyr yn mwynhau teithio ar y rheilffordd treftadaeth a miloedd eraill yn hoff o wylio ar hyd y llinell.
© Jo Danson
© Jo Danson
Pont a Gorsaf Drenau John Thomas 1875 © Gyda chaniatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Y Flying Scotsman 1994 © Neil Kennedy
Tomos y Tanc 2016 © Hywel Williams
10. Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen
Cychwynnodd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen fel menter heddwch i ddod â gwledydd Ewrop at ei gilydd a chreu heddwch ar ôl y rhyfel, yn nyffryn Dyfrdwy hardd. Cynhaliwyd yr eisteddfod gyntaf ym mis Gorffennaf 1947, a daeth 40 o grwpiau o dramor gan gynrychioli 14 o wledydd.
Y criw cyntaf o’r Almaen i ymweld â’r Eisteddfod oedd Côr Cymysg Luebeck ym mis Gorffennaf 1949. Yr arweinydd oedd Hywel Roberts ac roedd wedi colli ei frawd yn y rhyfel. Roedd y gynulleidfa wedi gwirioni o’i glywed yn cyfarch y côr fel ‘ein cyfeillion o Orllewin yr Almaen’. Yn fuan iawn, roedd gan yr Eisteddfod enw da fel ‘Lle mae Cymru a’r Byd yn dod ynghyd’.
© Heather Williams
Daeth y Frenhines Elizabeth II a’r Tywysog Philip i’r Eisteddfod ym mis Gorffennaf 1953 yn fuan ar ôl y Coroni. Daeth y bardd enwog o Gymru, Dylan Thomas yno hefyd a chyhoeddodd ei argraffiadau am y dref y flwyddyn ganlynol yn ‘Quite early one morning’. Mae’n darlunio tref hardd gyda ‘strydoedd llawn alawon’ ac ‘Mae’r canu a’r dawnsio yn trawsffurfio’r dyffryn hwn trwy’r dydd, mewn cwpan werdd, lawn o wledydd yng Nghymru fach, nes daw machlud yr haul’.
Symudodd yr Eisteddfod i’w lleoliad presennol ym 1958 a chodwyd pabell enfawr ar gyfer y digwyddiad blynyddol. Wrth i’r cystadlu dyfu, roedd angen gwell cyfleusterau a daeth y Frenhines yn ei hôl i’r Eisteddfod ym 1992 i agor pafiliwn newydd.
Yn ystod yr Eisteddfod, byddai cantorion, dawnswyr a cherddorion o bob cwr o’r byd yn cymryd rhan mewn dros 20 o gystadlaethau o ansawdd uchel, gyda chyngherddau bob nos a chystadleuwyr yn rhannu llwyfan gydag artistiaid proffesiynol. Bydd dros 5000 o bobl o tua 50 o wledydd yn perfformio i gynulleidfaoedd o dros 50,000 yn ystod chwe niwrnod y digwyddiad. Mae gorymdaith hefyd trwy’r dref a’r cystadleuwyr yn eu gwisgoedd lliwgar.
Mae perfformwyr enwog wedi bod yma, gan gynnwys Luciano Pavarotti a daeth i gystadlu yn gyntaf ym 1955 gyda chôr o’i dref enedigol, Modena; y ffliwtydd James Galway; y ffidler Nigel Kennedy; y bariton Bryn Terfel a’r meso soprano Katherine Jenkins.
Gallwch ddarganfod mwy am Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Llangollen yma
Y Frenhines Elizabeth 1953 © Amgueddfa Llangollen
© Heather Williams
© Heather Williams
© Heather Williams
© Heather Williams
© Heather Williams