Cyflwyniad
Roedd hwn yn fan poblogaidd cyn adeiladu’r gored a chytunai’r ymwelwyr cynnar mai dyma’r lle harddaf yng Ngogledd Cymru. Disgrifiodd yr arlunydd tirluniau Edward Pugh y lle fel man ‘gwych a hardd, hyd yn oed wrth fynd heibio’ yn ei lyfr yn 1816. Roedd Edward wedi paentio ‘A fall on the Dee’ ym 1794, dros 10 mlynedd cyn adeiladu Rhaeadr y Bedol er mwyn dod â chyflenwad cyson o ddŵr o’r afon Dyfrdwy.
Cliciwch ar unrhyw farciwr Pwynt o Ddiddordeb i weld y disgrifiad
Rhaeadr y Bedol
1. Rhaeadr y Bedol
Mae enw Rhaeadr y Bedol yn gamarweiniol, gan nad yw ar siâp pedol ac mai cored ydyw mewn gwirionedd sydd ychydig dros 1 metr o uchder. Mewn gwirionedd, mae ar siâp J ac mae hyn yn helpu i ledaenu pwysau’r dŵr yn wastad ar draws ei 140m o hyd. Fe’i hadeiladwyd allan o garreg gan wneud defnydd dyfeisgar o ymyl haearn bwrw yn ddiweddarach ym 1822 ar ôl i ran o’r gored ddymchwel yn ystod llifogydd gaeaf 1820/21.
Rhaeadr y Bedol
Gwrandewch ar…
…y dŵr yn byrlymu dros y gored
Merched Llangollen – Picnic Barddoniaeth yn Rhaeadr y Bedol
Heddiw, mae dros 11 miliwn galwyn o ddŵr yn cael ei dynnu o’r afon er mwyn cyflenwi dŵr i’r gamlas, a helpu i roi cyflenwad o ddŵr yfed i Gronfa Hurleston yn Swydd Gaer.
Dyma un o’r rhesymau pam y cadwyd y gamlas hon ar agor ond aeth eraill â’u pen iddynt, pan ddaeth teithio masnachol i ben ar hyd camlesi ganol y 1900oedd.
Mae pont droed yn croesi’r giât sy’n derbyn y dŵr o’r afon i sianel. Yn wreiddiol byddai ‘styllod coed wedi eu gosod i godi neu ostwng lefel y dŵr a dynnwyd o’r afon. Adeiladwyd y tŷ mesur ym 1947 i reoli cyflenwad y dŵr.
Mae stori sy’n dangos yr angen i fod yn ofalus yn yr ardal hon. Yma 1873, roedd Elizabeth Thomas a’i gŵr yn dychwelyd o Langollen i’w cartref yn Llandysilio-yn-Iâl. Fe arhoson nhw yn y Nhafarn y Bont Gadwyni gerllaw ac yna cerdded ar hyd y bont droed dros y fynedfa at fwydwr y gamlas yn Rhaeadr y Bedol, lle nad oedd canllaw ar y pryd. Credai hi ei bod yn camu ar y bont ond fe syrthiodd i’r dŵr – a doedd ei gŵr ddim mewn cyflwr i’w hachub hi!
Cyn gynhared ag 1810, o ganlyniad i gwynion gan ‘wŷr bonheddig oedd yn aros ger glannau’r afon Dyfrdwy’, roedd giatiau wedi eu gosod i geisio atal eogiaid rhag mynd i’r gamlas yn Rhaeadr y Bedol. Yn dilyn Deddf Pysgodfeydd Eog 1861, newidiwyd y rhain am rain fyddai’n cydymffurfio â’r Ddeddf. Ym 1874 tynnwyd rhai o fariau’r giatiau oherwydd fod chwyn yn casglu ac yn atal y dŵr rhag mynd i mewn i’r gamlas. Mynnodd Bwrdd Pysgodfeydd Dyfrdwy eu bod yn cael eu hadfer ar unwaith, ond wnaeth cwmni’r gamlas ddim ymateb nes y cafodd ei erlyn.
© Heather Williams
Tŷ Mesurydd © Heather Williams
Dechrau’r gamlas © Heather Williams
2. Eglwys Sant Tysilio
Mae Eglwys Sant Tysilio yn uchel uwchben Rhaeadr y Bedol. Mae’n bosibl fod yr eglwys wreiddiol yn dyddio i 1180 ond codwyd yr adeilad presennol yn y 1400oedd. Dyma un o sawl eglwys yng Nghymru a enwyd ar ôl Tysilio, sant o’r 7fed ganrif oedd yn hanu o Bowys.
© Heather Williams
Mae’r fynwent dawel yn llawn cerrig beddi hynod, a rhesi o fylbiau a blodau gwyllt o’u cwmpas. Ym mis Chwefror bydd carped o lili wen fach ar hyd y fynwent a daw’r cennin pedr a’r briallu ar eu holau.
Mae carreg fedd Exuperius Pickering, gŵr busnes lleol a mab y dyn gododd y Bont Gadwyni wreiddiol, i’w gweld o dan yr hen goed ywen ger porth y fynwent. Ar y garreg, mae’r geiriau canlynol wedi eu naddu ‘In remeberance of Exuperious Pickering of Dee Cottage, Ruabon, who died March 27th 1835’. Yn amlwg, roedd y naddwr cerrig beddi wedi cael trafferth i sillafu enw anghyffredin y gŵr busnes yn gywir! Roedd Pickering hefyd wedi ysgrifennu geiriau ychwanegol ar gyfer y garreg fedd, yn dweud ei fod yn ddyn mor dda!
Claddwyd yr Almaenwr Charles Beyer yma ym 1876 ar ôl iddo dreulio ei flynyddoedd olaf yn Llantysilio Hall gerllaw. Ym 1847 roedd yn aelod cychwynnol o Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol. Ond mae fwyaf adnabyddus am gyd-sefydlu ffatri trên stêm gyda Richard Peacock ym Manceinion ym 1853. Daeth Beyer-Peacock yn un o’r cwmnïau adeiladu trenau mwyaf adnabyddus, ac roedden nhw’n allforio peiriannau oedd yn cael eu defnyddio’n helaeth yn Ne Affrica, Dwyrain Affrica ac Awstralia.
Y tu mewn i’r eglwys, mae to derw hardd a darllenfa eryr derw prin sy’n dyddio yn ôl i’r canol oesoedd. Mae dau lun mewn ffenestr liw yn dangos tystiolaeth o osod gwydr lliw o’r cyfnod hwn. Un o’r ffigurau yw Sant James o Compostella, sef nawddsant y pererinion. Mae ffenestr hardd o’r cyfnod Cyn-raffaeliaid, sy’n gofeb i’r awdur Syr Theodore Martin oedd yn y byw yn agos ym Mryntysilio. Dangosir ei wraig, Lady Helena Martin yn dal llyfr yn osgeiddig ar gerflun o farmor gwyn, gan ei bod wedi modelu ar ei gyfer flynyddoedd cyn iddi farw.
© Heather Williams
3. Bryntysilio
Mae tŷ hardd Bryntysilio ar ymyl y bryn gyda golygfeydd gwych o Raeadr y Bedol. Yn wreiddiol, bwthyn bychan o’r enw Braich y Gwynt oedd yma. Prynodd Syr Theodore Martin a’i wraig y bwthyn ym 1865 a’i ymestyn yn helaeth i greu enghraifft wych o dŷ Fictoraidd yn arddull yr Eidal, sef rhywbeth poblogaidd iawn yn y cyfnod.
Roedd Syr Theodore Martin yn fardd o’r Alban ond mae’n debyg ei fod fwyaf enwog am ei lyfr ‘The Life of the Prince Consort’ y gofynnodd y Frenhines Fictoria iddo ei ysgrifennu am ei gŵr, y Tywysog Albert. Roedd y cofiant 3,000 o dudalennau a phum cyfrol, mor llwyddiannus nes iddo ddod yn ffrind ar hyd ei oes i’r Frenhines, a hithau’n ymweld â Bryntysilio yn ystod ei hymweliad bum niwrnod â Gogledd Cymru ym 1889.
Roedd gwraig Theodore, Helena Faucit, yn actores enwog oedd yn adnabyddus am ei pherfformiadau yn nramâu Shakespeare yn ystod y 1830au a’r 1840au yn arbennig. Yn ystod ei bywyd priodasol, byddai weithiau’n actio er mwyn elusen, ac un o’i hymddangosiadau olaf oedd chwarae rhan Beatrice yn ‘Much ado about Nothing’ yn Stratford upon Avon ym 1879. Bu farw ym Mryntysilio yn 82 oed ym 1898. Cafwyd adroddiad llawn yn y papur newydd am bobl yn sefyll ar hyd y daith o’r bwthyn ar Orsaf Llangollen, ble cludwyd ei harch mewn trên i’w chladdu ym Mynwent Brompton yn Llundain.
Ym 1886, daeth eu ffrind, y bardd Robert Browning a’i chwaer i aros yng ngwesty’r Hand yn Llangollen am 10 wythnos er mwyn bod yn agos at ei ffrindiau ym Mryntysilio. Bob prynhawn Sul fe fydden nhw’n yfed te, pe bai’r tywydd yn braf, ar lawntiau’r tŷ oedd wedi eu trefnu yn derasau o erddi gyda llwyni nodweddiadol o gyfnod y 1800oedd sef llawryf a rhododendron. Er nad oedd yn eglwyswr rheolaidd, fe ai i wasanaethau’r prynhawn yn Eglwys Sant Tysilio, ac mae cofeb yn yr eglwys i ddynodi’r ymweliadau hyn.
Mae Bryntysilio heddiw yn ganolfan addysg awyr agored.
Bryntysilio © Heather Williams
4. Y Bont Gadwyni
Stori hynod am fentergarwch a dyfeisgarwch sydd y tu ôl i’r bont gadwyn arloesol hon.
Roedd yr entrepreneur Exuperius Pickering yn berchen ar byllau glo yn Rhiwabon, a gwelodd gyfle i osgoi tollau yn Llangollen drwy adeiladu pont ar draws yr afon Dyfrdwy yn y Berwyn. Cai glo a nwyddau eraill fel calch a haearn eu dadlwytho o gychod ar gamlas Llangollen, eu cludo dros y bont a’u cario wedyn ar hyd yr A5 i’r marchnadoedd llewyrchus.
Y Bont Gadwyni © Jo Danson
Roedd chwe philer derw yn dal y bont wreiddiol a godwyd ym 1817, gyda deuddeg o gadwyni haearn bwrw yn ei chryfhau wedyn. Mae’n bosibl fod y cynllun wedi dylanwadu ar y prosiectau oedd ar y gweill gan Telford, yn enwedig pontydd crog Conwy a Menai a gwblhawyd ganddo naw mlynedd yn ddiweddarach. Cofnodwyd manylion y bont wreiddiol gan Joseph Dutens ym 1819.
Dirywiodd y camlesi a ffynnodd y rheilffyrdd yn y 1860au ac aeth y bont gyntaf yn adfail. Ond, ym 1876, penderfynodd Henry Robertson y peiriannydd rheilffordd a pherchennog cyfoethog Gwaith Haearn Brymbo, adeiladu pont arall ond pont droed y tro hwn. Cadwodd Robertson y cadwyni gwreiddiol ond newidiodd y pileri derw am rai haearn.
Parodd yr ail bont hon hyd 1928 nes y cafodd ei sgubo i ffwrdd gan lifogydd ofnadwy. Flwyddyn yn ddiweddarach, adeiladodd mab Henry hi unwaith eto fel pont droed grog, gan ail-ddefnyddio’r cadwyni gwreiddiol. Roedd chwe chadwyn yn hongian i ddal y dec oddi fry, gyda dwy arall o dan y dec. Er mwyn dangos cryfder y bont newydd, safodd 45 o’r gweithiwr arni yn ystod yr agoriad swyddogol! Roedd y bont newydd yn llawer gwell o ran cryfder ac nad oedd y llifogydd yn effeithio cymaint arni. Fe barhaodd am bron i 50 mlynedd ond penderfynwyd ym 1984 nad oedd yn ddiogel.
Ar ôl ei hesgeuluso am dros 20 mlynedd, prynodd Cyngor Tref Llangollen a Chyngor Cymuned Llandysilio-yn-Iâl y bont hanesyddol am £1 a gweithio er mwyn codi arian i’w hadfer. Ail agorodd y bont yn 2015 gyda nifer o’r dolenni gwreiddiol yn dal i gael eu defnyddio. Golyga hyn mai dyma’r dolenni cadwyn hynaf yn y byd i fod yn cael eu defnyddio mewn pont grog, ac felly mae’r bont yn un o bwysigrwydd byd-eang.
Manylion cyswllt Cadwyn © Heather Williams
© Amgueddfa Llangollen
© Amgueddfa Llangollen
© Amgueddfa Llangollen
5. Chain Bridge Hotel
Codwyd y Bridge Inn ar gyfer gweithwyr Pickering. Mae cyfrifiad 1841 yn cofnodi mai William Davies yw’r tafarnwr ac yna, ugain mlynedd yn ddiweddarach roedd John Roberts yn byw yma a’i deulu’n gweithio fel asiant glo yn ogystal â chadw’r dafarn.
Chain Bridge Hotel
Wrth i’r bont ddod yn boblogaidd gydag ymwelwyr, codwyd adeilad mwy deniadol y Chain Bridge Hotel yn yr 1860au pan adeiladwyd Gorsaf Reilffordd Berwyn mewn arddull debyg ffug-Duduraidd. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, yn 45 oed, roedd gan William Davies bellach 6 o blant ac yntau ddim ond yn gweithio i gadw’r dafarn, gan awgrymu fod nifer y cwsmeriaid wedi cynyddu.
Parhaodd y Chain Bridge Hotel i wasanaethu twristiaid Fictoraidd ac erbyn1900 roedd yn westy. Bellach, gallai ymwelwyr gyrraedd yma’n hawdd ar y rheilffordd a manteisio ar atyniadau hamdden fel y teithiau mewn cwch gyda’r ceffylau’n eich llusgo ar hyd y gamlas at y Bont Gadwyni ac yn ôl.
© Trwy garedigrwydd Library of Congress
6. Gorsaf Reilffordd Berwyn
Mae Gorsaf Reilffordd Berwyn yn uchel uwchben yr afon Dyfrdwy gyda golygfeydd tuag at y Bont Gadwyni a’r gwesty. Cytunodd Major Charles Tottenham y cai llinell rheilffordd Llangollen i Gorwen groesi ei dir pe cai Gorsaf Berwyn ei chodi at ddefnydd ei deulu ef. Yn wir, roedd Major Tottenham, Uchel Siryf Sir Ddinbych, yn un o brif randdeiliaid y rheilffordd newydd a chwaraeodd rhan bwysig yn y gwaith adeiladu.
© Heather Williams
Agorodd yr orsaf ym 1865 a dyma’r arosfan gyntaf i’r gorllewin o Langollen ar y llinell a adeiladwyd gan Thomas Brassey o dan gyfarwyddyd y peiriannydd rheilffordd Henry Robertson.
Ceir mynediad i’r orsaf dros y bont a thrwy dwnnel y Bont Gadwyni a adeiladwyd ganol y 1800oedd er mwyn creu mynediad o’r afon i fyny at yr orsaf. Roedd rhan weithredol adeilad yr orsaf ar y llawr isaf gyda thŷ meistr yr orsaf yn bennaf yn y rhan ddu a gwyn trawiadol ar y llawr uchaf.
Mae’r briciau gwyn gwydrog yn y twnnel yn cynnwys negeseuon difyr. Mae rhai wedi eu hysgrifennu gan filwyr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a phrin y gellir eu darllen gan fod y milwyr wedi cael pensiliau annileadwy. Mae un neges gan yr Is-gorporal R Roberts ar 25 Rhagfyr 1914 yn awgrymu ei fod wedi cael dyrchafiad ac wedi dod adref am wyliau Nadolig. Mae neges deimladwy arall gan Alfred James Candy a laddwyd yn y brwydro yn Fflandrys yn dweud ‘Rydw i wir eisiau’r babi hwn’.
Adeiladwyd traphont pum bwa Pont y Brenin dros y Bont Gadwyni rhwng 1902 a 1906 i gludo ffordd dros yr afon a’r gamlas. Fe’i henwyd i gofnodi corni’r Brenin Edward VII. Mae’r cynllun yn un eithaf cymhleth gan ei bod yn croesi’r afon a’r gamlas, ac hefyd yn gwau drwy un o fwáu traphont y rheilffordd.
© Creative Commons Eirian Evans
7. Tŷ Craig (preifat)
Mae’r hen fap OS yn dangos fod chwarel galch yn yr ardal hon yn y 1800oedd. Adeiladwyd cyfres o odynau calch ar ddechrau’r 1800oedd gan y diwydiannwr Exuperius Picking Senior rhwng y gamlas a’r afon, ac maen nhw bellach yng ngardd breifat Tŷ Craig a adeiladwyd ar gyfer rheolwr yr odyn galch.
Mae llun dyfrlliw o ddechrau’r 1800oedd yn dangos golygfa tuag at Bentrefelin a Llangollen, gyda mwg yn tasgu o’r odynau calch a cheffylau’n tynnu’n galed ar y wagenni. Mae’r darlun hefyd yn dangos pont godi dros y gamlas, sydd wedi ei newid am bont garreg. Mae’r bont garreg yn llai na’r pontydd bwaog arferol wrth i’r gamlas gulhau yma gan nad oedd wedi ei bwriadu i ganiatáu cychod hyd at Rhaeadr y Bedol.
© Heather Williams
8. Dyfrbont Eglwyseg
Mae waliau bwaog uchel Dyfrbont Eglwyseg yn cludo’r gamlas dros yr afon Eglwyseg.
Mae gan y dyfrbont un bwa mawr dros yr afon, ac un arall ar gyfer y cwrs dŵr i gludo’r dŵr o Felin Pentre, yr hen felin flawd ar gyfer Abaty Glyn y Groes. Fe’i hadeiladwyd gyda deunyddiau traddodiadol i greu’r gwaith carreg a’r clai i greu leining i ddal dŵr y gamlas.
© Heather Williams
9. Chwareli Llechi a Thramffordd Oernant
Yn wreiddiol, cai llechi o’r chwareli ym Moel y Faen, Oernant a Chlogau, a elwir bellach yn Berwyn, eu prosesu ar y safle a’u cludo gyda cheffyl a chert i lawr at y gamlas. Cynlluniwyd tramffordd Oernant gan y peiriannydd o Gernyw Henry Dennis, gyda chyfres o incleiniau. Roedd y dramffordd yn dod â llechi o’r tair chwarel i lawr y dyffryn serth i Bentrefelin ble cai ei lwytho ar gwch.
Roedd ceffylau’n tynnu’r wagenni ar hyd rhannau gwastad y dramffordd ond ar y rhannau mwy serth, cai’r wagenni eu rhaffu a’u symud i lawr yr inclein. Mae modd cyrraedd at y rhan fwyaf o wely’r trac heddiw.
Gwaith Llechi’r Berwyn, diwedd 1800au © Berwynslate.com
Gellir gweld rhan dda sydd wedi ei chadw mewn cyflwr ardderchog fel traphont 130m neu 142 llath o hyd, oedd yn cludo’r dramffordd ar draws yr afon Eglwyseg ym Mhentrefelin ger y gamlas.
Mae Pont Pentrefelin sy’n enghraifft wych o bont wreiddiol, yn dal i roi mynediad i’r hen waith a’r tai cyfagos. Roedd y dramffordd yn gweithredu hyd nes 1900 pan oedd wagenni stêm ac yna lorïau’n cludo llechi ar hyd y ffordd.
Daeth penllanw’r cloddio am lechi tua 1871 ond mae bellach yn digwydd mewn un chwarel yn unig, sef chwarel fach deuluol y Berwyn sy’n cwblhau’r broses gyfan o’r cloddio i gwblhau eitemau unigryw fel byrddau gwaith llechi, cerrig aelwyd, sil ffenestri a lloriau.
Gweithwyr Chwarel, dechrau’r 1900au © Gyda chaniatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru
10. Gwaith Slabiau a Llechi Pentrefelin
Adeiladwyd Gwaith Slabiau a Llechi Pentrefelin yn yr 1840au wrth ymyl glanfa’r gamlas ar lain cul o dir rhwng yr afon Dyfrdwy a Chamlas Llangollen, er mwyn prosesu’r llechi o’r chwareli ger Bwlch yr Oernant.
Ar un cyfnod roedd gan y gwaith wyth plaen, tair lli gron a sgleiniwr tywod.
Ni ellid hollti’r llechi yn ddigon tenau ar gyfer toi ond cawsant eu troi yn gerrig llorio, palmentydd, cerrig beddi, a byrddau biliards a byrddau ar gyfer llawdriniaethau hyd yn oed.
© Heather Williams
Gallai bywyd yn y gwaith fod yn beryglus. Ym 1877, roedd John Williams, y fforman cynorthwyol yn y gwaith wedi clymu dau slab oedd yn pwyso cyfanswm o tua 5cwt neu 254kg ar gadwyn craen teithiol, a rhoddodd orchymyn i’w symud tuag at gwch oedd yn aros. Torrodd un ochr o’r trawst a gwasgwyd ei goes pan ddisgynnodd y slabiau. Bu farw o’i anafiadau wythnos yn ddiweddarach.
Bu John Paull, rheolwr y Gwaith Llechi, yn byw yn Pentrefelin House o 1855. Roedd yn aelod brwd o gapel y Methodistiaid a chynhaliwyd gwasanaethau yn Saesneg yma hyd at 1863 pan godwyd y capel.
Parhaodd y Gwaith Llechi hyd gychwyn y 1900oedd ac yna gweithredu fel gwaith rwber tan ganol y 1900oedd. Bu’n ffatri pinnau dur ac yna yn waith silica ar gyfer carreg tsieina tan 1986 ac yna daeth yn gartref i Amgueddfa Foduron Llangollen gydag ystod o 60 o gerbydau o’r prif gar ‘Humphrey’, sef enillydd Triumph TR 1962, i gar padlo Austin J40.
© Amgueddfa Llangollen
© Heather Williams
© Heather Williams