Cyflwyniad
Yn y gorffennol, byddai Basn Trefor wedi bod yn fwrlwm gyda chychod yn cael eu gwneud neu eu hatgyweirio, a thunelli o lo a nwyddau yn cael eu trosglwyddo rhwng cychod camlas a thramiau. Heddiw, mae’n ganolbwynt ar gyfer ymwelwyr a phobl leol yn ystod misoedd yr haf, ac mae’n fan prysur gyda badau’r gamlas yn angori neu’n troi ar hyd Camlas Llangollen, â phobl yn dewis cerdded, padlo eu canŵau neu wthio eu beics dros y ddyfrbont.
Mae’r dociau sych yn cael eu defnyddio hyd heddiw fel yr oeddent 200 mlynedd yn ôl, ond mae’r warysau a’r adeiladau wedi canfod pwrpas newydd fel tafarndai, caffis a chanolfannau croeso.
Cliciwch ar unrhyw farciwr Pwynt o Ddiddordeb i weld y disgrifiad
1. Dyfrbont Pontcysyllte
Dyfrbont Pontcysyllte yw trysor pennaf Safle Treftadaeth y Byd. Mae ei chroesi’n brofiad anhygoel, yn gyffrous neu’n ofnus, yn dibynnu sut rydych yn teimlo am uchder! Dyma oedd y ddyfrbont fordwyol uchaf yn y byd am dros 200 mlynedd, ar 38 metr neu 126 troedfedd uwchben Afon Dyfrdwy.
Datblygodd William Jessop a Thomas Telford y dyluniad ar gyfer dyfrbont gyda phierau o garreg yn cynnal cafn haearn bwrw. Dyma oedd y ddyfrbont uchaf i gael ei chynllunio ar y pryd, a’r prosiect cyntaf i ddefnyddio haearn bwrw ar raddfa mor fawr yn Ewrop. Y contractwr ar gyfer y gwaith cerrig oedd John Simpson, a William Hazledine ar gyfer y gwaith haearn.
Paentiad J Bluck © Gyda chaniatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Gwrandewch ar…
…sŵn y caiacwyr yn croesi’r ddyfrbont
Mae’r ddyfrbont yn cael ei chynnal gan 18 pier tywodfaen wedi’i gloddio o Gefn Mawr gerllaw, a bwâu haearn bwrw sy’n cario cafn haearn cul am bellter o 307 metr/1007 troedfedd, gan ei gwneud y ddyfrbont fordwyol hiraf pan fe’i hadeiladwyd. Does dim syndod bod yr awdur Syr Walter Scott wedi disgrifio’r ddyfrbont fel ‘nant yn yr awyr’ a’r ‘darn mwyaf trawiadol o gelf’ a welodd erioed.
Cyflenwodd William Hazledine yr haearn bwrw o’i ffowndri yng Nghefn Mawr a’r Amwythig, a’r haearn gyr o Ffwrn Upton.
Gweler y canllaw haearn bwrw ar ochr y llwybr tynnu’n unig. Nid oedd bwriad gosod canllaw ar yr ochr arall, felly mae angen i deithwyr ar gychod fod yn ofalus iawn wrth groesi’r ddyfrbont!
Gellir gweld lle’r oedd y rhaffau ar y rheilen ar ddechrau’r ddyfrbont, o’r cyfnod pan roedd ceffylau’n tynnu’r cychod. Mae plac sy’n nodi cost y ddyfrbont hefyd, sef £47,000 – a fyddai dros £4 miliwn heddiw. Mewn gwirionedd, cost y ddyfrbont oedd £38,500, a’r arglawdd yn arwain at £8,500 ychwanegol.
© Heather Williams
© Heather Williams
© Heather Williams
2. Adeiladu’r Ddyfrbont
Cafodd un o’r camlesi gorau a mwyaf y byd i gael ei chreu yn y cyfnod ei gynnal ar ben Froncysyllte, lle adeiladwyd arglawdd 23 metr neu 75 troedfedd o uchder gan ddefnyddio cerrig aeth yn wastraff yn ystod y gwaith o adeiladu twnnel a thoriadau’r Waun a Whitehouse.
© Hawlfraint y Goron: CBHC
Adeiladwyd pierau’r ddyfrbont cam ar y tro, a gefnogwyd gan bontydd pren dros dro, a oedd yn cario tramffordd yr adeiladwaith. Roedd y gweithwyr yn adeiladu i lefel nesaf bob pier, gan ddechrau gyda’r pellaf, ac yn gweithio’n ôl tuag at Trefor. Yna, roedd y pontydd dros dro yn cael eu datgymalu a’u symud i’r lefel newydd, nes bod y pierau ar eu huchder mwyaf. Roedd y pierau’n solid hyd at 21 metr/70 troedfedd, ac yna’n wag i’w gwneud yn ysgafnach.
Gwelir marciau’r gwaith adeiladu o hyd ar y pierau hyn. Mae cychwyn y rhan wag wedi’i marcio gan dyllau draenio crwn. Dyluniwyd rhai blociau cerrig i gael eu tynnu hefyd, fel bod modd archwilio’r adrannau gwag. Mae blociau sgwâr yn nodi lle roedd y deciau pren dros dro a ddefnyddiwyd i adeiladu’r ddyfrbont yn sownd. Cafodd gwaed 1700 ychen ei gymysgu gyda morter calch i rwymo’r gwaith cerrig, ac yna roedd yr ych yn cael eu bwydo i’r gweithwyr.
Roedd y peirianwyr yn talu sylw arbennig o anarferol i ddiogelwch y gweithwyr. Roedd William Jessop yn pryderu y gallai’r dynion fod yn ‘benfeddw ac arnynt ofn gosod cerrig gyda gymaint o wagle oddi tanynt’. Serch hynny, er clod iddynt, ysgrifennodd Telford yn ddiweddarach: ‘dim ond un dyn ddisgynnodd yn ystod oll weithredoedd adeiladu’r pierau…ac roedd hynny oherwydd ei ddiofalwch ei hun’.
© Jo Danson
© Heather Williams
3. Plac Sefydliad y Peirianwyr Sifil i Thomas Telford
Yn 2007, 250 mlynedd ar ôl genedigaeth Thomas Telford, cododd Sefydliad y Peirianwyr Sifil gofeb i nodi ei oes o waith yn dylunio, ac yn cynghori ar gamlesi, pontydd, ffyrdd a harbwrs ledled Prydain, yn ogystal â Sweden. Mae’r gofeb ar ffurf cerrig milltir a osododd Thomas Telford ar hyd y ffordd o Lundain i Gaergybi.
© Heather Williams
Telford oedd Arlywydd cyntaf y Sefydliad o 1820 nes bu farw, pedair blynedd ar ddeg yn ddiweddarach. Yn ei flynyddoedd cynnar, cafodd y llusenw ‘Laughing Tam’ oherwydd roedd ganddo ysbryd hynaws a sionc, ac roedd ganddo chwerthiniad llawn bywyd! Yn ddiweddarach cafodd lusenwau llawer mwy clodfawr megis ‘Tad Bedydd Peirianneg Sifil’ a ‘Chawr y Ffyrdd’.
Fe anwyd Thomas Telford yn yr Alban, ac roedd yn brentis i saer maen lleol. Fe symudodd i Gaeredin, ac yna i Lundain, lle enillodd gyfeillgarwch a nawddogaeth AS yr Amwythig Syr William Pulteney, a oedd yn wreiddiol o’r un ardal yn yr Alban sef Swydd Dumfries. Cafodd Telford ei gomisiynu ganddo i ailfodelu ei breswylfa yng Nghastell yr Amwythig, a creodd waith Telford gymaint o argraff arno, fel y chwaraeodd rôl allweddol yn ei benodiad fel Syrfëwr Gweithiau Cyhoeddus Swydd Amwythig.
Fel peiriannydd blaengar, roedd Telford yn awyddus i geisio defnyddio deunyddiau newydd, ac fe arloesodd ddefnydd haearn bwrw wrth adeiladu dyfrbont Longdon dros yr Afon Tren yn Swydd Amwythig.
Yn 1793, penodwyd Telford yn Asiant Cyffredinol, sydd gymesur â Phrif Weithredwr, ar Gwmni Camlas Ellesmere, gydag adran ohono yn dod yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte.
Mae ei Ffordd Caergybi, a adeiladwyd i gysylltu Llundain gydag Iwerddon, yn pasio drwy Safle Treftadaeth y Byd. Cafodd Pontydd eiconig Conwy a Menai eu dylunio gan Telford, ac ar y pryd, Pont Menai oedd yr hiraf a’r uchaf yn Ewrop.
Cafodd ei waith gorau ei wneud yn yr Alban, lle’r oedd yn gyfrifol am adeiladu dros 900 milltir o ffyrdd a dros 1000 o bontydd, ac adeiladu a gwella dros 100 porthladd, megis porthladd Wick yng ngogledd yr Alban. Fe ddyluniodd Pulteneytown hefyd, sef datblygiad tai ar gyfer pysgotwyr.
Bu farw yn 1834 yn ei gartref yn San Steffan, ac fe’i claddwyd yn yr Abaty gerllaw.
© The Milestone Society
© Trwy garedigrwydd Institution of Civil Engineers
4. Y Golygfeydd o’r Ddyfrbont
Gan edrych i’r gorllewin tuag at fynyddoedd Cymru mae’r hen Bont Cysylltau, weithiau’n cael ei galw’n Pont Sarn Ddu, a enwyd y ddyfrbont ar ei hôl. Mae Pontcysyllte’n golygu union hynny, ‘y bont sy’n cysylltu’. Mae’n enghraifft wych o bont o’r cyfnod ar ôl yr oesoedd canol gyda’r rhan hynaf yn dyddio’n ôl i 1679. Cafodd ei hailadeiladu i gynyddu ei lle, er bod angen ei hatgyweirio rhywfaint dros y blynyddoedd!
© Jo Danson
Yn edrych tuag at Loegr mae Traphont Cefn Bychan. Mae gan y traphont 19 bwa tywodfaen, ac mae’n enghraifft berffaith o ddyluniad rheilffordd gynnar, a ddisgrifir fel ‘darn rhyfeddol o gelf sy’n gorchfygu anawsterau natur’.
Nododd Henry Robertson yr angen i gludo deunyddiau, glo yn enwedig, o ardaloedd Rhiwabon a Wrecsam. Agorodd llinell rheilffordd yr Amwythig i Gaer yn 1848, ddwy flynedd ar ôl cwblhau’r draphont. Daeth yn rhan o system Reilffordd y Great Western yn 1854.
Yn uchel ar y clawdd ar ochr Trefor yr afon mae Wood Bank, tŷ unigryw a adeiladwyd yn yr 1790au. Caiff ei honni bod Thomas Telford wedi ei ddefnyddio fel swyddfa ddarlunio yn ystod y gwaith o adeiladu Dyfrbont Pontcysyllte, ac roedd yn lecyn manteisiol i gadw llygad ar y gwaith. Yn 1838, roedd yn cael ei nodi ar y map fel tŷ, swyddfeydd ac odyn brag. Roedd bragu’n cael ei wneud hyd at ddiwedd yr 1800au. Mae’r tŷ nawr mewn perchnogaeth breifat.
Bob 10 mlynedd, mae’r ddyfrbont yn cael ei harchwilio i sicrhau bod yr uniadau a’r gwaith cerrig yn parhau i fod mewn cyflwr da ac yn ddiogel i’w defnyddio. Mae’n cymryd diwrnod cyfan i wagio’r ddyfrbont, gan ryddhau 1.5 miliwn litr o ddŵr i’r Ddyfrdwy, oddi tani.
© Heather Williams
Golygfa o’r Bont a’r Ddyfrbont, T Wallis © Gyda chaniatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru
5. Digwyddiadau arbennig
Mae pobl wedi heidio i’r ddyfrbont i fod yn dyst i ddigwyddiadau arbennig. Y cyntaf o’r achlysuron hyn oedd pan osododd Richard Myddelton, AS y Waun, ac un o noddwyr gwreiddiol Camlas Ellesmere, garreg gyntaf y ddyfrbont ar 25 Gorffennaf 1795. Mae plac ar yn o’r pierau ar och Froncysyllte’r Afon Dyfrdwy yn nodi’r achlysur hwn.
Cyflwyniad cofrestru Safle Treftadaeth y Byd 2009 © Heather Williams
Merched Llangollen – Adlewyrchu ar Bontcysyllte
Deng mlynedd yn ddiweddarach ar 26 Tachwedd 1805, ymgasglodd tyrfa o 8000 o bobl ar gyfer agoriad mawreddog y ddyfrbont. Gwyliodd y dyrfa wrth i orymdaith o chwe chwch adael Basn Froncysyllte ychydig cyn 2pm. Roedd y cwch cyntaf yn cario Iarll Bridgewater gyda gŵyr pwysig eraill, gan gynnwys y tirfeddiannwr lleol Syr Watkin Williams Wynne. Dilynodd Thomas Telford, aelodau pwyllgor a ‘Merched Llangollen’ yn yr ail gwch. Roedd y trydydd cwch yn cario band Gwirfoddolwyr Swydd Amwythig a oedd yn canu ‘God Save the King’ a chaneuon eraill megis ‘Rule Britannia’. Llenwyd y cwch nesaf gyda pheirianwyr ac eraill, megis perchnogion y cloddfeydd a’r ffowndrïau oedd yn gysylltiedig â’r gwaith o adeiladu’r ddyfrbont.
Roedd y ddau gwch olaf yn wag, yn barod i gario’r llwythau cyntaf o lo o lofeydd Plas Kynaston William Hazledine ar draws y ddyfrbont. Cyn gynted ag aeth y cwch cyntaf ar y ddyfrbont, taniwyd saliwt o ganon a chafwyd bloedd gan y gynulleidfa oedd yn gwylio. Mewn araith yn yr agoriad swyddogol, cafodd ei ddatgan yn feiddgar bod y ddyfrbont yn ‘yr arfaeth i gludo cyfoeth teyrnas y mwynau i fyd y diwydiant, ac oddi yno, i’r bydysawd’.
Cafodd yr achlysur ei ailberfformio yn 2005 i nodi dau ganmlwyddiant agor y ddyfrbont, gyda gorymdaith o gychod yn teithio dros y gamlas.
Fe nodwyd Dyfrbont Pontcysyllte a’r Gamlas fel Safle Treftadaeth y Byd ar 27 Mehefin, 2009, deng mlynedd ar ôl cael ei chynnwys ar restr fer o 25 safle posib.
Cynhaliwyd dathliadau ar 3 Hydref 2009 i nodi’r cyflawniad arbennig hwn, gyda dadorchuddiad o’r plac a chyflwyniad o dystysgrif arysgrif ar Restr Treftadaeth y Byd UNESCO.
Band Pres Llangollen © Heather Williams
‘Saturn’ yn ystod y dathliadau 2009 © Heather Williams
Cacen i ddathlu 10 mlynedd © Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
© Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
6. Basn Trefor
Cei Trefor oedd iard adeiladu Dyfrbont Pontcysyllte pan ddechreuodd y gwaith o’i hadeiladu yn 1795. Agorodd y cei ar gyfer defnydd cyffredinol yn 1805 a dyma oedd y terminws ar gyfer prif Gamlas Ellesmere. Y cynllun yn wreiddiol oedd parhau â’r gamlas i Wrecsam, Caer a’r Ferswy, ond roedd yn rhy ddrud ac yn hytrach, cynigiwyd camlas fach i gyflenwi dŵr ar gyfer y gamlas o’r Afon Dyfrdwy.
© Heather Williams
Roedd yr adeilad garreg a ddefnyddiwyd gan y cwmni cychod Eingl-Gymreig yn warws yn wreiddiol ar gyfer nwyddau oedd angen eu gwarchod o’r tywydd.
Ger y cei, mae Scotch Hall Bridge, a ddyluniwyd gan Thomas Telford a Matthew Davidson i gario Ffordd Newydd dros y gamlas. Mae’n ddyluniad arloesol cynnar, gyda bwa fflat o gerrig sy’n cael ei gefnogi gan trawstiau haearn bwrw, a oedd yn caniatáu dynesiad cymedrol ar gyfer traffig y ffordd. Yn wreiddiol dim ond un bwa oedd yn bodoli, ond ychwanegwyd bwâu i bob ochr i ganiatáu i’r tramffordd basio o dan y ffordd.
Tu hwnt i’r bont roedd terminws tair milltir Rheilffordd Ffrwd Rhiwabon, sef tramffordd a arweinir gan geffyl, a oedd yn gwasanaethu glofeydd, gwaith haearn, gweithfeydd brics a diwydiannau eraill. Roedd linellau ar bob ochr i orsafoedd terminws y gamlas, gan ei wneud yn rhwydd i lwytho cychod o’r wagenni. Ar ddiwedd y gangen ar yr ochr dde, roedd porthladd cychod.
Adeiladwyd y dramffordd yn 1864-7 fel tramffordd lled safonol confensiynol, a chafwyd locomotif stêm i’w gweithredu. Ar yr un pryd, adeiladwyd warws dros y porthladd fel bod modd symud nwyddau rhwng y rheilffordd a’r gamlas dan do.
Yn agos i’r porthladd mae bwa wedi’i fordio o bont lle’r oedd camlas breifat Plas Kynaston. Cafodd ei adeiladu yn yr 1820au i wasanaethu’r odynau calch a’r glofeydd, ond o 1870 ymlaen y prif ddefnyddiwr oedd y gweithfeydd cemegol yng Nghefn Mawr.
© Jo Danson
7. Ardal y Doc Sych
Mae cychod wedi cael eu hatgyweirio yn y dociau sych ers adeiladu’r gamlas. Maent yn cael eu defnyddio hyd heddiw, ac maent yn enghraifft o gannoedd o ddociau sych a adeiladwyd ledled system y gamlas.
Mae gatiau yn cau’r gamlas fel bod y dŵr yn gallu cael ei ddraenio i ffwrdd o’r dociau, er mwyn archwilio ac atgyweirio cychod cyn ail-lenwi’r doc pan mae’r cwch yn barod i adael. Ychwanegwyd yr adeilad sy’n gorchuddio’r doc yn ddiweddarach.
Bwthyn ‘Dock Cottage’ © Heather Williams
Cafodd rhwng pump a deg o bobl eu cyflogi i gynnal a chadw’r cychod a’r wagenni ar gyfer y dramffordd. Yn 1914, adeiladwyd chwe chwch yma oherwydd roedd yr adeiladwyr cychod a oedd yn cael eu cyflogi yng Nghaer ar streic. Roedd ‘rhain yn cynnwys y ‘cychod chwim’, a oedd yn gychod cludo cyflym a adeiladwyd i gludo nwyddau pwysig a darfodus.
Roedd Sadwrn yn un o’r cychod carlam hyn a adeiladwyd yng Nghaer yn 1906 ac fe’i defnyddiwyd i gludo caws a chynnyrch ffres o ffermydd yn Swydd Caer a Swydd Amwythig i drefi a dinasoedd diwydiannol, megis Manceinion a Wolverhampton. Fe barhaodd fel cwch cario nwyddau a dynnwyd gan geffyl nes yr 1950au, nes iddo gael ei drawsnewid i fod yn gwch gwesty. Cafodd ei hadnewyddu’n llawn erbyn 2005, ac fe gymerodd rhan yn nau ganmlwyddiant agor Dyfrbont Pontcysyllte. Mae Sadwrn nawr yn cael ei ddefnyddio fel adnodd addysgu ac atyniad treftadol.
Adeiladwyd Bwthyn Doci ar gyfer rheolwr y dociau ar ddechrau’r 1800au, ond erbyn 1838 cafodd estyniad ei adeiladu arno i gynnwys gefail a siop gwrw. Gallwch weld lle roedd y to dyrchafedig mewn bric ar dalcen yr eiddo, uwchben y tywodfaen gwreiddiol.
Mae’n debyg bod adeilad canolfan groeso Ymddiriedolaeth y Gamlas a’r Afon, sy’n dyddio’n ôl i’r 1800au, wedi’i ddefnyddio fel gweiddai a storfeydd yn wreiddiol.
© Heather Williams
© Canal & River Trust
8. Telford Inn/Scotch Hall
Mae plac uwchben drws y Telford Inn yn datgelu’r enw gwreiddiol, sef Scotch Hall. Adeiladwyd y tŷ ar ddiwedd yr 1790au ac mae’n nodweddiadol o waith Thomas Telford fel pensaer, gyda tho talcen slip a bondo yn hongiad uwchben. Mae’r llawr gwaelod yn cynnal cynllun y neuadd ganol gydag ystafelloedd sgwâr.
Credir bod y tŷ wedi cael ei adeiladu ar gyfer Matthew Davidson. Roedd Thomas Telford yn adnabod Matthew Davidson gan i’r ddau gael eu magu yn yr Alban, ac eisoes wedi cydweithio ar brosiectau pont yn Swydd Amwythig. Fel ffrind, gofynnodd i Matthew Davidson, a oedd yn cael ei adnabod fel ‘llyfrgell symudol’, i fod y peiriannydd goruchwyliol preswyl ar gyfer y ddyfrbont.
Roedd Scotch Hall yn y lleoliad delfrydol i Matthew Davidson oruchwylio gwaith adeiladu’r ddyfrbont, a gallai Thomas Telford aros yma wrth arolygu’r cynnydd. Chwaraeodd Davidson rôl allweddol yng ngwaith dylunio’r ddyfrbont a’r gamlas. A dweud y gwir, wth ysgrifennu at ffrind yn 1797, cyfeiriodd Telford at ‘ddyfrbont enwog Davidson, sydd bron yn cael ei gyfri ymysg Rhyfeddodau Cymru’.
Disgynnodd Davidson mewn cariad gyda Chymru, yn ogystal â’r ferch Gymraeg a briododd, ond ar ôl cwblhau’r ddyfrbont, fe symudodd yn ôl i’r Alban i weithio ar y Gamlas Galedonaidd, gan weithio gyda Telford unwaith eto.
Yn ôl y sôn, yr adeilad unllawr sy’n estyniad i’r prif adeilad oedd Tŷ’r Cyfrifydd, lle talwyd y gweithwyr yn ystod y gwaith o adeiladu’r ddyfrbont.
© Jo Danson
© Hawlfraint y Goron: CBHC
9. Capel Bryn Seion
Adeiladwyd Capel Methodistaidd Bryn Seion yn 1902 i ddisodli capel hŷn oedd wedi’i leoli yn agosach at Afon Dyfrdwy. Caeodd y capel yn 1993 ac fe’i drawsnewidwyd yn siop hen greiriau. Cafodd ei werthu eto, a’i adfer cyn agor fel ystafell de yn 2018, y man perffaith i ddirwyn taith i ben!
© Jo Danson
Roedd angen disodli’r capel mae’n debyg, oherwydd bod y gynulleidfa wedi cynyddu heibio maint yr adeilad gwreiddiol, fel y digwyddodd gyda sawl capel anghydffurfiol yn yr 1800au i ddechrau’r 1900au. Ychydig ar ôl adeiladu’r capel, mae’n debyg bod rhagor fyth o bobl wedi dod i’r capel ar ddyddiau Sul, oherwydd yn 1904 fe ledaenodd yr Adfywiad Methodistaidd, dan arweiniad Evan Roberts, ledled Cymru.
© Heather Williams