Teithiau

Ewch ar daith o amgylch Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte i ddarganfod mwy am Gamlas Llangollen a’r effaith a gafodd wrth i ddiwydiant ddatblygu ac wrth i gymunedau lleol dyfu. Cewch gyfarfod rhai o’r arloeswyr diwydiannol, y gweithwyr ac ymwelwyr cynnar â Dyffryn Dyfrdwy yn ogystal â’r bobl sy’n byw ac yn gweithio o amgylch y gamlas heddiw.

Mae yna naw taith i’w mwynhau. Archwiliwch Safle Treftadaeth y Byd yn llawn, sy’n un filltir ar ddeg i gyd, ar daith Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte neu gallwch ddod i adnabod rhai o’r ardaloedd yn well ar y teithiau unigol.

Chirk Aqueduct from below

Y Waun

Tref Ffiniol

Mae’r Waun yn cynnwys sawl nodwedd beirianyddol, gyda dyfrbont, traphont a thwnnel wedi’u clystyru o amgylch yr ardal, a oedd unwaith yn gei cyhoeddus ar gyfer y dref. Adeiladwyd y draphont sawl blwyddyn ar ôl y dyfrbont ac roedd yn darparu cystadleuaeth chwyrn ar gyfer masnach ar y gamlas, ond heddiw maent yn gorwedd yn gytûn yn y tirlun yn eu tywodfaen cynnes.

Pontcysyllte Aqueduct

Pontcysyllte

Y Nant yn yr Awyr

Dyfrbont Pontcysyllte yw trysor pennaf Safle Treftadaeth y Byd. Dyma oedd dyfrbont dalaf a fordwyol y byd am dros 200 mlynedd ar ôl iddi agor yn 1805, ac fe’i hadeiladwyd gan ddefnyddio technoleg arloesol. Mae creosi’r ddyfrbont yr un mor gyffrous heddiw ag yr oedd pan y’i hagorwyd am y tro cyntaf.

Cefn Mawr

Cefn Mawr

Pentref a siapiwyd gan Adnoddau Naturiol

Mae’r cyfoeth o adnoddau naturiol o amgylch Cefn Mawr yn cynnwys tywodfaen o ansawdd uchel, haen fawr o lo gyda dyddodion clai cysylltiol, a mwynglawdd haearn, sydd wedi cael ei gloddio ers yr oesoedd canol. Wrth i ddiwydiant ddatblygu, tyfodd y pentref i ddiwallu anghenion poblogaeth gynyddol.

Y Galedryd

Porth i Safle Treftadaeth y Byd

Mae Pont y Galedryd yn borth i Safle Treftadaeth y Byd ble roedd tirwedd bryniog Cymru yn creu her i’r peirianwyr oedd angen gweld sut y gellid cludo’r gamlas ar draws dyffrynnoedd dyfnion yr afonydd.

Horseshoe Falls Llangollen

Llandysilio-yn-Iâl

Man Cychwyn Camlas Llangollen

Mae Rhaeadr y Bedol yng nghanol harddwch Dyffryn Dyfrdwy, ac yn ganolbwynt i’r tirlun deniadol hwn sydd wedi ysbrydoli awduron, artistiaid a cherddorion dros y canrifoedd. Yma, daw dŵr o’r Ddyfrdwy i fwydo Camlas Llangollen drwy gored a gynlluniwyd gan William Jessop, Thomas Telford a Thomas Denson i gyd-fynd â’r amgylchedd a’i wella.

Lift Bridge Froncysyllte

Froncysyllte

Y Gymuned ger y Gamlas

Ffynnodd Froncysyllte wrth i’r gamlas gynnig trafnidiaeth hawdd a chyfleoedd i fusnesau dyfu. Mae’r bont godi eiconig yn ganolbwynt i’r pentref, ac ar hyd y gamlas mae dau fryncyn o odynau calch yn aros i’n hatgoffa o’r diwydiant a fu yma.

Looking up at pontcysyllte aqueduct piers

Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte

Eiconau Diwydiannol mewn Tirwedd Ddeniadol

Mae Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte yn ymestyn am un ar ddeg milltir o Raeadr y Bedol yn Llandysilio i Bont y Galedryd yn Swydd Amwythig. Mae nodweddion peirianyddol sydd wedi eu dylunio’n gain yn hybu’r dirwedd ac yn ymddangos fel pe baent yn cludo’r gamlas yn ddiymdrech ar draws dau ddyffryn dwfn a thrwy dir pantiog.

Llangollen

Llangollen

Lle mae Cymru a’r Byd yn dod ynghyd

Mae Llangollen, yn harddwch Dyffryn Dyfrdwy, wedi denu ymwelwyr ers blynyddoedd lawer, i edmygu’r golygfeydd a mwynhau teithiau cerdded ar hyd yr afon a glan y gamlas. Mae arlunwyr ac awduron yn dal i gael eu hysbrydoli gan y tirlun godidog sy’n llawn nodweddion naturiol a hanesyddol.

Llangollen Wharf

Glanfa Llangollen

O Fasnach i Dwristiaeth

Mae Glanfa Llangollen yn un o’r llefydd mwyaf poblogaidd ar hyd Camlas Llangollen. Yma mae ceffylau’n tynnu llond cychod o ymwelwyr cyffrous ar hyd y gamlas, yn union fel y gwnaethon nhw am bron i 150 o flynyddoedd. Ar hyd y gamlas i gyfeiriad Trefor, cewch olygfeydd arbennig o Gastell Dinas Brân a Chreigiau Trefor, ble bu gwaith cloddio helaeth dros y blynyddoedd.