Personoliaethau mawr, uchelgais, athrylith greadigol
Tirwedd Diwydiannol Blaenafon
Mae’r dirwedd drawiadol a rhyfeddol hardd hwn wedi’i ffurfio gan ddwy ganrif o gloddio glo a haearn a gwneud haearn. Yn ei ganol mae Gwaith Haearn Blaenafon, y gwaith haearn mwyaf a mwyaf technolegol yn y byd pan gafodd ei agor yn 1787. Mae’n un o’r adeiladau pwysicaf sydd wedi goroesi o flynyddoedd cynnar y Chwyldro Diwydiannol.
Tyfodd cymuned ffyniannus o amgylch y Gwaith Haearn. Cafodd cartrefi eu hadeiladu yng nghysgod y ffwrneisi ar gyfer y gweithwyr a’u teuluoedd yn ogystal ag ysgol ar gyfer plant y gweithwyr haearn. Creodd hunangymorth Neuadd y Gweithwyr lle ymdrechodd dynion, drwy addysg, am fywyd gwell.
Ers i’r Gwaith Haearn a’r pyllau gau, mae grug a phlanhigion rhostir wedi cytrefu tomenni gwastraff diffaith a chreithiau chwarel yn y dirwedd o’i amgylch, gan greu cynefin ucheldir lle mae bywyd gwyllt yn ffynnu ymysg olion yr hen dramffyrdd. Nid yn unig mae Blaenafon yn dyst i ymdrech ddynol, mae hefyd yn dyst i rym iacháu natur.
Cestyll a Muriau Tref y Brenin Edward yng Ngwynedd
Mae pedwar caer fawr Harlech, Biwmares, Conwy a Chaernarfon a adeiladwyd gan Edward I ar arfordir gogledd Cymru yr enghreifftiau gorau o bensaernïaeth filwrol ganoloesol o’u bath yn Ewrop. Nhw oedd y darn olaf yng nghynllun strategol y Brenin i goncro Cymru.
Mae’n dyst i gryfder y Cymry fod Edward yn teimlo ei bod yn angenrheidiol i anfon y grym milwrol mwyaf a welwyd erioed ym Mhrydain ganoloesol i Gymru yn 1277. Ei darged oedd y ‘rebel ac aflonyddwr ar heddwch y Brenin’, y Tywysog Cymreig uchelgeisiol Llywelyn ap Gruffudd. Wedi’i orfodi i encilio i’w berfeddwlad yng ngogledd Cymru, cafodd Llywelyn ei amgylchynu gan gadwyn o gestyll newydd a adeiladwyd gan y brenin.
Arweiniodd teyrnasiad gormesol Edward at wrthryfel Cymreig arall yn 1282, a bu farw Llywelyn yn ystod hwnnw. I ‘roi terfyn o’r diwedd ar falais y Cymry’ adeiladodd y Brenin fwy o symbolau ei nerth: cestyll cylch consentrig yn Harlech a Biwmares, a phalasau caer yng Nghaernarfon a Chonwy, lle amgylchynodd y ddau gastell a thref gyda waliau amddiffynnol enfawr. Heddiw mae’r cestyll a’r muriau trefi hyn gyda’i gilydd yn ffurfio Safle Treftadaeth y Byd.
© Hawlfraint y Goron. CBHC
© Hawlfraint y Goron. CBHC
© Rheilffordd Talyllyn Railway
Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru
Mae Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru wedi ei leoli yng Ngwynedd ac yn cynnwys chwech ardal allweddol. Mae’r dirwedd yn arddangos stori anhygoel yr esblygiad o gymdeithas amaethyddol yr ucheldir i un wedi’i ddominyddu gan y diwydiant llechi; gyda trefi, chwareli a chysylltiadau trafnidiaeth yn naddu eu ffordd trwy fynyddoedd Eryri i lawr i’r porthladdoedd eiconig.
O fewn tirwedd llechi gogledd orllewin Cymru mae modd i chi weld, darllen a deall pob cam o’r diwydiant cloddio yn well na mewn unrhyw fan arall o’r byd. Y chwareli enfawr, pyllau dwfn, ceudyllau a thomenni anferthol; melinau prosesu; systemau trafnidiaeth yn cynnwys inclêns serth, ffyrdd, rheilffyrdd a phorthladdoedd; cymunedau wedi eu creu ar gyfer y gweithlu a thai crand y perchnogion; defnydd o’r cynnyrch terfynol o’n cwmpas ym mhob man.
Ceunant Ironbridge
Mae Ceunant Ironbridge yn cynnwys deg Amgueddfa arobryn ar hyd y dyffryn ger yr Afon Hafren, cewch gyfle i ryfeddu at y bont haearn gyntaf a adeiladwyd yn1779 a chael blas ar fywyd fel yr oedd dros ganrif yn ôl drwy olygfeydd, synau, arogleuon a blasau Blast Hill, tref Fictorianaidd wedi ei hail-greu.
Mae Ironbridge yn enwog drwy’r byd fel symbol o’r Chwyldro Diwydiannol Mae’n cynnwys holl elfennau’r twf a gyfrannodd at ddatblygiad cyflym yr ardal ddiwydiannol hon yn y ddeunawfed ganrif, o’r gweithfeydd eu hunain i’r rheilffyrdd. Gerllaw mae ffwrnais Coalbrookdale, a adeiladwyd yn 1708, yn ein hatgoffa o ddarganfyddiad golosg. Cafodd y bont yn Ironbridge, y bont gyntaf yn y byd a wnaethpwyd o haearn, gryn ddylanwad ar ddatblygiadau ym meysydd technoleg a phensaernïaeth.
Am fwy o wybodaeth am Ironbridge, ewch i wefan Ironbridge, Neu cysylltwch â’r ganolfan groeso ar +44 (0) 1952 433424.