Mae’r sefydliadau sy’n gweithio mewn partneriaeth i ofalu am Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont Pontcysyllte a Chamlas Trefor yn gyfrifol am sefydlu cynlluniau i ddiogelu a gwarchod gwerth cyffredinol eithriadol y safle ar gyfer cymuned fyd-eang ehangach a chenedlaethau’r dyfodol.
Mae’r dogfennau cyfeirio canlynol yn amlinellu eu gweledigaeth, cynlluniau rheoli a fframweithiau polisi
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio i : ar gyfer man cyrraedd a maes parcio newydd yn bennaf ar gyfer Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte, ac mae’n cynnwys: mannau parcio ceir, bysiau a beics, llwybrau ar gyfer cerbydau a theithio llesol, arwyddion, cyfeirbyst, ffensys ychwanegol a llwybr cerdded a beicio at ddibenion hamdden i Ddyfrbont a Chamlas Pontcysyllte drwy Fasn Trefor.
Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n dymuno gwneud sylwadau ynglŷn â’r datblygiad arfaethedig hwn ysgrifennu at y ceisydd/ yr asiant yn; pontcysyllte@wrexham.gov.uk neu Tîm Adfywio Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Neuadd y Dref , Wrecsam, L11 1AY